MSc

Rheoli Bioamrywiaeth a Chadwraeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r MSc mewn Rheoli Bioamrywiaeth a Chadwraeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn diwallu anghenion y rhai sydd am fod yn weithwyr proffesiynol amgylcheddol yn y dyfodol ac yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Arweinir y cwrs gan ymchwil ac ymarfer, ac mae'n darparu dealltwriaeth gadarn am gefndir damcaniaethol bioamrywiaeth a gwyddor cadwraeth. Mae'r radd Meistr hon yn ddelfrydol i’r rhai sydd am ddilyn astudiaethau uwchraddedig ym meysydd bioamrywiaeth, gwyddoniaeth amgylcheddol a chadwraeth. Mae hefyd yn addas i'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sectorau hyn ac sy’n awyddus i gael cymwysterau perthnasol pellach neu i'r rhai sy'n gweithio mewn meysydd eraill ac sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y maes hwn.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2(ii) Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae MSc Rheoli Bioamrywiaeth a Chadwraeth wedi'i chynllunio i sicrhau y bydd gan ein graddedigion y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau parhaus ym meysydd cadwraeth a rheoli bioamrywiaeth y byd.

Bydd y cwrs hwn yn sicrhau bod gennych:

  • y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i allu pwyso a mesur yn feirniadol yr atebion a'r polisïau sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth ac sy’n cael eu cynnig ar gyfer rheoli cadwraethol llwyddiannus ar lefelau cynefinoedd a rhywogaethau ar draws ystod o ecosystemau morol a daearol
  • cyfleoedd i feithrin cyswllt â rhanddeiliaid ac ymarferwyr cadwraeth mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn ac i weithio ochr yn ochr â hwy
  • profiad o sgiliau y mae galw mawr amdanynt, megis synhwyro o bell, GIS, taconomeg, rheoli cynefinoedd a chadwraeth, asesu effaith amgylcheddol, yn ogystal â'r technegau moleciwlaidd diweddaraf.

Byddwch yn gweithio yn Aberystwyth a'r cyffiniau, rhwng bryniau’r Canolbarth a mynyddoedd Eryri, sy'n cynnig amrywiaeth gwych o gynefinoedd, o'r arfordir i'r ucheldir, ac yn darparu'r amgylchedd delfrydol i astudio bioamrywiaeth a rheoli cadwraeth. Byddwch hefyd yn cael eich dysgu gan ymchwilwyr, ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn gweithredu ar draws ystod eang o bynciau amgylcheddol.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Math o radd: MSc

Cod y cwrs: J790

Cyfnod: Un flwyddyn amser-llawn neu dau flynedd rhan-amser

Amser cyswllt: Hyd at 10 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf, ac wedyn bydd yr amser cyswllt yn unol â’r hyn y cytunwyd arno â’r arolygydd penodedig. Bydd Ymweliadau Maes ychwanegol yn ystod y ddau semester cyntaf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ecological Management and Conservation Biology BRM7720 20
Ecological Monitoring BRM0120 20
Fundamentals of Biodiversity BRM0020 20
Introduction to Environmental Law and Environmental Impact Assessment BRM6520 20
Research Methods in the Biosciences BRM6420 20
M.Sc. Dissertation BRM3560 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Frontiers in the Biosciences BRM4920 20
Fundamentals of Remote Sensing and GIS EAM4020 20

Gyrfaoedd

Yn ogystal â datblygu llawer o’r sgiliau pwnc-benodol hanfodol, byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau cyfathrebu gwyddonol, gwaith tîm, datrys problemau, trin data, astudio ac ymchwil. Byddwch yn datblygu eich proffesiynoldeb a’i arddel mewn ffordd a fydd yn eich galluogi i ragori mewn unrhyw weithle yn y dyfodol.

Mae cyfleoedd gyrfaol ar gael mewn sefydliadau sy'n ymwneud â chadwraeth neu reoli amgylcheddol yn gyffredinol, megis:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt
  • Y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg
  • RSPB
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Adrannau awdurdodau lleol
  • Cyrff anllywodraethol.

Mae llawer o fyfyrwyr hefyd wedi symud ymlaen i wneud Doethuriaeth.

Dysgu ac Addysgu

Sut byddaf i'n dysgu?

Gellir astudio'r cwrs hwn am un flwyddyn yn llawn-amser neu am ddwy flynedd yn rhan-amser. Os astudir y cwrs yn astudio'n llawn-amser, mae’n cael ei rannu’n dri semester. Yn ystod y ddau semester cyntaf, mae myfyrwyr yn astudio 120 credyd drwy gyrsiau a ddysgir (sef chwe modiwl 20-credyd fel arfer), sy'n cael eu darparu'n bennaf drwy ddarlithoedd, sesiynau ymarferol, gweithdai, gwaith maes, ymweliadau maes a seminarau.

Yn ystod y semester olaf (Mehefin i Fedi), byddwch yn gorffen eich traethawd hir, gan gytuno ar y lefel o gyswllt â'r arolygydd a drefnir ar gyfer eich traethawd hir.

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu?

Yn y ddau semester cyntaf, byddwch yn astudio nifer o fodiwlau craidd, gan ymdrin â phynciau fel hanfodion bioamrywiaeth, rheoli amgylcheddol a bioleg cadwraeth, dulliau ymchwil yn y biowyddorau, monitro ecolegol, a cael cyflwyniad i’r gyfraith ar yr amgylchedd a’r EIA. Yn semester un, gallwch ddewis naill ai modiwl ar hanfodion synhwyro o Bell a GIS, neu fodiwl ar ddatblygiadau diweddar yn y biowyddorau.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwl hyfforddiant ymchwil a fydd yn rhoi sylfaen gref i chi mewn technegau ystadegol a dulliau dadansoddol o gynnal archwiliadau biolegol. Bydd hyn yn gwella eich sgiliau a'ch technegau ymchwil i’ch paratoi ar gyfer eich traethawd hir yn Semester 3 (Mehefin i Fedi).

Drwy gydol y cwrs, rhoddir pwyslais cryf ar astudio sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae hyn yn arwain at y traethawd hir Meistr, rhan allweddol o'r cwrs sy'n eich galluogi i ddilyn meysydd sydd o ddiddordeb penodol.

Sut y caf fy asesu?

Asesir drwy gymysgedd o aseiniadau ysgrifenedig: astudiaethau achos, traethodau, prosiectau ymchwil, cyflwyniadau seminar ac aseiniadau ar-lein. Os cyflwynir traethawd hir llwyddiannus yn y semester olaf, dyfernir gradd MSc.

|