Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Cyflwynir y cwrs BSc Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn adran y Gyfraith hynaf Cymru. Y mae’n bwnc hynod ddiddorol sy'n archwilio ystyr troseddu a pham mae rhai ymddygiadau penodol yn cael eu hystyried yn droseddol. Dewch i ymuno â ni yn Adran y Gyfraith a Throseddeg yn Aberystwyth i astudio canlyniadau labelu rhywun yn 'droseddwr', a sut mae cymdeithas yn ymateb i ymddygiad troseddol trwy ddod o hyd i’r rhai sy’n cyflawni troseddau, a’u cosbi a’u hailsefydlu. Byddwch hefyd yn ystyried effaith troseddu a throsedd ar ddioddefwyr ac ar gymdeithas yn gyffredinol. 

Cwrs pedair blynedd yw hwn wedi'i gynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol. Yn y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dysgu'r sgiliau academaidd sydd eu hangen i astudio am radd israddedig. O'r ail flwyddyn ymlaen, byddwch yn astudio'r un pynciau â myfyrwyr y cynllun gradd M900 Troseddeg. 

Mae BSc Troseddeg yn amlddisgyblaethol ei natur ac felly wrth astudio Achosion Troseddu a Lleihau Troseddu byddwch yn defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys Seicoleg, Cymdeithaseg, a'r Gyfraith. Ar ôl cwblhau eich gradd, bydd gennych sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer dilyn gyrfa broffesiynol mewn meysydd fel plismona, carchardai a chyfiawnder ieuenctid. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd BSc Troseddeg yn rhoi sylw cytbwys i faterion damcaniaeth, polisi ac ymarfer wrth astudio troseddeg a chyfiawnder troseddol. Mae'r cwrs yn defnyddio damcaniaethau cymdeithasegol, seicolegol a chyfreithiol ac enghreifftiau o'r byd go iawn i archwilio achosion troseddu, sut y diffinnir troseddu, a pham yr ystyrir bod rhai ymddygiadau penodol yn droseddol. Mae'n ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau troseddegol, yn amrywio o ddechreuadau Troseddeg Glasurol, yr holl ffordd i feysydd newydd sy'n dod yn fwyfwy blaenllaw mewn troseddeg, megis troseddau gwyrdd a throseddau bywyd gwyllt.

Mae'r tîm addysgu presennol yn cynnwys staff a chanddynt arbenigedd yn y prif ddisgyblaethau sy'n llywio astudiaethau troseddegol, megis seicoleg, cymdeithaseg, a'r gyfraith, a byddwch yn cael eich dysgu gan droseddegwyr sy'n ymwneud yn weithredol ag ymchwil. 

Caiff ein modiwlau eu diwygio a'u diweddaru'n gyson er mwyn adlewyrchu newidiadau diweddar ym mhatrymau ymddygiad troseddol ac ymatebion polisi trosedd. Bydd modiwlau am ddulliau ymchwil mewn troseddeg yn rhoi'r sgiliau technegol a dadansoddol blaengar sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan mewn dadleuon cyfoes ynghylch polisïau ac arferion a gynlluniwyd i atal troseddu. 

Cewch gyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith yn gysylltiedig â chyfiawnder troseddol, gallwch wneud ymchwil troseddegol annibynnol dan oruchwyliaeth, ac mae gennym berthynas waith ragorol gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol yn lleol. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Introduction to Social Science GS09720 20
The ‘Othered' Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Rheoli ac Atal Troseddu CT10320 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Essential Skills for Criminologists * LC13120 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT10120 20

Gyrfaoedd

Mae BSc Troseddeg yn rhoi sylfaen academaidd ardderchog ar gyfer gyrfaoedd yn y sector cyfiawnder troseddol, gan gynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Carchardai EM a'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, a Chyfiawnder Ieuenctid. Gall cwblhau'r radd hefyd gynnig cyfleoedd i weithio ym maes dadansoddi trosedd neu gudd-wybodaeth, gofal cymunedol a gwaith cymdeithasol. 

 Mae eich dyfodol yn bwysig yn ein golwg, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi: 

·      hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol 

·      gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a       threfnu gwybodaeth 

·      gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym a chywir 

·      gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn      ysgrifenedig ac ar lafar 

·      gallu i ddatrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 

·      gallu i weithio'n annibynnol 

·      sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys gallu gweithio i derfynau amser 

·      hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun 

·      gallu i weithio mewn tîm ac i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan roi lle i syniadau     gwahanol a dod i gytundeb 

·      sgiliau ymchwil. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Mae'r rhaglen addysgu wedi'i chynllunio i roi golwg fanwl i chi ar natur ac achosion troseddu a'ch cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o wleidyddiaeth polisi cyfiawnder troseddol. Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth o'r effaith mae troseddu'n ei chael ar unigolion, cymunedau, a chymdeithas yn ogystal â dysgu am yr heriau cyfoes sy'n wynebu'r system cyfiawnder troseddol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i: ddulliau cymdeithasegol a seicolegol o astudio ymddygiad troseddol; cyfraith trosedd a gwaith y gyfundrefn cyfiawnder troseddol; a sgiliau ymchwil sylfaenol mewn troseddeg. 

Yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf cewch gyfle i: ddatblygu eich dealltwriaeth o'r berthynas rhwng damcaniaeth, ymchwil ac ymarfer ym maes cyfiawnder troseddol; gwella eich sgiliau ymchwil troseddeg; cynnal ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis eich hun; a chymryd lleoliad gwaith gwirfoddol yn gysylltiedig â chyfiawnder troseddol. 

Byddwch hefyd yn dewis o blith rhestr hir o fodiwlau ychwanegol sy'n ymdrin â phynciau megis safbwyntiau beirniadol ar garcharu; yr heddlu, plismona a chymdeithas; troseddau ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid; a seicoleg a throseddu. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Cewch eich asesu trwy amryw ddulliau, traethodau, arholiadau, log neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich cwrs gradd, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|