DProf

Seicoleg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2025

Mae rhaglen DProf Prifysgol Aberystwyth yn cyfuno modiwlau a addysgir ag ymchwil a gyflawnir gan fyfyrwyr o dan arolygaeth staff sydd ag arbenigedd yn y pwnc dan sylw. Mae modiwlau a addysgir fel 'Arweinyddiaeth i Ymchwilwyr' yn caniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ar eu profiad proffesiynol eu hunain, y gellir wedyn ei gymhwyso i gyd-destunau ymchwil, tra bod modiwlau sy'n canolbwyntio ar ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gasglu a dadansoddi data. Mae'r modiwl 'Astudiaeth Beilot' yn gyfle i fyfyrwyr brofi eu sgiliau ymchwil trwy gynllunio a dadansoddi prosiect ar raddfa fach gan ddefnyddio eu data ymchwil eu hunain. Yn y flwyddyn astudio gyntaf, mae'r tîm arolygol yn cynorthwyo myfyrwyr i gwblhau'r modiwlau a addysgir, ac yn yr ail a'r drydedd flwyddyn mae’r arolygwyr yn cydweithio'n agos â’r myfyrwyr i wneud ymchwil yn eu dewis faes. Mae’r pynciau DProf mewn Seicoleg yn cynnwys seilwaith trafnidiaeth a derbynioldeb, iechyd a lles, iechyd gwledig, newid ymddygiad wedi’i gymhwyso i amrywiaeth o gyd-destunau, chwaraeon ar gyfer datblygu a sgiliau, a seicoleg fforensig.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad UK Bachelors (Honours) degree or equivalent, equivalent professional experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Dylai ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil llawn yn rhan o'r broses ymgeisio

Yn ôl i'r brig

|