MA

Cymdeithas, Gofod, a Lle

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2023

Mae’r MA Cymdeithas, Gofod a Lle yn rhoi hyfforddiant uwch mewn arferion a damcaniaethau ymchwil, a methodoleg ansoddol a meintiol a fydd yn paratoi myfyrwyr am yrfaoedd mewn asiantaethau llywodraethol, cyrff cyhoeddus, athrofeydd ymchwil a chwmnïau ymgynghori preifat, neu i gynnal ymchwil ar lefel ddoethurol. Bydd myfyrwyr yn cwblhau modiwlau arbenigol mewn daearyddiaeth ddynol a disgyblaethau cytras, ac yn cyfranogi mewn ysgolin theori a dulliau gyda myfyrwyr o brifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Gall myfyrwyr ddisgwyl bod yn rhan o gymuned uwchraddedig egnïol a chymryd rhan yn niwylliant ymchwil gweithgar a chynhwysol yr Adran.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad A good 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

We invite applications from students from a range of backgrounds, including geography, sociology, anthropology, history, politics, environmental science, tourism, and other humanities and social science disciplines. The degree would also be suitable for students with a background in the natural or physical sciences (e.g. physical geography) who are wishing to retrain in the social sciences.

Applications can be made online by visiting our Postgraduate Application Portal, or can be made offline (by post or email). Please see our How to Apply page for more detail. 

Duration:

One year full-time. The academic year is divided into three semesters, running from the start of October to the end of September. 

Contact Time:

Averaging approximately 8-10 hours a week in the first two semesters. During semester three you will arrange your level of contact time with your assigned supervisor.

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunities may be available, please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

  • Mae’r cwrs yn llwybr hyfforddi a gydnabyddir gan Bartneriaeth Hyfforddi Doethurol ESRC Cymru, sy’n golygu y gallai myfyrwyr fod yn gymwys i ymgeisio am gyllid cystadleuol 1+ 3 i gwmpasu’r flwyddyn MA a PhD, neu gyllid +3 ar gyfer PhD dilynol.
  • Mae’r cwrs yn darparu hyfforddiant arloesol a thraws-sefydliadol gydag Ysgol Theori ac Ysgol Dulliau’n cael eu cyflwyno ar y cyd ag adrannau Daearyddiaeth prifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
  • Cyfle i gymryd rhan mewn dau grŵp ymchwil pwysig (y Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol a’r Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Wleidyddol Newydd) sy’n cynnwys arbenigwyr sy’n arwain neu sy’n cyfrannu’n rheolaidd at drafodaethau rhyngwladol.
  • Cyfle i rwydweithio a chynyddu eich profiad proffesiynol trwy seminarau gwadd rheolaidd yr adran a’r ysgol theori breswyl (a gynhelir ar y cyd â phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

Modiwlau Dechrau Medi - 2023

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Bydd myfyrwyr sy’n graddio o’r cwrs wedi sicrhau lefel uchel o gymhwysedd mewn:

  • cynllunio ymchwil
  • casglu data
  • dadansoddi data
  • cysyniadau a thrafodaethau allweddol yn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau gofodol.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa:

  • Ymgynghoriaeth ymchwil cymdeithasol ac economaidd
  • Ymgynghoriaeth Ymchwil Strategol
  • Marchnata a Datblygu Strategaeth
  • Swyddi cynllunio ar draws amrywiol sectorau’r farchnad
  • Rheolwr gweithrediadau technoleg gwybodaeth
  • Llywodraeth leol a chenedlaethol
  • Y Gwasanaeth Sifil
  • Bancio rhyngwladol, buddsoddi a phreifat
  • Y byd academaidd
  • Dysgu.

Bydd y rhaglen yn cyfoethogi eich:

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau ymchwil ac astudio
  • Dadansoddi beirniadol a gwerthuso
  • Sgiliau rheoli prosiect a datrys problemau
  • Gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau penodol i bwnc
  • Gallu i strwythuro a chyfleu syniadau cymhleth yn effeithlon.

Dysgu ac Addysgu

Sut fyddaf i’n dysgu?

Gellir astudio’r cwrs naill ai dros flwyddyn amser llawn neu ddwy flynedd yn rhan amser. Rhennir y flwyddyn academaidd yn dri semester. Pan fydd myfyrwyr yn astudio amser llawn, byddant yn cwblhau elfen addysgu’r cwrs yn semestrau un a dau, a gyflwynir trwy gyfuniad o seminarau, darlith-seminarau a thiwtorialau. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs hefyd yn mynychu ysgol theori, cyfres seminarau a darlithoedd gwadd a gynigir yn yr Adran. Yn ystod y semester olaf, bydd myfyrwyr yn cwblhau traethawd hir arbenigol dan arweiniad arbenigol arolygydd y traethawd hir.

 Beth fyddaf i’n ei ddysgu?

Yn y ddau semester cyntaf, byddwch yn dilyn nifer o fodiwlau craidd a dewisol, gyda chyfanswm o 120 o gredydau. Trwy’r modiwlau hyn byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o’r themâu allweddol a’r trafodaethau polisi mewn daearyddiaeth ddynol a phynciau cytras fel cymdeithaseg, gan gynnwys trafodaethau moesegol yn ymwneud ag ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, a gwahanol agweddau ymarferol, athronyddol, epistemolegol a damcaniaethol at y gwyddorau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil trwy ddilyn modiwlau hyfforddiant ymchwil. Yn y semester olaf byddwch yn cymhwyso eich dysgu yn y traethawd hir unigol werth 60 credyd arall.

 Sut caf i fy asesu?

Gan ddibynnu ar y modiwlau a ddewisir, gellir asesu trwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, cynigion ymchwil, dyddiaduron adfyfyriol, beirniadaeth ymchwil, adolygiadau llenyddiaeth, argymhellion polisi, a thrafodaethau seminar. Byddwch hefyd yn cyflwyno traethawd hir lefel Meistr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

|