MA

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Dyma gwrs meistr a ddysgir sy’n cynnig ystod o fodiwlau iaith a llenyddiaeth (y rhan fwyaf drwy gyfrwng y Saesneg), gan gynnwys Cymraeg Modern, Cymraeg Canol, Gwyddeleg Modern, Hen Wyddeleg a Gaeleg yr Alban. Yn fyfyrwyr ar y cwrs hwn, byddwch yn ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o’ch dewis o dan gyfarwyddyd arbenigwr yn y maes.

Un o gryfderau’r MA hwn, ac un sy’n ein gosod ar wahân i gynlluniau tebyg eraill, yw y byddwn yn eich galluogi a’ch annog i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg, p’un a ydych chi’n dod atom fel siaradwr neu ddysgwr Cymraeg, neu fel dechreuwr pur.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:2 neu gyfatebol. Caiff unigolion heb radd eu hystyried fesul un ar sail profiad perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio’r MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Drwy ddewis Prifysgol Aberystwyth byddwch yn dewis canolfan ddysg mewn lleoliad heb ei ail. Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddwch yn rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion lle mae myfyrwyr yn dod ers 1872, wedi’u denu gan ein henw da am ddysgu rhagorol a phrofiad eithriadol ein myfyrwyr.
  • Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yw’r adran hynaf o’i bath yn y byd ac mae’n gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr ac ymchwilwyr – a phob un yn rhannu’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o’r Gymraeg a’r Wyddeleg, eu hanes, eu llenyddiaeth a’u lle yn y byd modern, rhyngwladol.
  • O ddod atom i Aberystwyth, byddwch yn rhan o gymuned ymchwil ehangach fywiog. Mewn seminarau misol, mae staff, myfyrwyr ac ysgolheigion sy’n ymweld â’r Adran yn cyflwyno eu hymchwil, ac mae nifer o grwpiau darllen anffurfiol yn rhedeg trwy’r flwyddyn.
  • Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn adnodd ardderchog a gellir cerdded yno’n hawdd o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mae’n un o bump llyfrgell hawlfraint yn y DU. Mae ei llawysgrifau canoloesol amhrisiadwy yn cynnwys peth o’r llenyddiaeth Gymraeg gynharaf, yn ogystal â chasgliadau gwerthfawr o ddeunydd Cernyweg canoloesol, llawysgrifau Gwyddeleg modern a llên gwerin Manaweg.
  • Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i Eiriadur Prifysgol Cymru, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae gennym berthynas agos â’r holl sefydliadau hyn, a gall ein myfyrwyr fanteisio ar eu hadnoddau.
  • Mae dysgu iaith yn digwydd y tu allan i’r ystafell ddosbarth gymaint ag ynddi, ac yn hyn o beth mae’r gymuned ehangach yn Aberystwyth yn rhagori. Mae Ceredigion yn gartref i gymunedau Cymraeg bywiog, ac mae Aberystwyth yn llwyfannu sîn gelfyddydol Gymraeg amrywiol, gan gynnwys drama, barddoniaeth, cerddoriaeth bop, cerddoriaeth a dawnsio traddodiadol, a llawer iawn mwy. Mae digwyddiadau cymdeithasol a llenyddol rheolaidd fel Cicio’r Bar, noson o ddarlleniadau barddoniaeth a cherddoriaeth a gyflwynir gan y beirdd adnabyddus Eurig Salisbury a Hywel Griffiths, yn caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad at ddiwylliant cyfoes Cymru ac yn eu cyflwyno i’r ystod unigryw o gyfleoedd i brofi’r Gymraeg yn ei chynefin naturiol.
  • Mae gan Aberystwyth hefyd undeb myfyrwyr Cymraeg (UMCA), timau chwaraeon Cymraeg (o dan ymbarél Y Geltaidd) a Neuadd Pantycelyn, neuadd breswyl Gymraeg enwog Aberystwyth sydd newydd gael ei hadnewyddu. Mae’r holl gyfleusterau hyn yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Yn ateg i’r wybodaeth bwnc-benodol, mae’r cwrs wedi’i strwythuro er mwyn annog datblygiad personol a meithrin set o sgiliau cryf sy’n berthnasol i lawer o leoliadau gwaith uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Bydd yr MA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhoi sylfaen gadarn i'r rhai sy'n dewis mynd ymlaen i wneud ymchwil yn y pwnc, neu i weithio gydag ieithoedd a diwylliannau cysylltiedig (Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban).

