MSc

Cyfathrebu Di-wifr a Pheirianneg Systemau Amleddau Radio

Mae'r sbectrwm radio, sydd yn rhan o'r sbectrwm electromagnetig ehangach, yn amrywio o'r Amledd Isel Iawn (VLF) i amleddau optegol a'r tu hwnt. Dyma'r isadeiledd meddal sy'n galluogi cyswllt diwifr rhwng lleoedd, pobl ac offer, er enghraifft drwy ffonau poced, systemau llywio, systemau synhwyro a radio. Mae pob un o'r systemau hyn yn rhan annatod o'r isadeiledd cenedlaethol a diogelwch cenedlaethol. Disgwylir y bydd twf helaeth yn y maes hwn drwy ddatblygu rhaglenni system-radio newydd i gefnogi'r hyn y mae pobl yn dechrau ei alw'n bedwerydd chwyldro diwydiannol.

Mae'r MSc mewn Cyfathrebu Di-wifr a Pheirianneg Systemau Amleddau Radio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymdrin â theori a chymwysiadau sylfaenol y sbectrwm radio, ac mae'n cynnwys theori graidd ar gyfer y maes, themâu a arweinir gan ymchwil, cymwysiadau ymarferol, a modiwlau sgiliau peirianneg.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y cwrs gradd Meistr unflwydd llawn-amser hwn yn ehangu'ch gwybodaeth ddamcaniaethol ac yn datblygu'ch sgiliau technegol, ymarferol a dadansoddol i fanteisio ar botensial technolegau'r sbectrwm radio sy'n hanfodol i gynnal economi fodern. Nod y cwrs hwn, a gaiff ei addysgu gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil ac arbenigwyr yn y diwydiant, yw datblygu a gwella sgiliau graddedigion a gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn sector y sbectrwm radio.

Mae'r radd MSc mewn Cyfathrebu Di-wifr a Pheirianneg Systemau Amleddau Radio yn ategu strategaeth Canolfan Sbectrwm Cenedlaethol y DU i ddod â'r byd academaidd, y llywodraeth a diwydiant ynghyd o fewn ecosystem sy’n arloesi â'r sbectrwm.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu arbenigedd mewn meddalwedd, caledwedd a theori peirianneg y sbectrwm radio i fodloni'r galw cynyddol am beirianwyr medrus mewn diwydiannau megis cyfathrebu, y gofod, awyrofod a’r diwydiant modurol. Byddwch yn ymchwilio i bwysigrwydd rheoli sbectrwm electromagnetig cynyddol orlawn, sy'n dibynnu fwyfwy ar ddatblygiadau mewn technoleg synhwyro o bell, systemau awtonomaidd a deunydd newydd i fodloni'r galw.

Byddwch yn cydweithio ag ymchwilwyr a pheirianwyr y sbectrwm radio er mwyn cael hyfforddiant ar waith arloesi, ymchwil a datblygu a seilir ar y sbectrwm. Cewch gyfle i astudio amrywiaeth o bynciau arbenigol megis radar, synwyryddion ac offer gan ddefnyddio ymagweddau damcaniaethol yn ogystal â gwaith ymarferol a fydd yn cael eu harwain gan ymchwil. Bydd prosiect ymchwil, a fydd â chyswllt cryf â gofynion y diwydiant a phynciau ymchwil cyfredol, yn rhoi modd i chi ddatblygu sgiliau ehangach mewn ymchwil, cyfathrebu a chyflogadwyedd er mwyn rhoi hwb i chi i’ch helpu i fynd ymlaen i'r diwydiant neu i ymchwil academaidd bellach.

Y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol⁠ (CSG)

Mae'r Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol (CSG) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i ymdrin â materion darpariaeth y sbectrwm radio, wrth i'r galw dyfu'n aruthrol am ddyfeisiadau newydd megis cerbydau awtonomaidd ar y tir, ar y môr ac yn yr awyr, ffermio deallus, y Rhwydwaith Pethau, 5G, a monitro iechyd yn ddigidol. Mae’r Ganolfan yn galluogi nodi, datblygu ac arddangos y technolegau galluogi sydd eu hangen er mwyn sicrhau, ehangu a manteisio i'r eithaf ar y gwerth a ddaw yn sgil hynny i’r Brydain Ddigidol trwy ddefnyddio'r sbectrwm electromagnetig a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Math o radd: Msc

Cod y Cwrs: F935

Amser cyswllt: Tua 10-14 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf, yna cytunir ar y cyd ar amser cyswllt â goruchwyliwr penodedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Wireless Networks - 5G and Beyond PHM2220 20
Antennas and Wave Propagation PHM2820 20
Electromagnetic Theory and Microwave Devices PHM2420 20
Prosiect MSc FGM5560 60
Professional and Research Skills PHM7220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Strategy and Operations ABM5220 20
Leading and Managing Project ABM3420 20
Programming for Scientists CSM0120 20
Project Management Tools and Techniques ABM2920 20
Quality Engineering and Management ABM2820 20

Gyrfaoedd

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn fe fyddwch wedi cael gwybodaeth a dealltwriaeth uwch am y sbectrwm radio ac am electromagnetedd a sut y'i defnyddir wrth ledaenu a synhwyro tonnau radio. Byddwch yn gallu ymdrin â phroblemau cymhleth ym maes radio a'r defnydd a wneir ohoni, gyda chymorth pecynnau cyfrifiadurol, ac fe fyddwch wedi meithrin sgiliau ychwanegol mewn dadansoddi beirniadol a dehongli data, yn ogystal â sut mae cyfleu'ch canfyddiadau ar lafar ac mewn adroddiadau ysgrifenedig.

Bydd graddedigion y radd Meistr hon mewn sefyllfa dda i symud ymlaen i weithio fel peirianwyr, technegwyr, ymgynghorwyr, ymchwilwyr, a rheolwyr.

Dysgu ac Addysgu

Dulliau addysgu

Cyflwynir y radd MSc Cyfathrebu Di-wifr a Pheirianneg Systemau Amleddau Radio trwy gyfuniad o ddarlithoedd, prosiectau a gweithdai ymarferol.

Yn ystod y ddau semester cyntaf (Medi i Fai), bydd gennych fel arfer un seminar 2-3 awr fesul modiwl yr wythnos. Bydd sesiynau ychwanegol hefyd yn gweithio tuag at ddatblygu eich prosiect. Yn ystod semester tri byddwch yn derbyn cefnogaeth gan eich arolygydd prosiect penodedig; cytunir ar yr amser cyswllt ar y cyd.

Dulliau Asesu

Asesir y cwrs trwy ymarferion gweithdy, enghreifftiau, adroddiadau technegol, adroddiadau ffurfiol, cyflwyniadau ac arholiadau.

|