MSc

Arloesi Bwyd-Amaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2026

Bydd y cwrs MSc Arloesedd Bwyd-Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o’r heriau y mae’r sector bwyd-amaeth yn eu hwynebu, ac mae wedi’i anelu at ymgynghorwyr amaethyddol ac amgylcheddol, milfeddygon, darlithwyr addysg bellach a staff gwerthu technegol. Os ydych yn gweithio, neu’n awyddus i weithio, yn un o'r meysydd hyn, yna’r cwrs dysgu o bell hwn, sy’n cynnwys gweithdai dewisol, yw’r cwrs delfrydol ar gyfer datblygu eich sgiliau ymgynghori, diweddaru eich gwybodaeth dechnegol ac ennill cymhwyster uwchraddedig wrth i chi weithio.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area or at least two years of relevant experience

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi’r sgiliau technegol a’r sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i sbarduno arloesedd ac arwain newid. Bydd y modiwlau dewisol yn eich galluogi i graffu'n fanylach ar agweddau penodol ar y gadwyn gyflenwi a/neu ehangu eich ystod o sgiliau cyfathrebu. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil a'u rhoi ar waith drwy gynnal prosiect ymchwil sy’n seiliedig ar waith. 

Mae'r cwrs unigryw hwn yn darparu amrywiaeth o ddewisiadau mewn sgiliau cyfathrebu, y gwyddorau, a byd busnes. Bydd y modiwlau dysgu o bell yn cael eu darparu gan ddwy adran academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef IBERS ac Ysgol Fusnes Aberystwyth. Bydd y sesiynau gweithdy ymarferol yn cael eu darparu gan Menter a Busnes, cwmni o Gymru sy'n arbenigo mewn cyfnewid gwybodaeth amaethyddol. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Gellir astudio’r modiwlau fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus neu o ran eich diddordeb eich hun, neu gellir eu cyfuno tuag at gymhwyster uwchraddedig. I gwblhau Tystysgrif Uwchraddedig rhan-amser ni allwch dreulio mwy na dwy flynedd. I gwblhau'r MSc llawn gallwch gymryd hyd at bum mlynedd. 

Derbynnir myfyrwyr ar y cwrs hwn dair gwaith y flwyddyn (mis Ionawr, mis Mai a mis Medi). Croesewir ceisiadau trwy gydol y flwyddyn. 

Ffioedd y Cwrs: 

Gweler y dudalen wybodaeth ynghylch ffioedd

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dissertation - Agrifood Innovation BDM9560 60
Research Methods BDM0120 20
Sustainable Supply Systems BDM1120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour Change BDM8820 20
Business Management for Rural Entrepreneurs BDM8320 20
Coaching and Mentoring for Leaders MMM5820 20
Facilitation for Organisation Leadership MMM5920 20
Genetics and Genomics in Agriculture BDM5820 20
Grassland Systems BDM5120 20
Horticultural Science BDM6920 20
Leading Change MMM5720 20
Livestock Health and Welfare BDM5920 20
Livestock Nutrition BDM0320 20
Livestock Production Science BDM5420 20
Newid Ymddygiad BBM8820 20
Nuffield Project Data Analysis and Presentation BDM3220 20
Nuffield Project Design BDM3120 20
Nuffield Scholarship Project Extended Report BDM3320 20
Plant Breeding BDM8420 20
Programming for Agritechnology - an Introduction BDM2420 20
Silage Science BDM5620 20
Soil Science BDM2320 20
Waste Resource Management BDM1220 20

Gyrfaoedd

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n dilyn y cwrs hwn eisoes yn gweithio yn y sector bwyd-amaeth ac yn ystyried bod y cwrs yn ffordd o ddiweddaru a gwella eu gwybodaeth dechnegol wrth hefyd wella eu sgiliau cyfathrebu a gweithio tuag at gymhwyster. Mae hefyd yn gam delfrydol i'r rhai sydd eisiau mynd ymlaen i weithio yn y sector hwn. 

Dysgu ac Addysgu

Sut byddaf i'n dysgu? 

Mae'r holl fodiwlau a ddarperir gan IBERS yn cael eu cynnal drwy gyfrwng dysgu o bell ar-lein. Mae pob modiwl ar-lein yn cynnwys darlithoedd wedi'u recordio gan academyddion ac arbenigwyr yn y diwydiant, yn ogystal â chyflwyniadau, podlediadau, projectau e-grŵp, darlleniadau dan arweiniad, gwerslyfrau rhyngweithiol a fforymau trafod, yn ogystal ag aseiniadau ac e-diwtorialau. Mae modiwlau Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cael eu cyflwyno drwy weithdai. Mae'r modiwlau a seilir ar weithdai yn cynnwys dau weithdy deuddydd ac un sesiwn derfynol undydd. 

Disgwylir i fyfyriwr uwchraddedig astudio am 200 awr wrth ddilyn modiwl 20 credyd. Dylech ddisgwyl treulio 2-3 awr yr wythnos yn fras ar ddarlithoedd, cyflwyniadau a phodlediadau ar-lein, a gweddill yr amser ar ddarllen ac aseiniadau. Po fwya'r amser a'r ymdrech y gallwch eu rhoi, mwyaf yn y byd y byddwch yn elwa o astudio'r modiwl, a bydd eich graddau yn debygol o fod yn well.  

Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Nid oes arholiadau yn rhan o’r rhaglen hon. Caiff y modiwlau a addysgir eu hasesu drwy waith cwrs (sef adroddiadau a thraethodau, ond hefyd adolygiadau o destunau perthnasol, astudiaethau achos, cynigion ymchwil a thasgau dadansoddi data), aseiniadau ar-lein, cyflwyniadau a fforymau trafod. Fel rheol mae'r modiwlau sy’n seiliedig ar weithdai yn cynnwys dylunio tasg ymarferol a’i rhoi ar waith yn rhan o'r asesiadau.

|