MA

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae'r MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymdrin â throseddeg a meysydd pwnc cysylltiedig o safbwynt llenyddol, gan eich galluogi i feithrin dealltwriaeth fanwl o ystod eang o feysydd cyfoes sy'n ymwneud â throseddeg, gan gynnwys polisïau ac arferion cyfiawnder troseddeg. Cewch gyfle i feithrin dealltwriaeth feirniadol o ddamcaniaethau pwysicaf ymddygiad troseddol, asesu eu perthnasedd presennol a dadansoddi eu goblygiadau o ran rheoli trosedd.

 Mae'r MA yn arbennig o addas i fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir yn y gwyddorau cymdeithasol, ond bydd hefyd yn gwella ac yn datblygu addysg graddedigion neu fyfyrwyr troseddeg o ddisgyblaeth gysylltiedig. Mae cwmpas a hyblygrwydd sylweddol i’r cynllun hwn, sy'n galluogi myfyrwyr i deilwra eu hastudiaethau yn unol â'u diddordebau eu hunain.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in criminology or a related subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn darparu awyrgylch ysgogol o ymholi ac ymgysylltu academaidd trylwyr lle gall myfyrwyr ddatblygu eu diddordebau a'u sgiliau troseddegol eu hunain. Bydd yr MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn darparu sylfaen ardderchog o wybodaeth a sgiliau sy'n addas ar gyfer amgylcheddau proffesiynol a gyrfaoedd yn adrannau'r llywodraeth, asiantaethau cyfiawnder troseddol, a sefydliadau gwirfoddol yn y sector cyfiawnder troseddol.

Mabwysiadwyd amrywiaeth o ddulliau asesu i herio ac ysgogi myfyrwyr yn briodol i'w galluogi i ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol ym maes materion troseddeg a chyfiawnder troseddol. Drwy gydol y cynllun, mae pwyslais ar ddysgu hunangyfeiriedig, ymgysylltu â damcaniaeth a dadleuon troseddegol clasurol a chyfoes, a chymhwyso safbwyntiau ac egwyddorion troseddegol craidd i feysydd penodol i'w hystyried. Bydd myfyrwyr yn meithrin y sgiliau sylfaenol mewn cynllunio ymchwil a dealltwriaeth feirniadol o sylfeini damcaniaethol ymchwil a'i gymhwysiad mewn Troseddeg a'r Gyfraith. Yn y semester olaf, byddant yn cwblhau darn annibynnol o ymchwil beirniadol, gan gynnal adolygiad systematig o lenyddiaeth berthnasol, dogfennau polisi ac ymchwil mewn maes o'u dewis (dan arweiniad staff academaidd). 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Cyfnod:

Un flwyddyn amser-llawn. Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Amser cyswllt:

Yn ystod y ddau semester cyntaf, fel arfer bydd gennych un dosbarth 2-3 awr fesul modiwl yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys darlith integredig ac amser seminar. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau am gymorth ychwanegol a chymorth i ddysgwyr yn ystod eu horiau swyddfa. Gwahoddir myfyrwyr hefyd i fynychu'r seminarau ymchwil adrannol wythnosol dan arweiniad academyddion yn yr Adran, siaradwyr gwadd a myfyrwyr PhD. Anogir myfyrwyr i gyfarfod yn rheolaidd â'u Tiwtor Personol a'u Goruchwyliwr Traethawd Hir penodedig yn Semester 3.

Asesu:

Mae'r drefn asesu ar gyfer y cynllun hwn wedi'i hystyried yn ofalus i alluogi'r asesiad priodol o fyfyrwyr yn unol â'r Datganiad Meincnod QAA diweddaraf ar gyfer Graddau Meistr Troseddeg (2019) ac mewn ymdrech i ddatblygu sgiliau graddedig trosglwyddadwy sy'n addas ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil, asiantaethau cyfiawnder troseddol a sefydliadau gwirfoddol ym maes trosedd a chyfiawnder. Ar draws y cynlluniau, bydd myfyrwyr yn ymgysylltu ag amrywiaeth o fathau o asesiadau.

Mae'r mathau o asesiadau'n cynnwys (yn dibynnu ar y dewis modiwl): traethawd ac ysgrifennu adroddiadau; cyflwyniadau unigol / grŵp; llunio erthygl academaidd; hwyluso gweithdy grŵp; dylunio a datblygu portffolio; cynhyrchu Podlediad a chynhyrchu Wici. Yn Semester 3, mae myfyrwyr yn dylunio, yn cynnal ac yn gwerthuso eu hymchwil annibynnol eu hunain yn y modiwl traethawd hir.

Ffioedd Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfleoedd am gyllid ar gael, edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Bydd graddedigion o'r radd hon yn gadael gyda'r wybodaeth a'r gallu proffesiynol i ymarfer yn annibynnol, myfyrio, adolygu ac adeiladu ar arbenigedd a barn disgyblaethol. Mae addysgu, dysgu ac asesu'r rhaglen yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau moesegol, sgiliau dadansoddi beirniadol, sgiliau ymchwil a sgiliau cyflwyno a fydd yn eich galluogi i rannu eich arbenigedd troseddegol mewn lleoliadau academaidd a phroffesiynol.

Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys:

  • adrannau'r llywodraeth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol
  • mudiadau gwirfoddol / mudiadau anllywodraethol ym maes trosedd a chyfiawnder
  • sefydliadau rhyngwladol, megis y Cenhedloedd Unedig
  • ymchwil a'r byd academaidd.

Dysgu ac Addysgu

Byddwch yn cael amgylchedd dysgu ysgogol, gyda grwpiau dysgu bach, sy'n addas ar gyfer profiad dysgu clir a phersonol. Drwy gydol y cynllun, mae’r pwyslais ar ddysgu hunangyfeiriedig, ymgysylltu â damcaniaeth a dadleuon troseddegol clasurol a chyfoes, a chymhwyso safbwyntiau ac egwyddorion troseddegol craidd i feysydd penodol i'w hystyried.

Cyflawnir y canlyniadau dysgu (gwybodaeth a sgiliau) drwy raglen integredig o ddarlithoedd, seminarau, goruchwyliaeth, sesiynau ymarferol, gwaith grŵp a darllen annibynnol, dan arweiniad a'ch ymdrechion ymchwil eich hun. Mae darlithoedd yn cyflwyno meysydd eang o ddamcaniaeth a gwybodaeth, y byddwch yn adeiladu arnynt wrth baratoi ar gyfer seminarau a chymryd rhan ynddynt. Mae'r seminarau hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut i ymgysylltu â'ch modiwlau a myfyrio arnynt mewn amgylchedd dysgu cefnogol. Gallwch ddefnyddio'r profiad hwn wrth baratoi a chwblhau asesiadau. Cewch eich cefnogi yn eich dysgu drwy gyfarfodydd cynnydd academaidd gyda'ch tiwtor personol, yn ogystal â derbyn adborth ar gynnydd gan diwtoriaid pwnc.

|