DProf

Celf

Mae rhaglen DProf Prifysgol Aberystwyth yn cyfuno modiwlau a addysgir ag ymchwil a gyflawnir gan fyfyrwyr o dan arolygaeth staff sydd ag arbenigedd yn y pwnc dan sylw. Mae modiwlau a addysgir fel 'Arweinyddiaeth i Ymchwilwyr' yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ar eu profiad proffesiynol eu hunain, y gellir wedyn ei gymhwyso i gyd-destunau ymchwil, tra bod modiwlau sy'n canolbwyntio ar ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gasglu a dadansoddi data. Mae'r modiwl 'Astudiaeth Beilot' yn gyfle i fyfyrwyr brofi eu sgiliau ymchwil trwy gynllunio a dadansoddi prosiect ar raddfa fach gan ddefnyddio eu data ymchwil eu hunain. Yn y flwyddyn astudio gyntaf, mae'r tîm arolygol yn cynorthwyo myfyrwyr i gwblhau'r modiwlau a addysgir, ac yn yr ail a'r drydedd flwyddyn mae’r arolygwyr yn cydweithio'n agos â’r myfyrwyr i wneud ymchwil yn eu dewis faes. Mae’r pynciau DProf yn yr Ysgol Gelf yn cynnwys pynciau fel y dirwedd a'r amgylchedd, arferion argraffu, arferion amgueddfeydd ac orielau, cysylltiadau cymdeithasol, addysg yn ogystal â meysydd proffesiynol eraill.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad UK Bachelors (Honours) degree or equivalent, equivalent professional experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio

Yn ôl i'r brig

|