Yn hanesyddol, mae rhaglenni MA yr Adran wedi cynnig llwybrau i fyfyrwyr o ddisgyblaethau tebyg i fynd ymlaen i wneud ymchwil ddoethurol ym Mhrydain, Iwerddon a Gogledd America. Mae graddedigion diweddar yn gwneud ymchwil yn Harvard, Yale a Toronto.

Bydd pob elfen o'r cwrs MA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhoi gwell cyfleoedd gwaith ichi. Un o gryfderau amlwg y cwrs hwn, ochr yn ochr â datblygu gwybodaeth a phrofiad pwnc-benodol, yw'r pwyslais ar ddatblygiad personol. Wrth ichi feithrin arbenigedd iaith, bydd eich ymchwil a'ch gallu beirniadol yn golygu eich bod yn ymgeisydd cryf ar gyfer unrhyw swydd lle mae syniadau a thestunau yn gofyn am y gallu i ymchwilio, dadansoddi, trafod, ehangu a chategoreiddio.

Mae cyflogwyr ym mhob diwydiant yn gwerthfawrogi sgiliau o'r fath, a bydd y creadigrwydd, ymchwilio, dadansoddi a thrafod ar y cwrs hwn yn eich rhoi mewn sefyllfa ragorol yn y farchnad swyddi cystadleuol.

Dysgu ac Addysgu

Dysgu ac Addysgu

Mae’r MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cynnwys un modiwl craidd fel a ganlyn:

  • Traethawd Estynedig (Traethawd Hir) – gwerth 60 credyd

Byddwch yn dewis 60 credyd arall o blith y modiwlau opsiynol sydd ar gael:

  • Early Modern Irish
  • Comparative Celtic Philology
  • Early Irish Saga Literature
  • Medieval Welsh Poetry
  • Beginning Modern Welsh I
  • Scottish Gaelic
  • Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800
  • Comparative Celtic Literature
  • The Mabinogion
  • Introduction to Old Irish
  • Beginning Modern Welsh II
  • Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol

Sut byddwch chi'n cael eich addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gymryd rhan mewn grwpiau ymchwil, a mynychu seminarau a gweithdai ymchwil yr adran. Bydd sesiynau ychwanegol i weithio tuag at ddatblygu'ch traethawd hir hefyd.

Bydd rhai o'r modiwlau dewisol yn cael eu haddysgu ar y cyd â modiwlau israddedig cyfatebol yr adran - y modiwlau dysgu iaith yn benodol. Cewch ddigon o gyfleoedd i wrando, siarad ac ymarfer yr ieithoedd, a byddwch hefyd yn mynychu seminarau cyfieithu ychwanegol a fydd yn eich ymestyn ac yn eich herio ymhellach, gan arwain at eich astudiaethau annibynnol yn yr iaith, a'ch paratoi ar gyfer y tasgau cyfieithu ar y lefel uwch.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio un modiwl craidd mawr - y Traethawd Hir. Yn dilyn hynny, byddwch yn mynd ar drywydd eich diddordebau eich hun gan ddewis o'r rhestr o fodiwlau dewisol sy'n cwmpasu ystod eang o themâu, i adeiladu portffolio sy'n cwrdd â'ch diddordebau chi a'r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gyrfa.

O ran y Traethawd Hir, disgwylir i chi weithio'n annibynnol ac i fynd ar drywydd eich pwnc unigryw eich hun. Bydd cefnogaeth ac arbenigedd y staff academaidd ar gael ichi, ond bydd angen ichi feithrin ethig gwaith proffesiynol er mwyn cyflawni'r dasg academaidd heriol hon. Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect sy'n sgiliau trosglwyddadwy wrth baratoi'r prosiect hwn - sgiliau a fydd yn berthnasol i bron bob math o gyd-destun proffesiynol sy'n denu graddedigion gradd Meistr.

Staff

Mae arbenigedd staff Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cwmpasu holl rychwant iaith a llenyddiaeth Gymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Llydaweg, Cernyweg a Manaweg yn ogystal ag ymchwil ieithyddol a llenyddol amlddisgyblaethol.

|