DProf

Y Gyfraith a Throseddeg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae rhaglen DProf Prifysgol Aberystwyth yn cyfuno modiwlau a addysgir ag ymchwil a gyflawnir gan fyfyrwyr o dan arolygaeth staff sydd ag arbenigedd yn y pwnc dan sylw. Mae modiwlau a addysgir fel 'Arweinyddiaeth i Ymchwilwyr' yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ar eu profiad proffesiynol eu hunain, y gellir wedyn ei gymhwyso i gyd-destunau ymchwil, tra bod modiwlau sy'n canolbwyntio ar ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gasglu a dadansoddi data.

Mae'r modiwl 'Astudiaeth Beilot' yn gyfle i fyfyrwyr brofi eu sgiliau ymchwil trwy gynllunio a dadansoddi prosiect ar raddfa fach gan ddefnyddio eu data ymchwil eu hunain. Yn y flwyddyn astudio gyntaf, mae'r tîm arolygol yn cynorthwyo myfyrwyr i gwblhau'r modiwlau a addysgir, ac yn yr ail a'r drydedd flwyddyn mae’r arolygwyr yn cydweithio'n agos â’r myfyrwyr i wneud ymchwil yn eu dewis faes.

Mae’r pynciau DProf yn y Gyfraith a Throseddeg yn cynnwys astudiaethau cyfreithiol rhyngwladol, megis ymfudo, ffoaduriaid, a masnachu pobl, y defnydd o rym a chyfraith ddyngarol; troseddeg gymhwysol, yn enwedig plismona a throseddu gwledig; troseddeg amgylcheddol; rheoleiddio a chyflafareddu busnes rhyngwladol; hawlfraint; cyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol a chyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad UK Bachelors (Honours) degree (2.1) or equivalent, equivalent professional experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants should submit a full research proposal at the point of application

Yn ôl i'r brig

|