PhD

Y Gyfraith

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Sefydlwyd Adran y Gyfraith a Throseddeg ym 1901, ac mae ganddi brofiad hir, parchus a chynyddol amrywiol o addysg gyfreithiol a gwaith academaidd. Dros y blynyddoedd mae nifer fawr o academyddion cyfreithiol adnabyddus wedi addysgu yn yr adran ac mae graddedigion y gyfraith Aberystwyth wedi gwneud eu marc mewn ystod o yrfaoedd wedi hynny. Mae'r Adran yn hyderus yn ei hunaniaeth unigryw a'i henw da am addysgu o ansawdd uchel, sy’n gysylltiedig â gweithgarwch ymchwil egnïol ac yn cael ei wneud mewn amgylchedd ysgogol a chyfeillgar. Mae myfyrwyr yn elwa o lyfrgell aeddfed sydd wedi'i stocio'n dda a darpariaeth technoleg gwybodaeth hael a chyfoes.

Mae gradd ymchwil yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle i chi ymdrin â phwnc cyfreithiol neu droseddegol penodol o’ch dewis dan arolygiaeth ymchwilwyr blaenllaw yn eu maes.

Gallwch astudio ar gyfer gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD) yn y rhan fwyaf o brif feysydd y gyfraith a nifer o bynciau mwy arbenigol naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:1 neu gyfatebol mewn maes pwnc perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg bob amser yn awyddus i groesawu myfyrwyr ymchwil, sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'r Adran a'r Brifysgol. Mae'r Adran yn ymfalchïo yn safon uchel yr arolygiaeth a ddarperir i fyfyrwyr uwchraddedig. Fe welwch fod gan eich arolygydd ddiddordeb brwd yn eich cynnydd, a'i fod bob amser wrth law i gynnig anogaeth, arweiniad a chyngor.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae llawer o fyfyrwyr uwchraddedig o Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi cyhoeddi eu hymchwil ar ffurf llyfrau ac erthyglau, ac mae aelodau staff bob amser yn hapus i roi cyngor i fyfyrwyr ar gyhoeddi. Bu sawl cyhoeddiad hefyd o ganlyniad i brosiectau ymchwil ar y cyd rhwng staff ac uwchraddedigion.

Hyfforddiant Ymchwil

Darperir Hyfforddiant Ymchwil i bob myfyriwr ymchwil uwchraddedig, ac mae'n ofyniad sefydliadol bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr ymchwil yn unol â gofynion naill ai'r ESRC neu Fwrdd Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRB), yn dibynnu ar bwnc a methodoleg eich prosiect ymchwil.

Gofynion ar gyfer Cwblhau'r PhD

Mae gradd PhD yn gofyn am draethawd ymchwil sylweddol o tua 80,000-100,000 o eiriau. Bydd y traethawd ymchwil yn cael ei ysgrifennu o dan arolygiaeth aelod o staff yr Adran. Bydd y rhai sy'n astudio'n llawn amser hefyd yn dilyn cwrs ar sgiliau ymchwil a strategaeth i'w cynorthwyo i ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymchwil gyfreithiol academaidd. Os yw eich prosiect ymchwil yn dod o fewn maes astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol neu droseddeg, bydd gofyn i chi gwblhau Rhaglen Hyfforddiant Ymchwil y Gyfadran a gymeradwywyd gan ESRC. Gwneir hyn yn eich blwyddyn gyntaf o astudio am PhD ac mae'n darparu hyfforddiant ar fethodoleg ymchwil feintiol ac ansoddol ac anghenion ymchwil y gwyddorau cymdeithasol. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

PhD

Dyfernir PhD ar ôl cwblhau traethawd ymchwil boddhaol o tua 80,000-100,000 o eiriau ac yna arholiad viva voce. Tair blynedd yw'r cyfnod cofrestru arferol (amser-llawn) a disgwylir y bydd y traethawd hir yn cael ei gyflwyno ymhen pedair blynedd ar ôl cofrestru. Treulir rhan o'r flwyddyn gyntaf yn ymgymryd â hyfforddiant ymchwil, gan adael yr ail a'r drydedd flwyddyn i chi wneud ymchwil amser-llawn i'r pwnc o'ch dewis.

Mae PhD yn eich galluogi i arbenigo yn y pwnc o’ch dewis ac i archwilio cymhlethdodau eich pwnc, boed hynny ym maes y gyfraith neu droseddeg, yn ei gyd-destun. Er mwyn bodloni'r arholwyr, mae’n rhaid i chi ddangos gwreiddioldeb meddwl yn ogystal â dadansoddiad manwl. Ystyrir PhD yn gam sylweddol mewn gyrfaoedd academaidd neu yrfaoedd sy'n ymwneud â'r byd academaidd. Mae'n dangos eich bod yn gallu cyflawni ymchwil manwl a chyflwyno canlyniadau'r ymchwil hwnnw mewn ffordd ddealladwy. 

DProf

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol, neu DProf, yn fwy addas i'r rhai sy'n dilyn gyrfaoedd proffesiynol yn hytrach na gyrfaoedd academaidd, a'i nod yw rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol cymwys i astudio tuag at ddoethuriaeth tra byddant yn parhau â'u gwaith cyflogedig. Dyfernir DProf i gydnabod bod unigolyn wedi llwyddo i gwblhau rhaglen astudio gymeradwy a addysgir, ynghyd â darn o waith ymchwil uwch. Mae’r elfen gydweithredol a ddarperir gan brosiect sy’n seiliedig ar waith ymarferol yn rhoi cyfle delfrydol i ymgorffori'r wybodaeth newydd yn y gweithle a sicrhau bod eich ymchwil yn berthnasol i'ch sector.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Quantitative Data Collection and Analysis (for social scientists) PGM1010 10
Dulliau Darllen MOR0510 10
Manuscript Skills: Post Medieval Palaeographic and Diplomatic PGM1210 10
Principles of Research Design PGM0210 10
Ways of Reading PGM0410 10

|