LLB

Cyfraith a Throseddeg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Cyflwynir y cwrs LLB Cyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Adran y Gyfraith a Throseddeg, adran a chanddi hanes hir o gynnig graddau yn y Gyfraith. Ychwanegwyd Troseddeg at yr arlwy yn 2006. Mae ein gradd LLB Cyfraith a Throseddeg yn berffaith ar gyfer y rhai sydd â’u bryd ar yrfa uchelgeisiol yn y gyfraith yn yr 21ain ganrif. Mae'n gwrs heriol a diddorol a fydd yn eich cyflwyno i hanfodion y Gyfraith ochr yn ochr â modiwlau Troseddeg sy'n archwilio'r damcaniaethau a'r trafodaethau’n ymwneud â throseddu, gwyredd, natur bod yn ddioddefwr, y gyfraith a chosb. Mae'r cyfuniad o fodiwlau Cyfraith a Throseddeg yn siŵr o’ch ysgogi a’ch helpu i anelu at eich nod. Wrth gwblhau’r radd hon, bydd gennych allu i’w ddefnyddio yn y byd go-iawn, a fydd yn eich galluogi i lywio eich dyfodol a datblygu gyrfa deilwng. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae LLB Cyfraith a Throseddeg yn radd ymarferol yn y gyfraith sydd wedi'i chynllunio i fodloni anghenion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith sy'n gweithio â sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio hanfodion y gyfraith ynghyd â dysgu am achosion a goblygiadau troseddu, a chewch gyfle i gynorthwyo ymarferwyr cyfreithiol wrth iddynt roi cyngor i gleientiaid. Er enghraifft, fe’ch anogir i roi eich sgiliau ar waith yn ein Clinig Cyfraith Teulu er mwyn i chi allu helpu pobl a chael eich blas cyntaf ar y gyfraith ar waith. 

 Mae LLB Cyfraith a Throseddeg yn cynnig nifer o ddewisiadau. Cewch gyfle i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith, i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yn un o'n prifysgolion partner niferus (yn Ewrop, Unol Daleithiau America, Canada ac Awstralia) a byddwch hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd proffesiynol a chymdeithasol ardderchog fel ymweld â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytai’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain. 

Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu cyfoethogi’ch astudiaethau drwy gymryd rhan gyda'n Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau cyfreitha ac eirioli allweddol. Rydym hefyd yn cynnig cystadleuaeth Ymryson Gymraeg ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno ymrysona drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Rheoli ac Atal Troseddu CT10320 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT10420 20
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT10120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contract Law LC13820 20
Criminology in Action LC14120 20
Cyfraith Camwedd CT11120 20
Cyfraith Cytundebau CT13820 20
Foundations of Psychology LC13620 20
Tort LC11120 20
Troseddeg ar Waith CT14120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Climate Change and Environmental Law LC27720 20
Commercial Law LC26220 20
Community Justice LC20320 20
Company Law LC27220 20
Contemporary Issues in Criminology LC24220 20
Contract Law LC23820 20
Crime & Punishment in Historical Perspective LC23020 20
Criminal Justice Placement LC22520 20
Critical Perspectives on Imprisonment LC22020 20
Cybercrime and Cybersecurity LC21920 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20
Cyfraith Cytundebau CT23820 20
Cyfraith Ewrop CT20720 20
Cyfraith Gyhoeddus CT20620 20
Cyfraith Tir CT24820 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT20820 20
Drugs and Crime LC28220 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT24920 20
Equity and Trusts LC24920 20
European Law LC20720 20
Family and Child Law LC26420 20
Human Rights LC25220 20
Humanitarian Law LC27620 20
Intellectual Property Law LC28620 20
International Law LC26920 20
Labour Law LC26820 20
Land Law LC24820 20
Lleoliad Gwaith Cyfiawnder Troseddol CT22520 20
Medicine Ethics and the Law LC26720 20
Police, Policing and Society LC21020 20
Principles of Evidence LC26520 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC28120 20
Psychology and Crime LC24020 20
Psychopathology LC29220 20
Public Law LC20620 20
Seiberdroseddu a Seiberddiogelwch CT21920 20
Sports Law and Society LC27920 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC22420 20
Tort LC21120 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC29120 20
Trosedd a Chosb o Safbwynt Hanesyddol CT23020 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT20220 20
Troseddau & Chyfiawnder Ieuenctid CT26120 20
Wrongful convictions in criminological context LC22320 20
Youth Crime and Justice LC26120 20
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas CT21020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Law and Criminology Dissertation * LC39020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Commercial Law LC36220 20
Community Justice LC30320 20
Company Law LC37220 20
Contemporary Issues in Criminology LC34220 20
Crime & Punishment in Historical Perspective LC33020 20
Criminal Justice Placement LC32520 20
Criminal Law LC30520 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Critical Perspectives on Imprisonment LC32020 20
Critical and Radical Criminology LC37120 20
Cybercrime and Cybersecurity LC31920 20
Cyfraith Ewrop CT30720 20
Cyfraith Gyhoeddus CT30620 20
Cyfraith Tir CT34820 20
Cyfraith Troseddol CT30520 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT30820 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Drugs and Crime LC38220 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT34920 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Equity and Trusts LC34920 20
European Law LC30720 20
Family and Child Law LC36420 20
Human Rights LC35220 20
Humanitarian Law LC37620 20
International Law LC36920 20
Labour Law LC36820 20
Land Law LC34820 20
Lleoliad Gwaith Cyfiawnder Troseddol CT32520 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Police, Policing and Society LC31020 20
Principles of Evidence LC36520 20
Principles of Professional Conduct, Public & Administrative Law, Legal System of England & Wales & L LC31320 20
Property Law and Practice LC31820 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC38120 20
Psychology and Crime LC34020 20
Psychopathology LC39220 20
Public Law LC30620 20
Seiberdroseddu a Seiberddiogelwch CT31920 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Sports Law and Society LC37920 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC32420 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20
Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid CT36120 20
Trosedd a Chosb o Safbwynt Hanesyddol CT33020 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT30220 20
Troseddeg Feirniadol a Radical CT37120 20
Trusts, Wills and the Administration of Trusts and Estates LC31720 20
Wrongful convictions in criminological context LC32320 20
Youth Crime and Justice LC36120 20
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas CT31020 20

