Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs Q596-
Cymhwyster
MA
-
Hyd y cwrs
1 flwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Mae’r cynllun hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu gyrfa ym maes cyfieithu proffesiynol.
Trwy nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, arweinir a dysgir y cynllun uwchraddedig cenedlaethol hwn, yn bennaf, gan Brifysgol Aberystwyth. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys elfen gydweithredol, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n darparu ac yn dysgu’r modiwlau cyfieithu ar y pryd ac isdeitlo opsiynol.
Fe'ch cyflwynir i bob agwedd ar gyfieithu ac mae’r meysydd astudio’n cynnwys cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol ac arbenigol; technoleg cyfieithu; cyfieithu creadigol rhyngwladol.
Cyflwynir y modiwlau gan arbenigwyr yn y maes, a cheir cyfle i gael profiad gwaith. Dyma gyfle hefyd felly i weithio ochr yn ochr â chyfieithwyr proffesiynol yn y sector cyfieithu yng Nghymru. Byddwch yn cael cyfle i astudio damcaniaethau a thechnegau cyfieithu, technoleg ac adnoddau cyfieithu, yn ogystal â swyddogaeth y cyfieithydd yn y gweithle. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfieithu o'r radd uchaf, a rhoddir pwyslais cryf ar sesiynau ymarferol, ac ar weithdai.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Prosiect Estynedig | CYM5960 | 60 |
Cyfarpar Cyfieithu | CYM5210 | 10 |
Cyfieithu ar Waith | CYM5520 | 20 |
Datblygu Sgiliau Cyfieithu | CYM5110 | 10 |
Portffolio Cyfieithu 1 (Cyffredinol) | CYM5310 | 10 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol | CYM5820 | 20 |
Cyfieithu ar y Pryd : Arfer ac Ymarfer | CYM6420 | 20 |
Dulliau Darllen | MOR0510 | 10 |
Hanfodion Isdeitlo | CYM6310 | 10 |
Meistroli Mynegiant yn y Gweithle Proffesiynol | CYM5720 | 20 |
Prosiect Arbenigol | CYM5620 | 20 |
Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol | MOR0120 | 20 |
Uwch Sgilau Golygu | CYM6210 | 10 |
Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd | CYM6110 | 10 |
Portffolio Cyfieithu 2 (Arbenigol) | CYM5410 | 10 |
Gyrfaoedd
Tystiolaeth Myfyrwyr
|