MSc

Newid Ymddygiad

Mae’r MSc mewn Newid Ymddygiad ym Mhrifysgol Aberystwyth yn mabwysiadu dull newydd amlddisgyblaethol o gyflwyno’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i feithrin gyrfa lwyddiannus yn y maes ysgogol hwn sydd ar ei dwf. Wrth i chi wynebu’r materion cymhleth a geir ar lefel genedlaethol a byd-eang mewn meysydd fel gwleidyddiaeth, troseddu, yr amgylchedd, diogelwch bwyd, iechyd ac addysg, byddwch yn archwilio atebion creadigol i gyfres o broblemau gweithredu cyfunol ac yn dysgu sut i gymhwyso egwyddorion newid ymddygiad i heriau’r byd go iawn mewn sectorau allweddol.

 Bydd y radd yn eich trwytho mewn gwybodaeth ac arbenigedd i allu llywio sefydliadau, dylanwadu ar lunwyr polisi, a chyflwyno newid strategol mewn ymddygiadau i gael effaith gadarnhaol a fydd o fantais i fusnesau, llywodraethau, cymunedau a chymdeithasau’n gyffredinol.

 Fel rhan o’ch hyfforddiant byddwch yn cynllunio datrysiadau arloesol - yn seiliedig ar dystiolaeth - i’r heriau newid ymddygiad diriaethol a wynebir gan ein cydweithredwyr allanol a’n partneriaid proffesiynol, er mwyn gallu gweld effaith eich argymhellion drosoch eich hun mewn cyd-destunau ymarferol.

 Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn gadael gyda sgiliau hanfodol i’ch gwneud yn gyflogadwy, sgiliau a nodir gan Fforwm Economaidd y Byd ymhlith y 15 sgil mwyaf dymunol, a byddwch hefyd yn datblygu medrau hanfodol mewn datrys problemau, cyfathrebu, a gwaith tîm sy’n sgiliau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree, or equivalent, in any subject discipline, to include demonstrable evidence of prior study of behaviour change.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Defnyddir dulliau deall ymddygiad gan arbenigwyr ac ymarferwyr mewn meysydd niferus ac amrywiol ac mewn cymwysiadau proffesiynol; yn wir, mae dealltwriaeth seicolegol wrth wraidd gwaith llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, daearyddwyr, arbenigwyr cysylltiadau rhyngwladol, ac arweinwyr busnes wrth iddynt geisio cael y gorau o ymddygiad dynol mewn meysydd arbenigol.

 Mae’r radd arloesol hon yn tynnu ar ysgolheictod aml- a thrawsddisgyblaethol o’r Adran Seicoleg, yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Ysgol Fusnes Aberystwyth, a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, i’ch rhoi mewn sefyllfa i arbenigo yn eich dewis ddisgyblaeth: daearyddiaeth, seicoleg, busnes neu gysylltiadau rhyngwladol. Bydd eich modiwlau dewisol a’r traethawd hir yn adlewyrchu eich dewis o ddisgyblaeth arbenigol.

 Cewch eich cyflwyno i seicoleg ymddygiad dynol a dulliau newid ymddygiad o safbwyntiau seicolegol niferus (gan gynnwys canghennau esblygol, gwybyddol, cymdeithasol, biolegol a datblygiadol mewn seicoleg). Byddwch hefyd yn dysgu am seiliau strwythurol, sefydliadol a systemig ymddygiad, yn ogystal ag egwyddorion ac ymarfer dialog trawsddisgyblaethol a chydweithio.

 Mae cyfleoedd arbenigol i fyfyrwyr Newid Ymddygiad yn Aberystwyth yn cynnwys:

  • sylfaen seicolegol drylwyr mewn newid ymddygiad yn ogystal â sail gymdeithasegol gynhwysfawr
  • hyfforddiant mewn datrys problemau cydweithredol ar gyfer heriau cyfoes i’ch paratoi am y gweithle
  • opsiynau niferus o ddulliau asesu gwaith cwrs a dewisiadau traethawd hir yn seiliedig ar heriau ymddygiadol a osodir gan randdeiliaid ar sail profiad
  • addysg mewn dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol
  • darlithoedd gwadd gan gydweithredwyr a rhanddeiliaid allanol, er enghraifft Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, busnesau lleol a Llywodraeth Cymru.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Math o radd: MSc

