MA

Cymdeithas a Gofod

Mae’r MA Cymdeithas a Lle yn rhoi hyfforddiant uwch mewn arferion a damcaniaethau ymchwil, a methodoleg ansoddol a meintiol. Fe’i cynlluniwyd fel porth penodol at ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, gan archwilio sut mae meddylwyr allweddol wedi deall themâu megid gofod, lle, cymdeithas, cymuned, cenedl, symudedd a phŵer, yn ogystal â rhoi hyfforddiant manwl ar ddulliau a fframweithiau moesegol sy’n sail i ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol.

Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o drafodaethau polisi, safbwyntiau moesegol, moesol a chyfreithiol, ac ymagweddau ymarferol, athronyddol, epistemegol a damcaniaethol at y gwyddorau cymdeithasol sy’n ymwneud â gofod. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol trwy ddilyn modiwlau hyfforddi arbenigol. Yna byddwch yn eu cymhwyso i gyd i’ch prosiect ymchwil ymarferol eich hun.

Bydd myfyrwyr yn cwblhau modiwlau arbenigol mewn daearyddiaeth ddynol a disgyblaethau cytras, ac yn cyfranogi mewn ysgolin theori a dulliau gyda myfyrwyr o brifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Gall myfyrwyr ddisgwyl bod yn rhan o gymuned uwchraddedig egnïol a chymryd rhan yn niwylliant ymchwil gweithgar a chynhwysol yr Adran.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad A good 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunities may be available; please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

  • Mae’r cwrs yn llwybr hyfforddi a gydnabyddir gan Bartneriaeth Hyfforddi Doethurol ESRC Cymru, sy’n golygu y gallai myfyrwyr fod yn gymwys i ymgeisio am gyllid cystadleuol 1+ 3 i gwmpasu’r flwyddyn MA a PhD, neu gyllid +3 ar gyfer PhD dilynol.
  • Mae’r cwrs yn darparu hyfforddiant arloesol a thraws-sefydliadol gydag Ysgol Theori ac Ysgol Dulliau’n cael eu cyflwyno ar y cyd ag adrannau Daearyddiaeth prifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
  • Cyfle i gymryd rhan mewn dau grŵp ymchwil pwysig (y Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol a’r Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Wleidyddol Newydd) sy’n cynnwys arbenigwyr sy’n arwain neu sy’n cyfrannu’n rheolaidd at drafodaethau rhyngwladol.
  • Cyfle i rwydweithio a chynyddu eich profiad proffesiynol trwy seminarau gwadd rheolaidd yr adran a’r ysgol theori breswyl (a gynhelir ar y cyd â phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Gwahoddwn geisiadau gan fyfyrwyr o amrywiol gefndiroedd, gan gynnwys daearyddiaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, hanes, gwleidyddiaeth, gwyddor amgylcheddol, twristiaeth a disgyblaethau eraill yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Byddai’r radd hefyd yn addas i fyfyrwyr â chefndir yn y gwyddorau naturiol neu ffisegol (e.e. daearyddiaeth ffisegol) sy’n dymuno ailhyfforddi yn y gwyddorau cymdeithasol.

Gellir ymgeisio ar-lein trwy ymweld â’n Porth Ymgeisio Uwchraddedig, neu fel arall (trwy’r post neu e-bost). Gweler y dudalen Sut i Ymgeisio i gael mwy o fanylion.

Hyd:

1 flwyddyn amser llawn.

Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Amser Cyswllt:

Ar gyfartaledd tua 8-10 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf. Yn ystod y trydydd semester byddwch yn trefnu lefel y cyswllt gyda’r arolygydd a neilltuir i chi.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Fydd y cwrs yn paratoi myfyrwyr am yrfaoedd mewn asiantaethau llywodraethol, cyrff cyhoeddus, athrofeydd ymchwil a chwmnïau ymgynghori preifat, neu i gynnal ymchwil ar lefel ddoethurol.

Bydd myfyrwyr sy’n graddio o’r cwrs wedi sicrhau lefel uchel o gymhwysedd mewn:

  • cynllunio ymchwil
  • casglu data
  • dadansoddi data
  • cysyniadau a thrafodaethau allweddol yn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau gofodol.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa:

  • Ymgynghoriaeth ymchwil cymdeithasol ac economaidd
  • Ymgynghoriaeth Ymchwil Strategol
  • Marchnata a Datblygu Strategaeth
  • Swyddi cynllunio ar draws amrywiol sectorau’r farchnad
  • Rheolwr gweithrediadau technoleg gwybodaeth
  • Llywodraeth leol a chenedlaethol
  • Y Gwasanaeth Sifil
  • Bancio rhyngwladol, buddsoddi a phreifat
  • Y byd academaidd
  • Dysgu.

Bydd y rhaglen yn cyfoethogi eich:

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau ymchwil ac astudio
  • Dadansoddi beirniadol a gwerthuso
  • Sgiliau rheoli prosiect a datrys problemau
  • Gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau penodol i bwnc
  • Gallu i strwythuro a chyfleu syniadau cymhleth yn effeithlon.

Dysgu ac Addysgu

Sut fyddaf i’n dysgu?

Gellir astudio’r cwrs naill ai dros flwyddyn amser llawn neu ddwy flynedd yn rhan amser. Rhennir y flwyddyn academaidd yn dri semester. Pan fydd myfyrwyr yn astudio amser llawn, byddant yn cwblhau elfen addysgu’r cwrs yn semestrau un a dau, a gyflwynir trwy gyfuniad o seminarau, darlith-seminarau a thiwtorialau. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs hefyd yn mynychu ysgol theori, cyfres seminarau a darlithoedd gwadd a gynigir yn yr Adran. Yn ystod y semester olaf, bydd myfyrwyr yn cwblhau traethawd hir arbenigol dan arweiniad arbenigol arolygydd y traethawd hir.

 Beth fyddaf i’n ei ddysgu?

Yn y ddau semester cyntaf, byddwch yn dilyn nifer o fodiwlau craidd a dewisol, gyda chyfanswm o 120 o gredydau. Trwy’r modiwlau hyn byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o’r themâu allweddol a’r trafodaethau polisi mewn daearyddiaeth ddynol a phynciau cytras fel cymdeithaseg, gan gynnwys trafodaethau moesegol yn ymwneud ag ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, a gwahanol agweddau ymarferol, athronyddol, epistemolegol a damcaniaethol at y gwyddorau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil trwy ddilyn modiwlau hyfforddiant ymchwil. Yn y semester olaf byddwch yn cymhwyso eich dysgu yn y traethawd hir unigol werth 60 credyd arall.

 Sut caf i fy asesu?

Gan ddibynnu ar y modiwlau a ddewisir, gellir asesu trwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, cynigion ymchwil, dyddiaduron adfyfyriol, beirniadaeth ymchwil, adolygiadau llenyddiaeth, argymhellion polisi, a thrafodaethau seminar. Byddwch hefyd yn cyflwyno traethawd hir lefel Meistr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

|