UCert

Ysgoloriaeth Nuffield

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2025

Rhoddir y Dystysgrif Uwchraddedig hon ym Mhrifysgol Aberystwyth i’r rhai sy’n derbyn Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield yn unig. Daw Ysgolorion Nuffield o gefndiroedd addysgol amrywiol.  Maent i gyd yn gyflogedig/hunangyflogedig yn y sector bwyd-amaeth neu mewn diwydiannau ategol ac yn rhannu’r awydd i greu effaith yn eu priod feysydd. 

Mae Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield yn ariannu ysgolorion i deithio i unrhyw le yn y byd am gyfnod o 8 wythnos o leiaf er mwyn iddynt ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'u pwnc astudio dewisol. Ar ôl dychwelyd o'u teithiau, byddant yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig ac yn cyflwyno eu canfyddiadau yng Nghynhadledd Flynyddol Ffermio Nuffield, gan gynnwys argymhellion i'r diwydiant perthnasol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Current or past Nuffield Scholar

Gofynion Eraill At least 2 years’ relevant experience in the agrifood sector

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn gyfan gwbl ar-lein ac wedi'i gynllunio ar y cyd â rhaglen Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield. Ei nod yw cefnogi ysgolorion i ddatblygu, dadansoddi, ysgrifennu a chyflwyno prosiectau academaidd trylwyr. Amcanion cyffredinol y rhaglen yw rhoi sgiliau i’r rhai sydd wedi derbyn yr ysgoloriaeth er mwyn iddynt allu gwneud y canlynol:

  • esbonio'r heriau, yn y presennol a’r dyfodol, sy'n wynebu'r sector bwyd-amaeth
  • cyfuno gwybodaeth a ddaw o ddiwydiant â thestunau a adolygwyd gan gyd-academyddion
  • cymharu'r dulliau a ddefnyddir i fynd i'r afael â’r heriau penodol a wynebir gan y diwydiant
  • pwyso a mesur i ba raddau y gellid cymhwyso dulliau ac arferion newydd i’r systemau yn eu mamwlad
  • cyflwyno adroddiad estynedig o ansawdd uchel mewn arddull wyddonol briodol; hefyd creu ystod o ffyrdd i ledaenu canfyddiadau’r ymchwil i gynulleidfa sydd yn bennaf yn anwyddonol (megis postiadau cyfryngau cymdeithasol, briffio i'r wasg, ffeithlun, blog, nodyn briffio polisi).

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Bydd myfyrwyr yn cael eu cofrestru am 2 blynedd.

Gall myfyrwyr ymuno â'r cwrs ym mis Ionawr, Mai neu fis Medi.

Gan mai dim ond Adroddiad y Prosiect (Prosiect Estynedig) sy'n greiddiol i'r rhaglen, gall ysgolorion ddewis y lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ysgrifennu neu ailysgrifennu eu hadroddiad Nuffield mewn arddull academaidd.

Bydd ysgolorion newydd sy'n dymuno cymryd rhan yn y modiwl Dylunio Prosiect yn cael yr hawl i gychwyn pythefnos gyntaf y modiwl hwn cyn cofrestru'n llawn; sef cyn gynted ag y bydd y dyfarniad am yr Ysgoloriaeth Nuffield yn derfynol.  

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Nuffield Scholarship Project Extended Report BDM3320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir BBM6220 20
Behaviour Change BDM8820 20
Business Management for Rural Entrepreneurs BDM8320 20
Controlled Environment Agriculture BDM6220 20
Genetics and Genomics in Agriculture BDM5820 20
Grassland Systems BDM5120 20
Horticultural Science BDM6920 20
Livestock Health and Welfare BDM5920 20
Livestock Nutrition BDM0320 20
Livestock Production Science BDM5420 20
Low carbon livestock - towards a greener future BDM1520 20
Newid Ymddygiad BBM8820 20
Nuffield Project Data Analysis and Presentation BDM3220 20
Nuffield Project Design BDM3120 20
Plant Breeding BDM8420 20
Rheoli Deunydd Gwastraff BBM1220 20
Silage Science BDM5620 20
Sustainable Supply Systems BDM1120 20
Systemau Cyflenwi Cynaliadwy BBM1120 20
Waste Resource Management BDM1220 20

Dysgu ac Addysgu

Nid oes arholiadau yn y rhaglen hon.  Yn hytrach, asesir trwy waith cwrs ym mhob modiwl. Mae'r dull hwn yn helpu i wneud y rhaglen yn fwy cydnaws â bywyd gwaith y myfyrwyr.

Gofynnir i fyfyrwyr ystyried yr hyn y maent wedi'i ddysgu wrth iddynt symud ymlaen trwy bob modiwl. Mewn modiwlau dewisol, gwneir hyn trwy holi cwestiynau a thrafod pynciau mewn fforymau a asesir a thrwy dasgau myfyriol ffurfiannol. Bydd y deilliannau dysgu hyn yn cael eu hasesu yn y modiwl craidd (Prosiect Estynedig) drwy'r adroddiad terfynol a'r gweithgaredd lledaenu.

Rhoddir rhestr ddarllen hanfodol a rhestr wedi ei hargymell i fyfyrwyr, ond er mwyn ennill teilyngdod neu ragoriaeth rhaid i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi darllen yn ehangach o lenyddiaeth berthnasol a adolygir gan gyd-academyddion. Rhaid darparu tystiolaeth o hyn pan cânt eu hasesu ar eu gallu i feddwl yn annibynnol wrth gloriannu'n feirniadol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

'Fe wnes i lawer o ymchwil wrth gynllunio fy nheithiau ac ysgrifennu fy adroddiad Nuffield, ond wnes i ddim mynd yn rhy ddwfn i'r dystiolaeth academaidd. Wrth ysgrifennu’r adolygiad o’r testunau sylweddolais cymaint o waith ymchwil gwyddonol sydd wedi'i wneud yn fy mhwnc ledled y byd ac rwyf bellach yn bwriadu rhannu fy adolygiad â’r rhanddeiliaid hynny yn nalgylch fy meysydd gwaith.' Tim Stephens

'Efallai y bydd hyn yn gwneud i mi swnio fel ychydig o ‘nerd’, ond rwyf wedi mwynhau'r ffaith fy mod bellach yn gallu cael sgyrsiau mwy cynhyrchiol gydag academyddion ac aelodau o'r gadwyn gyflenwi dyframaethu. Mae'r wybodaeth ychwanegol o'r testunau academaidd wedi’i gwneud hi’n haws cysylltu ag academyddion, ac rwyf bellach yn teimlo fy mod yn eistedd yng nghanol y diagram Venn yn fy maes, yn hytrach nag o fewn un o'i gylchoedd.' Aisla Jones

|