MA

Cysylltiadau Rhyngwladol (Arbenigol)

Profiad heb ei ail.

Wedi'i lleoli rhwng y mynyddoedd a’r môr, mae ein Hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol mewn lle delfrydol i feithrin meddwl uchelgeisiol. Am dros gan mlynedd, mae'r safle unigryw hwn wedi annog ysgolheigion Cysylltiadau Rhyngwladol i agor eu meddyliau ac ehangu eu gorwelion deallusol. Fel myfyriwr MA Cysylltiadau Rhyngwladol yma, byddwch yn ymuno â'n cymuned glos o ysgolheigion sydd oll wedi dod i Aberystwyth i fynd i'r afael â'r syniadau mawr sy'n dylanwadu ar ein cenhedloedd, ein byd a'n planed.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Normally a 2:1 Bachelors (Honours) or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Ar ein cwrs MA Cysylltiadau Rhyngwladol, fe ddewch yn gyfarwydd â meddylfryd Cysylltiadau Rhyngwladol sydd ar flaen y gad, gan gynnwys meddylfryd ôl-Orllewinol, gwleidyddiaeth blanedol, dulliau rhywedd a gwleidyddiaeth gwybodaeth mewn ymarfer rhyngwladol. Rydym yn cymryd cysyniadau sylfaenol megis anarchiaeth, sofraniaeth a phŵer, ac yn eu dadansoddi drwy syniadau dad-drefedigaethol, dulliau ffeministaidd neu feddylfryd Anthroposen. Byddwn yn ystyriwn pa agendâu a chysylltiadau pŵer y mae meddylfryd Cysylltiadau Rhyngwladol confensiynol yn eu gwasanaethu, ac yn dadlau a yw'n addas i'w ddiben mewn byd sy’n mynd yn fwy ansicr?

Ar hyn o bryd, mae gwleidyddiaeth ryngwladol yn sefyll ar gyrion argyfyngau amryfal sy’n gorgyffwrdd. Bydd eich astudiaethau MA yn Aberystwyth yn darparu'r adnoddau damcaniaethol ac empirig i'ch helpu i ddeall y sefyllfa fyd-eang ansicr hon. Byddwch yn cymhwyso eich meddyliau a'ch syniadau annibynnol eich hun i faterion megis gwrthdaro a diogelwch, newid yn yr hinsawdd, trafodaethau rhyngwladol, a'r argyfwng ffoaduriaid byd-eang. Gan elwa o'n harweiniad arbenigol, bydd eich astudiaethau MA yn dod i benllanw gyda thraethawd hir a ymchwiliwyd yn annibynnol, cyfle i chi gyfuno eich sgiliau beirniadol a'ch gwybodaeth gysyniadol i ystyried y cwestiynau mwyaf taer sy'n wynebu ein byd heddiw.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

1 flwyddyn amser llawn.

Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae llawer o yrfaoedd yn agored i’n graddedigion. Mae graddedigion blaenorol yr Adran hon wedi mynd ymlaen i weithio:

  • yn y sector datblygu 
  • mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol
  • yn y Gwasanaeth Diplomyddol 
  • yn y Gwasanaeth Sifil 
  • ar gyfer Cyrff Anllywodraethol 
  • gyda sefydliadau rhyngwladol
  • fel newyddiadurwyr 
  • ym myd academaidd 
  • fel ymchwilwyr llywodraethol a chymdeithasol 
  • ar gyfer Swyddfeydd Tramor 
  • yn y fyddin 
  • mewn swyddi arwain ym myd busnes/diwydiant (Prif Swyddogion Gweithredol/Cadeiryddion) 
  • fel cynorthwywyr gwleidyddol, fel athrawon, cyfreithwyr a chyfrifwyr.

Sgiliau trosglwyddadwy

Mae'r radd Meistr hon yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi cryf, yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol - mae’r rhain yn rhinweddau y mae cyflogwyr yn rhoi pwys mawr arnynt. Mae Gradd Meistr hefyd yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr â’u bryd ar gynnal ymchwil PhD. Bydd yr MA hwn yn eich grymuso i: 

  • ddatblygu eich galluoedd wrth roi trefn ar syniadau cymhleth yn effeithlon, a’u cyfathrebu’n effeithlon 
  • ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, a siarad â’r cynulleidfaoedd hynny 
  • cloriannu a threfnu gwybodaeth 
  • cydweithio'n effeithiol ag eraill 
  • gweithio o fewn amserlenni penodol.

Dysgu ac Addysgu

Llwybrau

Mae MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gael fel gradd llwybr hyfforddiant ymchwil neu arbenigol. Mae myfyrwyr sy'n astudio'r llwybr Arbenigol yn dilyn astudiaeth uwch yn benodol i bwnc, drwy fodiwl craidd a nifer o fodiwlau opsiynol, ynghyd â thraethawd hir. Mae'r rhai sydd ar lwybr Hyfforddiant Ymchwil yn dewis cyfres o fodiwlau hyfforddiant ymchwil yn lle rhai o'r modiwlau dewisol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Yn ystod y ddau semester cyntaf (Medi i Fai), bydd gennych fel arfer un seminar 2 awr fesul modiwl yr wythnos. Bydd gennych hefyd gyswllt â staff academaidd wrth ichi gymryd rhan mewn grwpiau ymchwil, seminarau ymchwil yr Adran, gweithdai Meistr a thrwy’r oriau cyswllt â’r staff (dwy sesiwn awr eu hyd bob wythnos). Bydd sesiynau ychwanegol hefyd yn gweithio tuag at ddatblygu eich traethawd hir. Yn ystod y trydydd semester byddwch yn pennu faint o amser y byddwch yn ei dreulio â’r sawl sy’n arolygu eich traethawd hir

Beth fydda i'n ei ddysgu?

International Politics: Theories and Concepts: Archwilio cysyniadau 'clasurol' mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, megis yr anghytuno ynghylch ystyron anarchiaeth, sofraniaeth, pŵer a diogelwch, yn ogystal â swyddogaeth trefedigaethedd, yr amgylchedd, a rhywedd. Rhoddir sylw i anghysondeb a gwahaniaethau ystyr a dadogir i gysyniadau craidd, y canlyniadau gwleidyddol, moesegol, ymarferol a methodolegol sy'n deillio o'r cysyniadau a ddefnyddiwyd, a swyddogaeth dyfeisgarwch cysyniadol wrth astudio materion ar bynciau deinamig ac amrywiol.

Byddwch hefyd yn dewis o blith casgliad o fodiwlau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Global Challenges and the Future of International Relations Theory
  • Post-Western International Relations
  • Indigenous Politics: Challenging the Global Order?
  • Middle Powers and the Liberal Order
  • Fear, Cooperation and Trust in World Politics
  • The International Politics of Conflict Knowledge
  • The EU in Crisis? Integration and Fragmentation.

Asesu

Bydd yr asesu’n digwydd drwy gyfuniad o draethodau, gwaith project, adroddiadau byr, adolygiadau llyfrau a thraethawd hir. Gan ddibynnu ar y modiwlau a ddewiswyd, gall yr asesu gynnwys cyflwyniadau seminar, traethodau adolygu a chwiliadau llenyddiaeth.

|