MA

Hanes Celf

Yma yn yr Ysgol Gelf, caiff celf ei chreu, ei thrafod, ei harddangos a'i phrofi. Nid yn unig y byddwch yn meithrin dealltwriaeth o hanes celf, ond byddwch yn astudio ochr yn ochr ag artistiaid sy'n ymarfer, curaduron a haneswyr cyhoeddedig. Fel myfyriwr Hanes Celf, bydd gennych fynediad hefyd at stiwdios, gweithdai print ac offer ffotograffiaeth a digidol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cynllun gradd Hanes Celf yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ac adeiladu gyrfa. I'r perwyl hwnnw, mae'n cyfuno ymchwil cymhwysol â hyfforddiant galwedigaethol. Bydd hefyd yn rhoi sgiliau ysgrifennu ac ymchwil hanfodol ichi, y byddwch yn cael eich cyflwyno iddynt fel rhan o'r modiwl craidd, Artworld.

Drwy astudio'n annibynnol neu yn rhan o dîm, cewch eich annog i ddatblygu meddwl beirniadol a rhyngddisgyblaethol, cyfathrebu eich syniadau mewn trafodaethau seminar a chyflwyniadau, ynghyd â rhannu eich ymchwil yn gyhoeddus.

Mae'r Ysgol Gelf yn un o ddwy ysgol yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael statws amgueddfa achrededig gan y llywodraeth. Mae ein casgliad adnabyddus o gelf gain a gwrthrychau diwylliant materol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymchwil gwreiddiol i'w drafod â thiwtor. Mae hyn nid yn unig yn eich galluogi i archwilio arteffactau'n agos atynt, astudio eu technegau a chanfod eu gorffennol, ond hefyd i gatalogio a churadu ein casgliadau o dan arweiniad ein gweithwyr amgueddfa proffesiynol.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Artworld: Contemporary Practice in Context (for Students of Art History) AHM0940 40
Dissertation AHM0460 60
Research Project AHM0260 60
Vocational Practice ARM0120 20

Gyrfaoedd

Mae astudio celf gain yn cynnig sawl llwybr ymarferol. Ynghyd â sefydlu eu hunain fel paentwyr, darlunwyr, ffotograffwyr, gwneuthurwyr print, dylunwyr a haneswyr celf proffesiynol, mae ein myfyrwyr yn dilyn gyrfaoedd ym maes addysg, cyhoeddi a hysbysebu, ac ym maes curadu, cadwraeth a gweinyddu celf. Ymhlith eu cyflogwyr mae Cyngor y Celfyddydau, Academi Frenhinol y Celfyddydau, Tate, Amgueddfa Fictoria ac Albert, Amgueddfa Ashmolean, a'r Ymddiriedolaeth Casgliadau Brenhinol. Mae ein graddedigion hefyd yn cofrestru ar raddau ymchwil (PhD) ym Mhrifysgol Aberystwyth neu'r tu hwnt.

Dysgu ac Addysgu

|