Hanes
Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2025
Mae rhaglen DProf Prifysgol Aberystwyth yn cyfuno modiwlau a addysgir ag ymchwil a gyflawnir gan fyfyrwyr o dan arolygaeth staff sydd ag arbenigedd yn y pwnc dan sylw. Mae modiwlau a addysgir fel 'Arweinyddiaeth i Ymchwilwyr' yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ar eu profiad proffesiynol eu hunain, y gellir wedyn ei gymhwyso i gyd-destunau ymchwil, tra bod modiwlau sy'n canolbwyntio ar ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gasglu a dadansoddi data. Mae'r modiwl 'Astudiaeth Beilot' yn gyfle i fyfyrwyr brofi eu sgiliau ymchwil trwy gynllunio a dadansoddi prosiect ar raddfa fach gan ddefnyddio eu data ymchwil eu hunain. Yn y flwyddyn astudio gyntaf, mae'r tîm arolygol yn cynorthwyo myfyrwyr i gwblhau'r modiwlau a addysgir, ac yn yr ail a'r drydedd flwyddyn mae’r arolygwyr yn cydweithio'n agos â’r myfyrwyr i wneud ymchwil yn eu dewis faes.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
|