MA

Creu Perfformiadau

Mae’r MA Creu Perfformiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i gynllunio i gefnogi eich datblygiad fel perfformiwr a meddyliwr creadigol. Mae'r cwrs yn cynnig dull ymholi a rhyngddisgyblaethol, sy'n eich galluogi i arbrofi gydag ystod o arferion perfformio gan gynnwys prosesau byw, safle-benodol, cyfryngol, senograffig a gwrthrychol.

Wedi'i lleoli rhwng mynyddoedd y Canolbarth a Bae Ceredigion, mae Aberystwyth yn cynnig amgylchedd naturiol a diwylliannol ysbrydoledig gyda digonedd o bosibiliadau ar gyfer ymchwil a chreu. Dyma un rheswm pam mae gan Aberystwyth enw da rhyngwladol ers tro byd am greu perfformiadau safle-benodol a chyfryngol.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn gofod stiwdio cyd-weithio pwrpasol sydd ar gael i chi ei ddefnyddio drwy gydol y cwrs i gynnig, profi a rhoi syniadau ar waith. Yma byddwch yn dychmygu, yn datblygu ac yn cynhyrchu tri gwaith creadigol gwreiddiol, yn datblygu eich gallu i fyfyrio a gwerthuso'n feirniadol, a dysgu sut i ymgysylltu â sefydliadau, cyllidwyr a'r cyhoedd. Penllanw’r cwrs yw prif brosiect ymarferol.

A chithau’n cael eich addysgu gan dîm o ymarferwyr ac academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol, byddwch yn datblygu eich portffolio a'ch proffil fel crëwr perfformiadau trwy arbrofi ymarferol parhaus a myfyrio beirniadol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience/professional practice.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Pam dewis Aberystwyth?

  • Stiwdio cyd-weithio pwrpasol sydd ar gael i chi ei ddefnyddio drwy gydol y cwrs.
  • Bydd gennych fynediad i dair stiwdio berfformio llawn offer, ein stiwdio senograffeg bwrpasol, a'n stiwdio recordio sain a'n cyfleusterau cynhyrchu.
  • Byddwch yn meithrin sgiliau arbenigol mewn ymchwil, creu ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
  • Wedi'i lleoli yn amgylchedd naturiol a diwylliannol ysbrydoledig.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai a dosbarthiadau meistr gydag artistiaid gwadd a'n rhaglen flynyddol o seminarau ymchwil adrannol.
  • Byddwch yn ymuno ag adran sydd ag enw da ers tro byd am arbrofi ym maes perfformio a senograffeg - ni oedd y cyntaf yn y DU i gynnig graddau israddedig mewn Astudiaethau Perfformiad a Senograffeg.
  • Mwynhewch ein partneriaeth agos â Chanolfan y Celfyddydau - un o leoliadau mwyaf adnabyddus Cymru, sy’n cyflwyno popeth o gyngherddau cerddoriaeth fyw, sioeau comedi, perfformiadau theatr a dawns i arddangosfeydd celf gweledol a dangosiadau ffilm. 
  • Bydd gennych fynediad i'r casgliadau a'r archifau godidog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dim ond pum munud ar droed o’r Brifysgol.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

Llawn-amser am flwyddyn, neu ran-amser am ddwy flynedd.

Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Amser cyswllt:

Tua 7 awr yr wythnos yn y semester cyntaf. Yn yr ail semester byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymarfer creadigol sy'n cynnwys 4 awr yr wythnos o oruchwyliaeth ochr yn ochr â gweithio'n annibynnol. Yn ychwanegol at hyn bydd 2 awr arall yr wythnos ar fodiwl arall. Yn ystod y trydydd semester byddwch yn pennu faint o amser y byddwch yn ei dreulio â’r sawl sy’n eich arolygu. 

