BSc

Sŵoleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Sŵoleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C302 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Aberystwyth yn lle rhagorol i astudio bywyd anifeiliaid yn ei holl amrywiaeth. Mae yma gyfoeth o arfordiroedd, aberoedd, coetiroedd a bryniau sy’n llawn bywyd gwyllt o fewn cyrraedd rhwydd i’r campws. Mae’r rhain yn cynnal pryfed prin, y barcud coch a’r frân goesgoch, ac mae Bae Ceredigion yn enwog am adar y môr, y morlo llwyd, y dolffin trwyn potel a’r llamhidydd harbwr. 

Trosolwg o'r Cwrs

Yn ystod eich cwrs Swoleg byddwch yn datblygu arbenigedd ym maes amrywiaeth esblygiad, ymddygiad, anatomeg ac ecoleg anifeiliaid.  

Mae’r amrywiaeth o gynefinoedd difyr a phwysig a geir yn Aberystwyth, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, glaswelltir a'r arfordir, yn creu ystafell ddosbarth naturiol ddelfrydol ar gyfer dysgu sgiliau ymarferol. 

Cewch hefyd y cyfle i ddysgu sgiliau maes ym myd swoleg ac ecoleg drofannol, ac ymddygiad anifeiliaid – a hynny’n lleol a thramor mewn amgylcheddau coedwigoedd glaw trofannol tra-amrywiol megis basn yr Amazon neu Costa Rica. 

Mae Aberystwyth dafliad carreg oddi wrth lawer o gynefinoedd sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys safle UNESCO Biosffer Dyfi, dau wlypdir RAMSAR, dwy ardal cadwraeth arbennig forol, dwy Warchodfa Natur Genedlaethol, sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig i enwi dim ond rhai, sy'n cynnig cyfleoedd gwaith maes a hamdden gwych i chi.  

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Invertebrate Zoology BR25420 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Behavioural Ecology BR23920 20
Evolution and Molecular Systematics BR21720 20
Freshwater Biology BR22020 20
Marine Biology BR22620 20
Tropical Zoology Field Course BR23820 20
Veterinary Health BR27120 20
Wildlife Management BR27220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour Field Course BR34920 20
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Parasitology BR33820 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion wedi dilyn llwybrau gyrfa cyffrous mewn meysydd megis cadwraeth a lles anifeiliaid, ac ymchwilio i’r amgylchedd naturiol. Mae rhai wedi dewis astudio ar lefel uwchraddedig neu mewn ysgol filfeddygaeth. 

Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:

  • I gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
  • I wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
  • I ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
  • I gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
  • I wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.

Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig. Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.

Dysgu ac Addysgu

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch galluogi i deilwra'ch astudiaethau i feysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Byddwch yn gallu canolbwyntio naill ai ar yr anifail cyfan, bioleg poblogaeth a chadwraeth, neu ar agweddau mwy cymhwysol ar Swoleg, fel parasitoleg.

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio pynciau sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • Amrywiaeth bywyd ar y Ddaear, o organebau ungellog i'r anifeiliaid infertebraidd a fertebraidd amlgellog, gan gysylltu ffurf â swyddogaeth a'r digwyddiadau esblygiadol allweddol sydd wedi digwydd.
  • Egwyddorion sylfaenol ecoleg a'r berthynas rhwng rhywogaethau sy'n cwmpasu trosglwyddo ynni, rhyngweithiadau o fewn a rhwng rhywogaethau, defnyddio adnoddau ac ati.
  • Pwysigrwydd planhigion fel cynhyrchwyr cynradd, eu morffoleg, eu ffisioleg a'u haddasiadau ecolegol.
  • Egwyddorion geneteg o foleciwlau i boblogaethau a rhywogaethau.
  • Adeiledd a swyddogaeth celloedd ewcaryotig a chemeg moleciwlau mewn celloedd.
  • Fforenseg bywyd gwyllt gan ddefnyddio entomoleg ac ecotocsicoleg fforensig, a'r defnydd o ddulliau 'bargodio' DNA er mwyn helpu i ddatrys troseddau bywyd gwyllt.
  • Gallwch hefyd ddilyn pynciau sy'n gysylltiedig â'r prosesau amgylcheddol mawr ar y Ddaear sydd wedi dylanwadu ar fflora a ffawna, hanes ein dealltwriaeth o Fioleg a sut mae wedi datblygu dros amser, ac amrywiaeth bywyd microbaidd a'u pwysigrwydd fel pathogenau, cydymddibynwyr ac yn yr ecosystem.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Bioleg anifeiliaid infertebraidd a fertebraidd yn cwmpasu eu hesblygiad, eu ffisioleg, eu hecoleg ac ati.
  • Esblygiad organebau gan gynnwys rhywogaethu, ffylogeneteg a geneteg poblogaeth.
  • Ymddygiad anifeiliaid gan gynnwys ei swyddogaeth, achosiaeth, datblygiad ac esblygiad.
  • Egwyddorion ac arfer ystod o weithdrefnau meintiol ac ansoddol sylfaenol, dadansoddi, dehongli a gwerthuso data.
  • Cewch hefyd astudio pynciau sy'n ymwneud â chadwraeth rhywogaethau a rheoli cynefinoedd, rôl gerddi swolegol ar gyfer gwarchod anifeiliaid, a thaith maes i Beriw.
  • Mae cyfleoedd hefyd i wella eich sgiliau cyflogadwyedd drwy astudio eich ail flwyddyn mewn sefydliad Ewropeaidd (taith gyfnewid ERASMUS+) neu Ogledd America. Neu gallwch wneud blwyddyn mewn gwaith rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch profiad gwaith a fydd yn berthnasol i'ch gradd mewn Swoleg. Os na allwch sicrhau profiad gwaith yna byddwch yn trosglwyddo i'r chwaer gwrs, sef BSc Swoleg (C300). 

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cael eich addysgu am:

  • Ffisioleg ymddygiadol, gan fanylu ar y mecanweithiau sy'n sail i ymddygiad ac uwch ymddygiadau gan gynnwys cyfeiriadedd a mordwyo.
  • Ecoleg poblogaeth gan ganolbwyntio ar y modelau a ddefnyddir i gyfri am ddosbarthiad a helaethrwydd organebau.
  • Traethawd hir gorfodol o dan oruchwyliaeth aelod o staff addysgu Swoleg.
  • Gallwch hefyd astudio pynciau sy'n gysylltiedig â chadwraeth bywyd gwyllt a phwysigrwydd geneteg o ran gwarchod rhywogaethau, parasitoleg sy'n cwmpasu amrywiaeth parasitiaid a'u potensial i achosi afiechyd, y bygythiadau presennol ac yn y dyfodol i rywogaethau ac ecosystemau, a lles anifeiliaid gan gynnwys y nodweddion ymddygiadol a ffisiolegol sy'n gysylltiedig â phoen a straen.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|