BA

Y Gyfraith

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae rheolaeth y gyfraith yn sylfaenol i gymdeithas deg a sifil, a gall astudio'r Gyfraith roi i chi’r gallu i wneud gwahaniaeth. Cyflwynir ein cwrs gradd blaenllaw, LLB y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Adran y Gyfraith a Troseddeg, adran a chanddi hanes hir o gynnig rhaglenni gradd yn y Gyfraith. Mae rhai o'r cyfreithwyr, y gwleidyddion a’r academyddion mwyaf nodedig yng Nghymru, Prydain a thu hwnt wedi astudio yma. Ar y rhaglen LLB y Gyfraith byddwch yn astudio'r gyfraith, sut mae'n gweithredu, ac yn archwilio'r berthynas ddiddorol rhwng y gyfraith, cyfiawnder a chymdeithas. Yn ogystal ag astudio'r pynciau cyfreithiol sylfaenol, cewch gyfle hefyd i deilwra eich gradd yn ôl eich diddordebau eich hun, gan ddewis o blith nifer helaeth o fodiwlau sy'n cwmpasu meysydd cyfreithiol cyfoes ac arbenigol. Os mai gyrfa’n weithiwr cyfreithiol proffesiynol sy’n mynd â’ch bryd neu os hoffech ystyried dewisiadau eraill, y rhaglen radd hon yw’r cam cyntaf ar eich taith i yrfa werth chweil. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae hon yn rhaglen radd LLB ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n cwmpasu nifer o bynciau traddodiadol a chyfoes yn y gyfraith, a bydd yn dysgu'r sgiliau a'r cymwyseddau a fydd yn eich gwneud yn 'barod am yrfa' ac yn gyflogadwy mewn cyd-destun cyfreithiol. 

Rhaglen ymarferol yw LLB y Gyfraith. Fe’i chynlluniwyd i ateb gofynion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith sy'n gweithio gyda sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i hyfforddiant galwedigaethol ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar. Trwy gwblhau modiwlau penodol yn llwyddiannus cewch eich eithrio rhag gorfod sefyll arholiadau proffesiynol penodol. 

Mae LLB y Gyfraith yn cynnig nifer o bosibiliadau, gan gynnwys y cyfle i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith, neu i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yn un o'r nifer o bartner brifysgolion sydd gennym yn Ewrop, UDA, Canada, ac Awstralia. 

Yn ystod eich cwrs gradd, gallwch fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol a phroffesiynol rhagorol, er enghraifft ymweliadau â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytyau’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain. Cewch gyfle i gyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan yn ein Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau allweddol wrth gyfreitha ac eirioli. Hefyd, i fyfyrwyr sy'n dymuno ymrysona trwy gyfrwng y Gymraeg, rydyn ni’n cynnig cystadleuaeth Ymryson trwy’r Gymraeg. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contract Law LC13820 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT10420 20
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT10120 20
Tort LC11120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Law in Action LC13220 20
Y Gyfraith ar Waith CT13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Commercial Law LC36220 20
Community Justice LC30320 20
Company Law LC37220 20
Contemporary Issues in Criminology LC34220 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Critical and Radical Criminology LC37120 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT32220 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT30820 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Drugs and Crime LC38220 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Family and Child Law LC36420 20
Human Rights LC35220 20
Humanitarian Law LC37620 20
Intellectual Property Law LC38620 20
International Law LC36920 20
Introduction to Criminology LC32220 20
Labour Law LC36820 20
Law and Criminology Dissertation LC39020 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Police, Policing and Society LC31020 20
Principles of Evidence LC36520 20
Principles of Professional Conduct, Public & Administrative Law, Legal System of England & Wales & L LC31320 20
Property Law and Practice LC31820 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC38120 20
Psychopathology LC39220 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Sports Law and Society LC37920 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC32420 20
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg CT39020 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20
Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid CT36120 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT30220 20
Troseddeg Feirniadol a Radical CT37120 20
Trusts, Wills and the Administration of Trusts and Estates LC31720 20
Youth Crime and Justice LC36120 20
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas CT31020 20
Cyfraith Tir CT34820 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT34920 20
Equity and Trusts * LC34920 20
Land Law * LC34820 20

Gyrfaoedd

Bydd gradd LLB y Gyfraith o Aberystwyth yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am hyfforddiant i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr, os mai dyna'r llwybr a ddewiswch. Bydd hefyd yn rhoi sylfaen ardderchog i chi ar gyfer pob math o feysydd gyrfaol eraill. Os oes gennych radd LLB y Gyfraith byddwch yn gallu cynnig llawer o sgiliau pwysig i gyflogwyr yn y dyfodol, a fydd yn agor cyfleoedd cyffrous o bob math mewn meysydd megis troseddeg, rheolaeth ariannol, busnes, adnoddau dynol, cysylltiadau rhyngwladol, newyddiaduraeth, ac addysg.

