MPhil

Y Gyfraith

Sefydlwyd Adran y Gyfraith a Throseddeg ym 1901, ac mae ganddi brofiad hir, parchus a chynyddol amrywiol o addysg gyfreithiol a gwaith academaidd. Dros y blynyddoedd mae nifer fawr o academyddion cyfreithiol adnabyddus wedi addysgu yn yr adran ac mae graddedigion y gyfraith Aberystwyth wedi gwneud eu marc mewn ystod o yrfaoedd wedi hynny. Mae'r Adran yn hyderus yn ei hunaniaeth unigryw a'i henw da am addysgu o ansawdd uchel, sy’n gysylltiedig â gweithgarwch ymchwil egnïol ac yn cael ei wneud mewn amgylchedd ysgogol a chyfeillgar. Mae myfyrwyr yn elwa o lyfrgell aeddfed sydd wedi'i stocio'n dda a darpariaeth technoleg gwybodaeth hael a chyfoes.

Mae gradd ymchwil yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle i chi ymdrin â phwnc cyfreithiol neu droseddegol penodol o’ch dewis dan arolygiaeth ymchwilwyr blaenllaw yn eu maes.

Mae'r MPhil yn gwrs blwyddyn llawn amser lle bydd disgwyl i chi wneud ymchwil annibynnol a llunio traethawd ymchwil o tua 50,000-60,000 o eiriau. Gellir astudio’n rhan-amser dros ddwy flynedd hefyd.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:1 neu gyfatebol mewn maes pwnc perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

MPhil

Cynlluniwyd yr MPhil ar gyfer y rhai sy'n dymuno gwneud ymchwil mewn maes penodol o ddiddordeb cyfreithiol dan arweiniad arbenigol un o aelodau staff yr Adran.

Gofynion ar gyfer Cwblhau'r MPhil

Bydd gofyn i chi gwblhau traethawd ymchwil o tua 60,000 o eiriau. Byddwch yn cysylltu'n rheolaidd â'ch arolygydd, a fydd yn cynghori ac yn rhoi arweiniad ar y prosiect. Bydd y rhai sy'n astudio'r radd yn llawn amser hefyd yn dilyn cwrs byr ar hyfforddiant ymchwil i'w cynorthwyo i ddatblygu sgiliau ymchwil priodol.

Y Cyfnod Astudio ar gyfer yr MPhil

Y cyfnod cofrestru arferol ar gyfer myfyriwr amser llawn yw 12 mis, a dylech chi dreulio’r cyfnod hwnnw yn Aberystwyth. Y cyfnod cofrestru arferol ar gyfer myfyriwr rhan-amser yw dwy flynedd. Nid oes angen i'r rhai sy'n astudio'n rhan-amser fyw yn Aberystwyth yn ystod y cyfnod hwn.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Gradd Meistr drwy Ymchwil

Yn Aberystwyth, gallwch gofrestru ar gyfer MPhil neu LLM (Ymchwil). Nid oes gwahaniaeth rhwng y cymwysterau hyn. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cofrestru ar gyfer yr MPhil, sy'n cael ei gydnabod yn y DU fel cymhwyster ymchwil, tra bod yr LLM fel arfer yn cael ei neilltuo ar gyfer rhaglenni Meistr a addysgir. Fodd bynnag, mae’n well gan rai myfyrwyr tramor dderbyn LLM gan fod y teitl yn dynodi’n glir mai gradd yn y gyfraith ydyw. Yn y naill achos neu'r llall, gallwch gofrestru am flwyddyn i lunio traethawd ymchwil o tua 50,000-60,000 o eiriau. Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd un neu fwy o arolygwyr, ond ni fydd angen i chi fynd i unrhyw ddosbarthiadau. Ar ôl y flwyddyn yn Aberystwyth mae gennych hyd at ddwy flynedd i ysgrifennu'ch traethawd ymchwil.

Mae astudio ar gyfer Meistr Ymchwil yn cynnig llawer o’r un pethau sy’n denu pobl i astudio am PhD. Byddai’n anghywir, fodd bynnag, i feddwl am draethawd hir Meistr fel PhD byr. Dylai traethawd ymchwil Meistr ddarparu trosolwg a beirniadaeth fanwl o unrhyw faes o’r gyfraith ond ni fwriedir iddo ddarparu dadansoddiad manwl yn yr un modd â PhD. Prif fantais y radd Meistr Ymchwil, felly, yw ei bod yn eich galluogi i gwblhau darn o ymchwil a chael cymhwyster amdano mewn cyfnod cymharol fyr.

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi ymrwymo i bolisi o arloesi a datblygu mewn addysgu ac ymchwil ac mae’n adolygu’n rheolaidd ystod a chynnwys ei chynlluniau gradd, yn ogystal â’i dulliau addysgu ac asesu, er mwyn ymateb yn effeithiol i anghenion ac i ddisgwyliadau ein myfyrwyr.

Nod Adran y Gyfraith a Throseddeg yw sicrhau'r dewis gorau posibl o ran ei darpariaeth o addysg gyfreithiol a throseddegol wrth sicrhau bod yr addysgu yn cael ei lywio gan ysgolheictod cyfoes ar y lefel uchaf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

|