Cod y cwrs: C801

Cyfnod: Un flwyddyn amser-llawn neu dau flynedd rhan-amser

Amser cyswllt: Tua 10-14 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf, yna amser cyswllt y cytunir arno gyda’r arolygydd a neilltuir i chi.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Yn ôl Adroddiad Bwlch Sgiliau Byd-eang QS 2019, y sgiliau cyflogadwyedd pwysicaf ar hyn o bryd yw datrys problemau, cyfathrebu, a gwaith tîm; y tri bwlch sgiliau mwyaf yw datrys problemau, gwydnwch, a chyfathrebu; ac mae cyflogwyr yn fwyaf anfodlon â sgiliau cyd-drafod, arweinyddiaeth ac ymwybyddiaeth fasnachol eu gweithwyr. Yn yr un modd, mae Adroddiad Dyfodol Swyddi 2020 (Fforwm Economaidd y Byd) yn nodi mai meddwl dadansoddol ac arloesi, dysgu gweithredol a strategaethau dysgu, datrys problemau cymhleth, meddwl beirniadol a dadansoddi, a chreadigrwydd, gwreiddioldeb a menter oedd y 15 sgil gorau am 2015. Yn olaf, mae adroddiad Pearson, 'The Future of Skills: Employment in 2030', yn rhestru barn a gwneud penderfyniadau, llif syniadau, cloriannu systemau, datrys problemau cymhleth, rheoli adnoddau personél, a dysgu gweithredol ymhlith ei sgiliau uchaf ar gyfer y dyfodol. Gydag agwedd draws-ddisgyblaethol drylwyr, ffocws ar ddatblygu sgiliau yn ogystal â chynyddu gwybodaeth, ac ymgysylltu â chydweithredwyr allanol wrth gynllunio a chyflwyno, mae’r MSc Newid Ymddygiad yn sicr yn gosod pwyslais ar yr holl sgiliau hyn.

Byddai graddedigion y cwrs MSc Newid Ymddygiad yn addas i swyddogaethau yn y sector iechyd, busnes a rheoli, llywodraeth leol a chenedlaethol, sefydliadau anllywodraethol, lobïo, cynllunio ac ymgynghori amgylcheddol, ac yn unrhyw gyd-destun lle byddai’n ddefnyddiol, yn foesegol ac yn ddymunol, i hwyluso newid ymddygiad.

Dysgu ac Addysgu

Mae’r canlynol ymhlith y modiwlau craidd y gallech eu hastudio ar y cwrs:

  • The Psychology of Behaviour Change
  • Transdisciplinary Dialogue
  • Research with People
  • Risk, Resilience and Behaviour in a Changing Environment.

Byddwch hefyd yn dewis dau fodiwl o’r adrannau sy’n cyfrannu (os byddant ar gael) yn ôl eich diddordebau eich hun, a allai gynnwys:

  • Implementation Science (Psychology)
  • Global Climate Change: Debates and Impacts (Geography)
  • People and Organisations (Business)
  • Global Challenges and the Future of International Relations Theory (International Politics)
  • Managing Environmental Change in Practice (Geography)
  • Marketing Management Strategy (Business).

Dulliau addysgu

Cewch eich addysgu gan staff academaidd arbenigol trwy ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau.

Yn ystod y ddau semester cyntaf (Medi – Mai) fel arfer bydd gennych 3-4 awr o amser cyswllt uniongyrchol gyda’ch tiwtor ym mhob modiwl, a disgwylir i chi dreulio amser astudio sylweddol dan arweiniad ac yn annibynnol y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Bydd sesiynau ychwanegol hefyd yn gweithio ar ddatblygu eich traethawd hir. Yn ystod semester 3 cewch gymorth gan arolygydd eich traethawd hir; byddwch yn cytuno ar amser cyswllt rhyngoch.

Dulliau asesu

Cewch eich asesu trwy draethodau, ysgrifennu adroddiadau, a chyflwyniadau (llafar a phoster) gan gynnwys cynadleddau bach.

|