Mae eich dyfodol yn bwysig yn ein golwg, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi: 

  • hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol 
  • gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth 
  • gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym a chywir 
  • gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • gallu i ddatrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • gallu i weithio'n annibynnol 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys gallu gweithio i derfynau amser 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun 
  • gallu i weithio mewn tîm ac i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan roi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb 
  • sgiliau ymchwil. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau, er enghraifft: Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, a Chyfraith Camwedd, ac mae'n rhaid eu hastudio a'u pasio er mwyn cael eich eithrio rhag gorfod sefyll cam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Byddwch hefyd yn astudio strwythur a datblygiad cyfundrefn gyfreithiol Cymru a Lloegr, yn astudio'r gydberthynas rhwng cynsail farnwrol a'r gyfundrefn lysoedd, ac yn dadansoddi'r broses o greu deddfwriaeth, a sut y caiff ei dehongli gan farnwyr. 

Yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau cyfreithiol. 

Cewch eich cyflwyno i ddeunyddiau a dulliau trefniadaethau cyfreithiol Ewropeaidd a byddwch yn dysgu am brif nodweddion y cyfundrefnau cyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd.

Byddwch yn astudio’r Gyfraith Gyhoeddus, wedi'i rhannu'n gonfensiynol yn gyfraith gyfansoddiadol a chyfraith weinyddol. Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol gan nad oes ganddi gyfansoddiad wedi'i godeiddio. Bydd ystyried a yw hyn yn cael effaith yn ymarferol ac ystyried y ffordd mae'r Cyfansoddiad wedi addasu a darparu ar gyfer amgylchiadau cyfnewidiol yn themâu pwysig. 

Byddwch yn astudio Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau, ac yn archwilio'r rhesymau niferus dros sefydlu Ymddiriedolaethau, yn ogystal â swyddogaeth ymddiriedolaethau wrth hyrwyddo polisi cyhoeddus, pwysigrwydd cynyddol ymddiriedolaethau mewn cyfraith fasnachol, y rhwymedïau ecwitïol sydd ar gael a’u swyddogaethau. 

Cewch eich cyflwyno i egwyddorion hanfodol Perchnogaeth Tir yng Nghymru a Lloegr, a’r hawliau a’r modd y gorfodir hawliau partïon eraill dros dir, gan gynnwys y cyd-berchennog ecwitïol, y prydlesai, y morgeisai, y cyfamodai, a pherchennog y rhandir trechaf i ddibenion caniatáu hawddfraint.

Hefyd, bydd modd i chi deilwra'ch astudiaeth trwy ddewis yn ofalus o blith nifer o fodiwlau dewisol.  

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i gloriannu a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu trwy amryw ddulliau, traethodau, arholiadau, log neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich cwrs gradd, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r gyfraith yn bwnc heriol sy'n fy ymestyn bob dydd - a dyna'n union pam dw i'n ei fwynhau! Diolch i'r staff gwych a'r adnoddau helaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, mae'r her wedi parhau i fod o fewn fy nghyrraedd. Mae Aberystwyth ei hun yn dref wych, yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o fyfyrwyr. Mae ganddi rywbeth i'w chynnig i bawb, a does unman gwell er mwyn gwneud ffrindiau agos. Mae'r dref yn hamddenol ac yn groesawgar iawn, a phan fydd hi'n braf, does unman gwell i fod. Andrew James Hall

Mae'r cyfuniad o gwrs gwych gyda thref hardd yn berffaith. Dw i wedi mwynhau astudio'r Gyfraith yn Aberystwyth dros y tair blynedd diwethaf. Er ei fod wedi bod yn waith caled a blinedig, mae wedi bod yn wefreiddiol ac yn heriol hefyd. Mae'r holl ddarlithwyr, tiwtoriaid a staff yn hynod gyfeillgar a chymwynasgar ac yn ymfalchïo yn yr adran a'r ffordd caiff modiwlau eu haddysgu. Mae gan Lyfrgell y Gyfraith bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gradd, felly does dim angen i chi fynd yn bell. Mae'r cwrs yn denu cymaint o wahanol bersonoliaethau a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, ac mae treulio tair blynedd gyda nhw yn wych. Mae'r modiwlau'n cynnig dewis gwych. William Pryce

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|