BA

Drama a Theatr (gyda blwyddyn o ymarfer proffesiynol ymgorfforedig)

BA Drama a Theatr (gyda blwyddyn o ymarfer proffesiynol ymgorfforedig) Cod W402 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Ar y cwrs gradd Drama a Theatr (gyda blwyddyn o ymarfer proffesiynol ymgorfforedig) a gynigir gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn astudio sut beth fu theatr, yn archwilio beth yw theatr heddiw, ac yn dychmygu beth all theatr fod. Drwy gyfuniad arloesol o ddamcaniaeth ac arfer, byddwch yn datblygu'ch sgiliau fel gwneuthurwr theatr a meddyliwr creadigol, ac yn paratoi i weithio yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt. Bydd y flwyddyn integredig mewn ymarfer proffesiynol yn gyfle ichi gael profiad ymarferol mewn lleoliad proffesiynol ac, ar yr un pryd, i feithrin cysylltiadau allweddol yn barod ar gyfer y cyfnod ar ôl ichi raddio.

Mae theatr yn gofyn cwestiynau ac yn agor gofodau arbrofol er mwyn i bethau ddigwydd a datblygu, a hynny yng nghyffro amser a rennir. Ar y cwrs gradd hwn, gyda chefnogaeth staff a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol ac sydd ag ystod eang o arbenigedd, byddwch yn arbrofi â thestunau, arferion a gwaith cynhyrchu, ac yn dod ar draws ystod eang o ffurfiau hanesyddol a chyfoes ar theatr, o ddrama wedi'i sgriptio i berfformiadau penodol i safle, o Shakespeare i arbrofion â chyfryngau newydd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Drama a Theatr (gyda blwyddyn o ymarfer proffesiynol ymgorfforedig) yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan staff sy'n meddu ar gyfoeth o arbenigedd mewn ymchwil a/neu greu theatr broffesiynol.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn dau berfformiad neu brosiect cynhyrchu bob blwyddyn.
  • Byddwch yn rhan o adran fywiog a chyffrous, lle mae drama, theatr, ffilm, y cyfryngau, senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
  • Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine, a Theatr Genedlaethol Cymru.
  • Cewch ddefnyddio cyfleusterau ac adnoddau ardderchog ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer gyda chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer proffesiynol, gyda rigiau goleuo digidol wedi'u rheoli drwy gonsolau Strand Lighting ac ETC Congo, Systemau Sain Yamaha a Soundcraft, Systemau Clyweledol Sanyo a goleuo Strand, a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd.
  • Mae gennym gysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sef un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Cymru, sy'n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.


Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Theatre in Context 1 TP11020 20
Theatre in Context 2 TP11320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Site-Specific Performance Project TP11420 20
Studio Theatre Project TP11120 20
Body, Voice, Expression. TP10220 20
Body, Voice, Perception TP10120 20
Making Short Films 1 FM11520 20
Theatre Technologies TP19820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Directors' Theatre TP21820 20
New Media Performance TP23820 20
Shakespeare in Performance TP23220 20
Theatre and Contemporary Society TP20820 20
Acting for Camera TP25920 20
Acting: Process and Performance TP21220 20
Devised Performance Project TP21620 20
Theatre Design Project TP22620 20
Theatre Production Project TP24940 40

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Professional Practice Year TPS0260 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ensemble Performance Project TP35520 20
Independent Production Project TP38140 40
Independent Research Project TP36040 40
Playwriting TP33340 40
Contemporary Drama TP30020 20
Musical Theatre Dramaturgies TP39020 20
Performance and Architecture TP33420 20
Performance and Disability TP30320 20
Place, Space and Landscape TP32820 20

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Drama a Theatr?

Mae llawer o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • actio a pherfformio
  • cyfarwyddo
  • cynllunio
  • sgriptio
  • addysgu a maes addysg
  • gweinyddu yn y celfyddydau
  • marchnata
  • rheoli
  • cysylltiadau cyhoeddus.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Mae myfyrwyr Drama a Theatr yn meithrin sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gweithio'n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw
  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu amser a defnyddio sgiliau yn effeithiol
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu eu hunain
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.


Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae'r amlinelliad isod yn rhoi syniad ichi o'r hyn y mae'n bosibl y byddwch yn ei astudio ar y cwrs gradd tair blynedd hwn.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • ymagweddau cyfoes tuag at greu theatr yn y stiwdio ac ar safle
  • cyfnodau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol ym maes drama a theatr
  • dadansoddi drama, theatr a pherfformio.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • creu theatr gyfoes drwy ddulliau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol
  • cynhyrchu theatr ar raddfa lawn
  • technegau actio ar gyfer y llwyfan a'r sgrin
  • theatr y cyfarwyddwr a drama fodern Ewropeaidd
  • perfformio Shakespeare
  • theatr a chymdeithas gyfoes
  • perfformio ar gyfyngau newydd.

Byddwch yn treulio eich trydedd blwyddyn mewn lleoliad ymarfer proffesiynol.

Yn ystod eich blwyddyn olaf cewch gyfle i gyflawni'r canlynol:

  • creu gwaith creadigol annibynnol
  • cyflawni prosiect ymchwil sylweddol a chyflawni astudiaeth ddamcaniaethol uwch
  • ymestyn eich sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu annibynnol ac ar y cyd
  • datblygu eich sgiliau entrepreneuraidd wrth gynhyrchu a churadu digwyddiadau diwylliannol
  • sgriptio eich drama eich hun
  • astudio modiwlau arbenigol sy'n cynnwys: gofod, lle a thirlun, theatr gyfoes yng Nghymru, theatr, rhywedd a rhywioldeb, perfformio a phensaernïaeth, dramayddiaeth theatr gerdd, a drama gyfoes ym Mhrydain ac Iwerddon.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu ar ffurf gweithdai ymarferol, seminarau grwpiau bach, darlithoedd, prosiectau cynhyrchu, a gwaith prosiect mewn grŵp.

Rydyn ni'n addysgu â dull cymysg yn aml, gan archwilio damcaniaeth drwy arfer ac ymchwil ymarferol, drwy lygad safbwyntiau damcaniaethol amrywiol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau ffurfiol ac wedi'u perfformio, arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau grŵp.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi ar gyfer cyfnod eich cynllun gradd. Bydd y tiwtor yn gallu eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau, boed yn academaidd neu'n bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddynamig, yn heriol, yn ddifyr a chyffrous. Mae'n cynnig ystod eang o fodiwlau ymarferol i fyfyrwyr, sy'n cael eu cynnal mewn amgylchedd anogol sydd wedi'i reoli. Mae cyfleusterau adeilad Parry Williams heb eu hail, ac yn cynnig cyfle i berfformio ystod o gysyniadau theatraidd. Mae'r cwrs yn cynnig modiwlau damcaniaethol, sydd hefyd yn ddiddorol ac yn cynnig golwg ddyfnach ar y byd o'n cwmpas, a pherthynas cymdeithas gyda'r celfyddydau. Agwedd fwyaf gwerthfawr y modiwlau academaidd yw'r ffaith bod modd trosglwyddo'r sgiliau rydych chi'n eu dysgu wrth astudio i waith ymarferol. Mae'r gwaith damcaniaethol yn aml yn gwella'r sgiliau ar lefel ymarferol. Drwy gydweithio rhwng modiwlau ymarferol a damcaniaethol, mae'r cwrs yn cynnig llawer o sgiliau defnyddiol i fyfyrwyr.

Daniel Andrew Radbourne

Mae'r ystod eang o fodiwlau, ynghyd â'r amrywiaeth eang o gymdeithasau drama, yn golygu ei bod hi'n hawdd paratoi ar gyfer unrhyw faes ymarfer drama a theatr. Mae'r elfennau academaidd ac ymarferol yn wych, ac yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar un neu'r llall, a/neu gael sylfaen yn y ddamcaniaeth er mwyn gwella ein gwaith archwilio ymarferol. Mae'r staff yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig bob amser, ac maen nhw wastad yn ein hannog ni i wneud mwy ac i archwilio ymhellach.

Jemma Rowlston

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|