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Creative Practice Project TPM1540 40
Engaging Publics TPM1820 20
Practice Research Project TPM0860 60
Space, Time, Material and Form TPM1020 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion wedi'u paratoi'n dda i weithio o fewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol a chysylltiedig. Maent wedi mynd ymlaen i weithio fel ymarferwyr llawrydd (cyfarwyddwyr a pherfformwyr), a chyda chwmnïau a sefydliadau gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru a Trafalgar Entertainment. Mae ein graddedigion hefyd yn meithrin sgiliau hanfodol i ymgymryd ag ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer ac astudiaethau academaidd pellach ar lefel PhD.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Yn y ddau semester cyntaf (Medi i Fai), byddwch yn astudio nifer o fodiwlau, sy’n dod i gyfanswm o 120 credyd. Bydd y rhain yn eich helpu i gyd-destunoli eich diddordeb personol mewn ymarfer creadigol uwch, ystyried a chyflawni strategaethau, methodolegau a thechnegau ar gyfer creu perfformiad cyfoes, datblygu eich sgiliau ymchwil, a rhoi dealltwriaeth i chi o arferion ymgysylltu â'r cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn, byddwn yn cynnig profiad dysgu cydweithredol i chi lle bydd eich arbenigeddau unigol yn cael eu datblygu, ond hefyd yn cael eu herio a'u hymestyn trwy weithio ochr yn ochr ag eraill mewn prosiectau ymchwil creadigol wedi'u hwyluso ac annibynnol. Yn y semester olaf (Mehefin i Fedi), byddwch yn ymgymryd â Phrosiect Ymchwil Ymarfer 60 credyd gyda pherfformiad cyhoeddus ym mis Medi.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Cyflwynir y rhan a addysgir o'r cwrs drwy seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol. Yn ystod y trydydd semester (Mehefin i Fedi) byddwch yn pennu faint o amser y byddwch yn ei dreulio â’r sawl sy’n eich arolygu. Yn ogystal ag amseroedd addysgu wedi'u trefnu, bydd gennych fynediad i ofod stiwdio cyd-weithio pwrpasol i ymgymryd ag astudiaeth annibynnol ac ymarfer creadigol.

Asesu

Mae’r asesiad ar ffurf cyflwyniad, digwyddiad perfformio mewn grŵp, prosiect perfformio unigol a gynhyrchir yn rhan o ŵyl fach a gyflawnir ar y cyd, portffolio beirniadol, gwerthusiad beirniadol, portffolio proffesiynol, cynnig prosiect a thraethawd ysgrifenedig. Yn y trydydd semester, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer. Gellir cyflwyno'r prosiect ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer naill ai fel un sydd wedi'i greu a'i ddatblygu'n unigol neu fel gwaith perfformio wedi'i greu a'i ddatblygu ar y cyd.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Fel artist sy’n gweithio yn y theatr, roeddwn yn nerfus ynghylch dychwelyd i astudio. A fyddwn i’n cofio sut i ysgrifennu traethawd? Sut y byddwn i'n ei gydbwyso â llwyth gwaith proffesiynol? A fyddai'n cael effaith ystyrlon? Doedd dim angen poeni. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio a'i chyflwyno'n feddylgar. O fewn yr ychydig seminarau cyntaf roeddwn yn dod ar draws syniadau a oedd yn newydd i mi, neu fynegiant mawr ei hangen o bethau roeddwn i wedi'u teimlo ond na allwn eu rhoi mewn geiriau. Gwnaeth i mi ailystyried fy mherthynas â'r theatr, gan ddarparu seibiant hanfodol o’r cylch di-ddiwedd o gynyrchiadau a dyfnhau fy nealltwriaeth a'm cariad at theatr Cymru a'i hymarferwyr. Rwy'n ystyried bod y broses wedi newid fy ymarfer yn sylfaenol, ac wedi ailgynnau fy nghred yn harddwch a rheidrwydd y theatr - rhywbeth a wnaed yn fregus o fod yn ‘y diwydiant’ am gyfnod hir. Jesse Briton – actor, awdur a chyfarwyddwr

|