UCert

Gwyddor Anifeiliaid

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Ionawr 2025

Bydd y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu addysg ôl-raddedig o ansawdd uchel a arweinir gan ymchwil ym maes gwyddor anifeiliaid.

Byddwch yn astudio gwyddor anifeiliaid a sut y mae’n cael ei chymhwyso i feysydd maeth, bridio a rheoli anifeiliaid. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i sicrhau cydbwysedd priodol rhwng y gofynion cynhyrchu a gofynion lles drwy ddatblygu a gweithredu dulliau arloesol o reoli a lledaenu gwybodaeth a chyngor i ymarferwyr.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad BSc honours degree (2:2) in a related subject at undergraduate level OR 2 years relevant experience working in the sector

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi i chi brofiad o addysg ôl-raddedig o ansawdd uchel wedi’i seilio ar wybodaeth drylwyr ym meysydd maeth ceffylau/anifeiliaid, atgenhedlu ceffylau, ymddygiad ac anatomeg ceffylau, maeth a chynhyrchu da byw, yn ogystal â gwyddor glaswelltir. Dysgir y cwrs hwn gan wyddonwyr blaenllaw yn eu meysydd a byddwch yn dysgu am y datblygiadau gwyddonol diweddaraf yn y prif feysydd hyn o ymchwil i anifeiliaid a cheffylau. Mae’r lefel uwch o wybodaeth am y pwnc a’r cymhwyster ei hun wedi’u cydnabod yn eang gan broffesiynau gwyddor anifeiliaid a phroffesiynau cysylltiedig.

Mae'r rhaglen ar-lein ddysgu-o-bell hon wedi'i chynllunio i gyd-fynd yn gyfleus â'ch gofynion chi o ran eich gwaith a’ch bywyd. Mae wedi'i hanelu at weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes gwyddor anifeiliaid a hoffai ddiweddaru eu gwybodaeth ac ennill cymwysterau yn ogystal â graddedigion newydd, a graddedigion sy'n gobeithio symud i faes gwyddor anifeiliaid. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddilyn eich diddordebau eich hun ym maes gwyddor anifeiliaid, ar yr un pryd â meithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ar draws holl ystod y gwyddorau anifeiliaid.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

2 blynedd o ddysgu o bell

Dyddiad cychwyn:

Medi, Ionawr neu Mai

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Grassland Systems BDM5120 20
Livestock Nutrition BDM0320 20
Livestock Production Science BDM5420 20
Understanding Equine Action: from Anatomy to Behaviour BDM6620 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd ym meysydd ymchwil wyddonol, argraffu gwyddonol, gwaith labordy, maetheg anifeiliaid, lles anifeiliaid, dysgu, bridio anifeiliaid a gwerthiant technegol.

Dysgu ac Addysgu

Sut byddaf i'n dysgu?

Mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i fod mor hygyrch a hyblyg â phosib, yn enwedig i'r rhai sydd mewn gwaith llawn-amser neu sy'n byw y tu allan i Brydain. Os oes gennych gyswllt â'r rhyngrwyd gallwch astudio lle bynnag a phryd bynnag sy'n gyfleus i chi, sy’n golygu y gallwch ddiweddaru’ch gwybodaeth a datblygu’ch sgiliau beirniadol.

Derbynnir myfyrwyr dair gwaith y flwyddyn, sy’n golygu y cewch ddechrau yn Ionawr, Mai neu Fedi. Mae pob modiwl 14-wythnos yn cynnwys darlithoedd wedi'u recordio gan academyddion ac arbenigwyr yn y diwydiant (lle bo'n bosib), ynghyd â darlleniadau dan arweiniad, fforymau trafod ac aseiniadau ysgrifenedig.

Byddwch yn dewis tri modiwl 20-credyd o blith y chwech sydd ar gael, fel y gallwch ganolbwyntio ar y themâu sydd fwyaf perthnasol i chi.

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu?

Byddwch yn dewis detholiad o fodiwlau sy'n ymdrin â maeth ceffylau ac anifeiliaid, anatomeg ac ymddygiad ceffylau, gwyddor cynhyrchu da byw, ffisioleg atgenhedlu ceffylau a bridio, a gwyddor glaswelltir.

Sut y caf fy asesu?

Nid oes arholiadau yn y rhaglen hon. Asesir y modiwlau a ddysgir drwy waith cwrs (sef adroddiadau a thraethodau, ond hefyd adolygiadau o destunau perthnasol, astudiaethau achos, cynlluniau busnes a thasgau dadansoddi data), cyflwyniadau a seiadau trafod.

|