PGCE

Cymraeg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae cwrs y Gymraeg PGCE yn Prifysgol Aberystwyth yn anelu at alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ymarferwyr egnïol, creadigol, a brwdfrydig er mwyn cymell dysgwyr i ymateb yn feirniadol ac yn greadigol i iaith a llenyddiaeth. Anelir at feithrin disgyblion i ddod yn siaradwyr hyderus mewn amrywiol gyweiriau, yn ddarllenwyr brwd ac yn ysgrifennwyr hyderus fydd yn mynegi eu hunain yn glir a chroyw.

Yn amodol ar gael ei achredu gan Education Workforce Council.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor y DU (Anrhydedd), neu gyfwerth rhyngwladol, mewn pwnc perthnasol. Dylai lleiafswm o 50% o gynnwys y radd Baglor hon fod yn berthnasol i'r pwnc rydych chi am ei ddysgu (h.y. Cymraeg).

Gofynion Iaith Saesneg Sylwch fod hwn yn gwrs cant y cant trwy gyfrwng y Gymraeg

Gofynion Eraill TGAU Gradd C naill ai am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith (Iaith Gyntaf). Mae hefyd angen Gradd C am TGAU Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd. Mae cymwysterau eraill sy’n dangos cyflawniad ar yr un lefel yn dderbyniol. Cysylltwch â staff Derbyn TAR am fanylion: ellstaff@aber.ac.uk. Mae profiad neu gyfnod arsylwi mewn ysgol yn fantais. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad yn rhan o’r drefn o ddethol.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn un arloesol ac integredig sy’n ymateb i anghenion addysg athrawon yn yr 21ain ganrif, ac yn hyfforddi darpar athrawon a fydd yn gallu addysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae'r pwyslais hwn ar addysgu ar draws cyfnodau yn cyd-daro â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a Chwricwlwm Cymru, yn ogystal â'r cynnydd a welir yn nifer yr ysgolion Pob Oed. Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn, sy'n cynnwys, yn fras, darpariaeth o tua 12 wythnos mewn prifysgolion, ac o leiaf 24 wythnos yn yr ysgol.  

Ynghyd â'ch cyd-fyfyrwyr ar y rhaglenni cynradd ac uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion effeithiol addysgeg, asesu, a chynllunio gwersi a maes llafur. Byddwch yn cymryd rhan weithredol trwy addysgu, cyfrannu at seminarau, rhoi cyflwyniadau, ac ymchwilio'n feirniadol. Yn ystod sesiynau'r Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno mân-wersi i baratoi am elfen ymarferol y cwrs.

Ar y cyd â’ch cyd-fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs cynradd a chyrsiau uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion addysgeg effeithiol, asesu, cynllunio gwersi a chynllunio cwricwlwm. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn dysgu, cyfrannu at seminarau, cyflwyniadau ac yn rhoi ystyriaeth feirniadol i ymchwil. Yn ystod y cyfnodau yn y Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno micro-wersi er mwyn paratoi at elfen ymarferol y cwrs. Byddwch yn astudio cwricwlwm Y Gymraeg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Dysgu a Chyfathrebu a byddwch yn cydweithio gyda myfyrwyr o feysydd pynciol eraill i ddatblygu eich arferion tra’n gweithio ar draws y cwricwlwm. 

Mae cwrs TAR Y Gymraeg yn ymwneud â dulliau damcaniaethol ac ymarferol o ddysgu’r Gymraeg i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys TGAU ac UG/U Y Gymraeg fel mamiaith ac ail Iaith. Bydd lleoliadau'n digwydd mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle bydd gan ysgolion gysylltiad agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Yn ystod y cyfnod ar leoliad, byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu. 

Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, cewch brofiad o leoliad byr mewn ysgol gynradd gydag athrawon cynradd sydd â sgiliau arbennig. Byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil gweithredol er mwyn datblygu elfen ar eich ymarfer a chychwyn eich gyrfa fel athro/athrawes sy’n hyddysg mewn ymchwil.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
TAR Ymarfer Dysgu ADM5000

Gyrfaoedd

Mae cwblhau TAR yn un ffordd o ddod yn athro cymwysedig llawn. Argymhellir y math hwn o hyfforddiant athrawon i unrhyw un sydd â gradd israddedig ac sy'n dymuno ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC).  

Mae angen SAC arnoch i addysgu yn ysgolion y wladwriaeth neu mewn ysgolion arbennig yng Nghymru a Lloegr. Er bod llwybrau eraill i ennill SAC, nid yw pob un yn arwain at gymhwyster ôl-raddedig TAR. Mae TAR o Brifysgol Aberystwyth yn gymhwyster gwerthfawr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  

Pan fyddwch yn astudio cwrs TAR gyda ni, rydym yn eich cynorthwyo i baratoi am yrfa lwyddiannus mewn addysg. Fe gewch gyfeiriad clir, cyngor a chymorth wrth wneud ceisiadau am swyddi ac mae cyfraddau ein myfyrwyr sy’n mynd ymlaen i swydd yn gyson uchel. 

Cymorth gyda gyrfa  

Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig gwasanaeth gydol oes i'r holl raddedigion, a gall y tîm ymroddedig o ymgynghorwyr Gyrfaoedd sydd gennym barhau i'ch cefnogi ble bynnag y byddwch ar ôl i chi orffen eich astudiaethau yn Aberystwyth.   

Dysgu ac Addysgu

Mae'r cwrs TAR mewn Cymraeg yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Raddedig.   

Yn draddodiadol, mae'r cwrs yn para o fis Medi i ddiwedd mis Mehefin. Bydd athrawon dan hyfforddiant ar leoliad mewn ysgolion am 26 wythnos. Dan arweiniad tiwtoriaid y Brifysgol a mentoriaid ysgol hyfforddedig, bydd hyn yn cynnwys addysgu yn yr ystafell ddosbarth a chyflawni gwahanol weithgareddau yn yr ysgol. Bydd yr elfen o’ch cwrs a addysgir yn cael ei chyflwyno mewn wyth wythnos a dreulir yn y Brifysgol. Y Brifysgol sy’n trefnu'r holl leoliadau ysgol. Yn ystod eich lleoliad byddwch yn cael cyfle i addysgu, cynllunio eich gwersi, ac mewn rhai achosion cymryd rhan yn yr elfen gofal bugeiliol o waith athrawon, ymhlith dyletswyddau eraill. Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn dweud wrthym eu bod wir wedi mwynhau'r profiad a'u bod yn cael eu derbyn yn llwyr yn rhan o amgylchedd yr ysgol.  

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu ar y cwrs, gan gynnwys traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, a phrosiect ymchwil gweithredol. Ni cheir arholiadau ffurfiol. Cynhelir asesiad parhaus o ymarfer ym mhob un o'r tri lleoliad.  

|