PGCE

Saesneg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os oes arnoch eisiau helpu disgyblion i’w mynegi eu hunain, i feddwl yn feirniadol ac i ddatblygu'r sgiliau hanfodol y bydd arnynt eu hangen i lwyddo, nid yn unig mewn Saesneg fel pwnc ond hefyd mewn agweddau eraill ar addysg a’r tu hwnt i hynny, bydd ein cwrs TAR Saesneg yn Aberystwyth yn berffaith ar eich cyfer. Nod y cwrs uwchradd TAR Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw rhoi'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu ymateb beirniadol a chreadigol dysgwyr i iaith a llenyddiaeth. Gan weithio o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, byddwch yn cael eich hyfforddi i ddysgu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n llawn gwybodaeth ac yn hyderus am y byd y tu hwnt i'r ysgol. 

Yn amodol ar gael ei achredu gan Education Workforce Council.

Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hon. Rydym yn cynnig TAR Saesneg trwy gyfrwng y Saesneg (3EGZ).

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor y DU (Anrhydedd), neu gyfwerth rhyngwladol, mewn pwnc perthnasol. Dylai lleiafswm o 50% o gynnwys y radd Baglor hon fod yn berthnasol i'r pwnc rydych chi am ei ddysgu (h.y. Saesneg).

Gofynion Iaith Saesneg Sylwch fod hwn yn gwrs cant y cant trwy gyfrwng y Gymraeg

Gofynion Eraill TGAU Gradd C naill ai am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith (Iaith Gyntaf). Mae hefyd angen Gradd C am TGAU Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd. Mae cymwysterau eraill sy’n dangos cyflawniad ar yr un lefel yn dderbyniol. Cysylltwch â staff Derbyn TAR am fanylion: ellstaff@aber.ac.uk. Mae profiad neu gyfnod arsylwi mewn ysgol yn fantais. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad yn rhan o’r drefn o ddethol.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn un arloesol ac integredig sy’n ymateb i anghenion addysg athrawon yn yr 21ain ganrif, ac yn hyfforddi darpar athrawon a fydd yn gallu addysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae'r pwyslais hwn ar addysgu ar draws cyfnodau yn cyd-daro â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a Chwricwlwm Cymru, yn ogystal â'r cynnydd a welir yn nifer yr ysgolion Pob Oed. Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn, sy'n cynnwys, yn fras, darpariaeth o tua 12 wythnos mewn prifysgolion, ac o leiaf 24 wythnos yn yr ysgol.  

Ynghyd â'ch cyd-fyfyrwyr ar y rhaglenni cynradd ac uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion effeithiol addysgeg, asesu, a chynllunio gwersi a maes llafur. Byddwch yn cymryd rhan weithredol trwy addysgu, cyfrannu at seminarau, rhoi cyflwyniadau, ac ymchwilio'n feirniadol. Yn ystod sesiynau'r Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno mân-wersi i baratoi am elfen ymarferol y cwrs.  

Byddwch yn astudio’r cwricwlwm Saesneg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Dysgu a Chyfathrebu a byddwch yn cydweithio . Myfyrwyr o feysydd pynciol eraill i ddatblygu eich arferion tra’n gweithio ar draws y cwricwlwm. Byddwch yn canolbwyntio ar ddysgu iaith a llenyddiaeth i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys manylebau TGAU ac UG/Safon Uwch Saesneg Iaith a Llenyddiaeth. 

Cynhelir y lleoliadau mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle mae gan ysgolion gysylltiadau agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Yn y lleoliad, byddwch yn cydweithio'n agos â'ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu.  

Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, byddwch yn cael cyfnod byr ar leoliad mewn ysgol gynradd ac yn cydweithio ag athrawon cynradd medrus. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil gweithredol i ddatblygu agwedd ar eich ymarfer a dechrau eich gyrfa fel athro sy'n seilio ymarfer ar ymchwil.  

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
TAR Ymarfer Dysgu ADM5000

Gyrfaoedd

Mae cwblhau TAR yn un ffordd o ddod yn athro cymwysedig llawn. Argymhellir y math hwn o hyfforddiant athrawon i unrhyw un sydd â gradd israddedig ac sy'n dymuno ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC).  

Mae angen SAC arnoch i addysgu yn ysgolion y wladwriaeth neu mewn ysgolion arbennig yng Nghymru a Lloegr. Er bod llwybrau eraill i ennill SAC, nid yw pob un yn arwain at gymhwyster ôl-raddedig TAR. Mae TAR o Brifysgol Aberystwyth yn gymhwyster gwerthfawr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  

Pan fyddwch yn astudio cwrs TAR gyda ni, rydym yn eich cynorthwyo i baratoi am yrfa lwyddiannus mewn addysg. Fe gewch gyfeiriad clir, cyngor a chymorth wrth wneud ceisiadau am swyddi ac mae cyfraddau ein myfyrwyr sy’n mynd ymlaen i swydd yn gyson uchel. 

Cymorth gyda gyrfa  

Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig gwasanaeth gydol oes i'r holl raddedigion, a gall y tîm ymroddedig o ymgynghorwyr Gyrfaoedd sydd gennym barhau i'ch cefnogi ble bynnag y byddwch ar ôl i chi orffen eich astudiaethau yn Aberystwyth. 

Dysgu ac Addysgu

Mae'r cwrs TAR mewn Saesneg yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Raddedig.   

Yn draddodiadol, mae'r cwrs yn para o fis Medi i ddiwedd mis Mehefin. Bydd athrawon dan hyfforddiant ar leoliad mewn ysgolion am 26 wythnos. Dan arweiniad tiwtoriaid y Brifysgol a mentoriaid ysgol hyfforddedig, bydd hyn yn cynnwys addysgu yn yr ystafell ddosbarth a chyflawni gwahanol weithgareddau yn yr ysgol. Bydd yr elfen o’ch cwrs a addysgir yn cael ei chyflwyno mewn wyth wythnos a dreulir yn y Brifysgol. Y Brifysgol sy’n trefnu'r holl leoliadau ysgol. Yn ystod eich lleoliad byddwch yn cael cyfle i addysgu, cynllunio eich gwersi, ac mewn rhai achosion cymryd rhan yn yr elfen gofal bugeiliol o waith athrawon, ymhlith dyletswyddau eraill. Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn dweud wrthym eu bod wir wedi mwynhau'r profiad a'u bod yn cael eu derbyn yn llwyr yn rhan o amgylchedd yr ysgol.  

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu ar y cwrs, gan gynnwys traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, a phrosiect ymchwil gweithredol. Ni cheir arholiadau ffurfiol. Cynhelir asesiad parhaus o ymarfer ym mhob un o'r tri lleoliad. 

|