MSc

Cyfiawnder Ieuenctid

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r MSc Cyfiawnder Ieuenctid ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i astudio'r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Mae i’r radd hon safbwynt pendant a phenodol o feirniadol wrth ystyried materion perthnasol, o'r tu mewn i Gymru a Lloegr. Mae cynnwys y rhaglen yn ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwil cyfiawnder ieuenctid beirniadol sy'n dod i'r amlwg, ac mae'n rhoi cyfle i chi i ddatblygu dealltwriaeth soffistigedig am bolisi, deddfwriaeth a'i datblygiad hanesyddol a deddfwriaeth ac ymchwil. Mae newidiadau cyfredol a newidiadau sy’n prysur ddod i’r amlwg yng nghyd-destun ein dealltwriaeth am 'blant', a sut y cânt eu trin o fewn i'r systemau presennol a thu hwnt, hefyd yn cael sylw. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn dadansoddiad cymharol o'r dulliau a fabwysiadwyd mewn awdurdodaethau eraill er mwyn cynnig beirniadaeth bellach ar y darlun presennol a’r sefyllfa sy’n datblygu, a gwerthuso effaith ymchwil ar ymarfer a pholisi.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in criminology or a related subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i ddod yn ymchwilwyr ac awduron annibynnol ym maes cyfiawnder ieuenctid, a hynny drwy gyfres o sesiynau a fydd yn gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, lle bydd disgwyl iddynt hefyd arwain trafodaethau. Rhoddir pwyslais ar sgiliau ysgrifennu yn benodol. Bydd aseiniadau wedi'u strwythuro fel eu bod yn efelychu erthyglau cyfnodolion, a bydd y sylwadau a roddir yn adlewyrchu adolygiadau gan gymheiriaid. Bwriad hyn oll fydd eich paratoi i gyhoeddi gweithiau academaidd, a bydd cyngor ac arweiniad ar gael gan academyddion cyhoeddedig.

 Mae'r radd yn cynnwys dau fodiwl gorfodol (Cyfiawnder Ieuenctid Beirniadol a Chyfiawnder Ieuenctid Cymharol Rhyngwladol), a thraethawd hir ar thema sy’n ymwneud â chyfiawnder ieuenctid. Mae Cyfiawnder Ieuenctid Beirniadol yn rhychwantu ystod eang o bynciau. Yn eu plith mae patrymau (cyfiawnder yn erbyn lles, cyfiawnder ieuenctid sy'n seiliedig ar risg, cyfiawnder ieuenctid Plant yn Gyntaf/Seiliedig ar Hawliau), materion dadleuol (isafswm oedran yng nghyd-destun cyfrifoldeb troseddol, panigau moesol, caethiwed ac ailsefydlu) a dadleuon cyfoes (pynciau cyfredol fel diffyg cymesuredd, gangiau/troseddau cyllyll). Un elfen o’r modiwl Cyfiawnder Ieuenctid Cymharol Rhyngwladol yw’r archwiliad beirniadol manwl ar yr amrywiaeth o awdurdodaethau, er enghraifft, yr Alban, UDA, Awstralia, Canada, y gwledydd Llychlynnaidd, Japan a Seland Newydd.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Cyfnod:

Un flwyddyn amser-llawn. Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Amser cyswllt:

Yn ystod y ddau semester cyntaf, fel arfer bydd gennych un dosbarth 2-3 awr fesul modiwl yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys darlith integredig ac amser seminar. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau am gymorth ychwanegol a chymorth i ddysgwyr yn ystod eu horiau swyddfa. Gwahoddir myfyrwyr hefyd i fynychu'r seminarau ymchwil adrannol wythnosol dan arweiniad academyddion yn yr Adran, siaradwyr gwadd a myfyrwyr PhD. Anogir myfyrwyr i gyfarfod yn rheolaidd â'u Tiwtor Personol a'u Goruchwyliwr Traethawd Hir penodedig yn Semester 3.

Asesu:

Mae'r drefn asesu ar gyfer y cynllun hwn wedi'i hystyried yn ofalus i alluogi'r asesiad priodol o fyfyrwyr yn unol â'r Datganiad Meincnod QAA diweddaraf ar gyfer Graddau Meistr Troseddeg (2019) ac mewn ymdrech i ddatblygu sgiliau graddedig trosglwyddadwy sy'n addas ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil, asiantaethau cyfiawnder troseddol a sefydliadau gwirfoddol ym maes trosedd a chyfiawnder. Ar draws y cynlluniau, bydd myfyrwyr yn ymgysylltu ag amrywiaeth o fathau o asesiadau.

Mae'r mathau o asesiadau'n cynnwys (yn dibynnu ar y dewis modiwl): traethawd ac ysgrifennu adroddiadau; cyflwyniadau unigol / grŵp; llunio erthygl academaidd; hwyluso gweithdy grŵp; dylunio a datblygu portffolio; cynhyrchu Podlediad a chynhyrchu Wici. Yn Semester 3, mae myfyrwyr yn dylunio, yn cynnal ac yn gwerthuso eu hymchwil annibynnol eu hunain yn y modiwl traethawd hir.

Ffioedd Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfleoedd am gyllid ar gael, edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Bydd graddedigion o'r radd hon yn gadael gyda'r wybodaeth a'r gallu proffesiynol i ymarfer yn annibynnol, myfyrio, adolygu ac adeiladu ar arbenigedd a barn disgyblaethol. Mae addysgu, dysgu ac asesu'r rhaglen yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau moesegol, sgiliau dadansoddi beirniadol, sgiliau ymchwil a sgiliau cyflwyno a fydd yn eich galluogi i rannu eich arbenigedd troseddegol mewn lleoliadau academaidd a phroffesiynol.

Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys: 

  • adrannau'r llywodraeth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol
  •  mudiadau gwirfoddol / mudiadau anllywodraethol ym maes trosedd a chyfiawnder
  • sefydliadau rhyngwladol, megis y Cenhedloedd Unedig
  • ymchwil a'r byd academaidd.

Dysgu ac Addysgu

Byddwch yn cael amgylchedd dysgu ysgogol, gyda grwpiau dysgu bach, sy'n addas ar gyfer profiad dysgu clir a phersonol. Drwy gydol y cynllun, mae’r pwyslais ar ddysgu hunangyfeiriedig, ymgysylltu â damcaniaeth a dadleuon troseddegol clasurol a chyfoes, a chymhwyso safbwyntiau ac egwyddorion troseddegol craidd i feysydd penodol i'w hystyried.

Cyflawnir y canlyniadau dysgu (gwybodaeth a sgiliau) drwy raglen integredig o ddarlithoedd, seminarau, goruchwyliaeth, sesiynau ymarferol, gwaith grŵp a darllen annibynnol, dan arweiniad a'ch ymdrechion ymchwil eich hun. Mae darlithoedd yn cyflwyno meysydd eang o ddamcaniaeth a gwybodaeth, y byddwch yn adeiladu arnynt wrth baratoi ar gyfer seminarau a chymryd rhan ynddynt. Mae'r seminarau hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut i ymgysylltu â'ch modiwlau a myfyrio arnynt mewn amgylchedd dysgu cefnogol. Gallwch ddefnyddio'r profiad hwn wrth baratoi a chwblhau asesiadau. Cewch eich cefnogi yn eich dysgu drwy gyfarfodydd cynnydd academaidd gyda'ch tiwtor personol, yn ogystal â derbyn adborth ar gynnydd gan diwtoriaid pwnc.

|