MA

Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2023

Cwrs unigryw ac arloesol sydd yn eich paratoi’n drwyadl ar gyfer gyrfa yn y byd cyfieithu.

  • Ceir sawl llwybr posib ar lefel uwchraddedig, sef Tystysgrif, Diploma, MA neu un modiwl ar y tro.
  • Cynigir profiad amhrisiadwy yn y gweithle wrth efelychu amodau gwaith go iawn y cyfieithydd proffesiynol.
  • Darperir gweithdai ymarferol gan arbenigwyr cyfieithu.
  • Ceir cyfle i brofi pob agwedd ar gyfieithu, megis cyfieithu ysgrifenedig, cyfieithu ar y pryd ac isdeitlo.
  • Darperir hyfforddiant golygu ac ôl-olygu.
  • Ceir cyfle i arbenigo, ee ym maes cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol, cyfieithu llenyddol neu gyfieithu ar y pryd.

Trwy nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, arweinir a dysgir y cynllun uwchraddedig cenedlaethol hwn, yn bennaf, gan Brifysgol Aberystwyth. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys elfen gydweithredol, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n darparu ac yn dysgu’r modiwlau cyfieithu ar y pryd ac isdeitlo opsiynol.

Mae’r cynllun hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu gyrfa ym maes cyfieithu proffesiynol. Mae’n gynllun hyblyg iawn a gallwch ddewis un o dri llwybr: Tystysgrif (60 credyd), Diploma (120 credyd) neu MA (180 credyd).

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor (Anrhydedd) 2:1 neu gyfatebol. Caiff unigolion heb radd eu hystyried fesul un ar sail profiad perthnasol.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae’r cynllun yn cyfuno modiwlau arbenigol gyda chyfleoedd yn y gweithle ochr yn ochr â chyfieithwyr proffesiynol yn y sector cyfieithu. Byddwch yn cael cyfle i astudio damcaniaethau a thechnegau cyfieithu, technoleg ac adnoddau cyfieithu, yn ogystal â swyddogaeth y cyfieithydd yn y gweithle. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfieithu o'r radd uchaf, a rhoddir pwyslais cryf ar sesiynau ymarferol, ac ar weithdai.

Fe'ch cyflwynir i bob agwedd ar gyfieithu ac mae’r meysydd astudio’n cynnwys cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol ac arbenigol; technoleg cyfieithu; cyfieithu creadigol rhyngwladol; yn ogystal â chyfieithu ar y pryd, a ddarperir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cewch hefyd ddewis cwblhau prosiect ymchwil.

Modiwlau Dechrau Medi - 2023

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Estynedig CYM5960 60
Cyfarpar Cyfieithu CYM5210 10
Cyfieithu ar Waith CYM5520 20
Datblygu Sgiliau Cyfieithu CYM5110 10
Portffolio Cyfieithu 1 (Cyffredinol) CYM5310 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd CYM6110 10
Portffolio Cyfieithu 2 (Arbenigol) CYM5410 10
Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol CYM5820 20
Cyfieithu ar y Pryd : Arfer ac Ymarfer CYM6420 20
Dulliau Darllen MOR0510 10
Hanfodion Isdeitlo CYM6310 10
Meistroli Mynegiant yn y Gweithle Proffesiynol CYM5720 20
Prosiect Arbenigol CYM5620 20
Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol MOR0120 20
Uwch Sgilau Golygu CYM6210 10

Gyrfaoedd

Bydd yr MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol yn rhoi cyfle ichi ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer datblygu gyrfa lwyddiannus ym maes cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd. Fel arbenigwyr iaith, bydd y cymhwyster hwn yn rhoi sylfaen gadarn iawn ichi fedru ymuno’n hyderus â’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru, gan eich cynorthwyo i ymwneud yn llawn â’r agweddau ehangach hynny ar gyfieithu hefyd, megis isdeitlo.

Byddwch yn ymgeisydd cryf hefyd ar gyfer unrhyw swydd sy’n gofyn am sgiliau golygu a phrawfddarllen, ac o ganlyniad i’ch sgiliau iaith cadarn, byddwch yn gaffaeliad mawr i’r gweithlu dwyieithog yng Nghymru.

Tystiolaeth Myfyrwyr

"Y peth gorau am y cwrs yw fy mod yn gallu dysgu sgiliau a chrefft cyfieithu drwy wneud tasgau a osodir i ni, a chael cyfle i fynd ar brofiad gwiath estynedig. Mae elfen o draethodau, wrth gwrs, ond drwy gyfieithu'n gyson dwi'n teimlo mod i'n cael cyfle i ddysgu a gwella bob wythnos. 

Mae'r cwrs wedi rhoi cyfle i mi ailhyfforddi a newid gyrfa ar ôl gweithio am ugain mlynedd mewn un maes, ac ennill cymhwyster fydd o fantais wrth i mi chwilio am waith." Nia Jones, Myfyrwraig

|