Gyrfaoedd

Bydd LLB Cyfraith a Throseddeg o Aberystwyth yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth ym mhroffesiwn y gyfraith a’r system cyfiawnder troseddol a bydd yn gymhwyster gwerthfawr ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Mae graddedigion diweddar yn llwyddo yn y meysydd hyn: 

  • troseddeg 
  • rheolaeth ariannol 
  • busnes 
  • adnoddau dynol 
  • cysylltiadau rhyngwladol 
  • newyddiaduraeth 
  • addysg. 

 

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi: 

  • yr hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol 
  • y gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth 
  • y gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir 
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • y gallu i weithio'n annibynnol 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun 
  • sgiliau gweithio mewn tîm a'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb 
  • sgiliau ymchwil. 

Dysgu ac Addysgu

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu? 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau. 

Byddwch yn astudio elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd gymhwysol yn y gyfraith, ac yn cael trosolwg cynhwysfawr o’r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y ddwy system, a sut y maent yn rhyngweithio â’i gilydd. 

Byddwch yn archwilio safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy'n helpu i esbonio trosedd a chythrwfl cymdeithasol mewn cymdeithas, gan archwilio'r rhain o fewn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol ac edrych ar sut y maent wedi llywio systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol. 

Byddwch yn astudio’r egwyddorion cyfraith trosedd y mae’r rhan fwyaf o droseddau yn seiliedig arnynt, a'r meini prawf allweddol ar gyfer adnabod y troseddau mwyaf difrifol. Byddwch yn archwilio rheolaeth gymdeithasol yn gyffredinol a rheoli troseddu yn benodol, gan ymchwilio i safbwyntiau damcaniaethol ac athronyddol pob un. 

Yn eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf byddwch yn astudio nifer fach o bynciau cyfreithiol craidd ac yn teilwra eich astudiaethau drwy ddewis yn ofalus o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. 

Gradd thematig yw hon a byddwch yn cael eich cyfeirio gan yr Adran tuag at fodiwlau sy'n berthnasol i thema'r cynllun. Bydd y traethawd hir hefyd yn berthnasol i themâu penodol y cynllun.  

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau o ansawdd uchel. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Bydd gennych fynediad hefyd at fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut y caf fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, cofnodion astudio neu bortffolios, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich cwrs gradd. Eich tiwtor personol fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad. 

 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|