MRes

Gwyddorau Biolegol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae gradd MRes yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gam delfrydol i'r rhai sy'n ystyried PhD neu ymchwil yn seiliedig ar gwmni ac yn rhoi cyfle i chi edrych yn fwy manwl ar eich diddordeb yn y biowyddorau gan ddangos ymrwymiad i yrfa sy'n canolbwyntio ar ymchwil. Mae ein cwrs yn hyblyg ac yn rhoi cyfle i chi ymdrin â maes bioleg sy'n eich diddori gan arbenigo ynddo a chael cefnogaeth bersonol gan arolygydd. Mae ehangder yr ymchwil a'r arbenigedd yn y gwyddorau bywyd a geir yn Aberystwyth yn golygu y gallwch wneud ymchwil mewn unrhyw un o feysydd arbenigol niferus gan gynnwys, sŵoleg, bridio planhigion, microbioleg, biowybodeg, gwyddor anifeiliaid neu geffylau, bioleg forol ac ecoleg. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area or equivalent. Subject to agreement with project supervisor. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Trosolwg o'r Cwrs

  • You can conduct your research project in either the Department of Life Sciences or the Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences, both of which have been judged world leading in areas such as zoology, grassland science, biochemistry, animal science, marine biology, microbiology, plant biology and ecology.
  • We have excellent research facilities including aquariums (marine, freshwater, tropical), a bioinformatics hub, ion-torrent sequencers, and extensive glass house facilities. 
  • We operate several farms and own significant tracts of natural woodland, while our coastal location close to several nature reserves and national parks offers unique opportunities for a broad range of bioscience research. 
  • You'll have the opportunity to work within research teams with your supervisor, research staff and other postgraduate students. 
  • This course is suitable for students who are not yet ready or do not wish to begin a PhD, but who would like to develop their research skills. It is also suitable for students who would like to combine research with taught elements of a postgraduate course. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

12 mis yn llawn amser neu 24 mis yn rhan-amser. Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Amser cyswllt:

Yn dibynnu ar y dewis o fodiwlau, fel arfer caiff hyd at 10 awr yr wythnos eu treulio mewn modiwlau a addysgir yn semester 1 a 2. Mae gweddill yr amser yn semester 1 a 2 a semester 3 yn gyfan yn cael eu treulio yn gweithio ar eich prosiect ymchwil. Yn dibynnu ar eich pwnc, gall hyn gynnwys ymchwil mewn labordy, yn y maes neu ar gyfrifiadur, gyda chymorth cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch arolygydd.

Strwythur:

Mae'r rhaglen yn cynnwys 180 o gredydau. Mae 60 credyd o fodiwlau a addysgir i’w cwblhau yn ystod Semester 1 a Semester 2. Cynhelir y traethawd hir (120 credyd) trwy gydol y flwyddyn.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
MRes Dissertation (A) BRM6060 60
MRes Dissertation (B) BRM6160 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ecological Monitoring BRM0120 20
Field and Laboratory Techniques BRM4820 20
Frontiers in the Biosciences BRM0220 20
Fundamentals of Biodiversity BRM0020 20
Hot Topics in Parasite Control BRM0920 20
Infection and Immunity BRM1620 20
Introduction to Environmental Law and Environmental Impact Assessment BRM6520 20
Statistical Concepts, Methods and Tools MAM5120 20

Gyrfaoedd

Mae'r cwrs hwn yn gam delfrydol i'r rhai sy'n ystyried PhD neu ymchwil yn seiliedig ar gwmni. Mae graddedigion y cwrs hwn wedi mynd yn eu blaenau i weithio fel cynorthwywyr ymchwil neu wedi symud ymlaen i astudiaethau doethurol/PhD.

Sgiliau

Trwy gydol y cwrs hwn byddwch yn:

  • Datblygu sgiliau cadarn ar gyfer casglu/dehongli data, gwaith maes a gwaith labordy.
  • Gwella eich sgiliau cyfathrebu gwyddonol a’ch sgiliau wrth weithio mewn tîm.
  • Ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys academyddion a'r cyhoedd yn ehangach.
  • Gwella eich gallu i ddadansoddi, a’ch sgiliau datrys problemau.
  • Datblygu sgiliau astudio ac ymchwil.
  • Cyfarwyddo a chynnal rhaglen astudio y byddwch yn ei sefydlu eich hun wedi'i seilio ar sgiliau rheoli amser da. 
  • Gallu gweithio'n effeithiol ac yn annibynnol.
  • Gwella eich sgiliau o reoli prosiect er mwyn cyflawni cyfuniad heriol o ymchwil, dadansoddi, cyfathrebu a chyflwyno. 

Dysgu ac Addysgu

Sut byddaf i'n dysgu?

Gellir astudio'r cwrs hwn am un flwyddyn yn llawn-amser neu yn rhan amser am 24 mis. 

Elfen graidd y cwrs MRes hwn yw’r Traethawd Hir, a bydd myfyrwyr yn cael arweiniad ar ei gyfer mewn cyfarfodydd arolygu cyn iddynt fynd ati, dros gyfnod hir, i wneud gwaith arbrofol/casglu data, gwaith ymchwil ac ysgrifennu’r traethawd hir a hynny o dan oruchwyliaeth eu harolygydd traethawd hir. 

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae'r modiwlau a gynhwysir yn y rhaglen hon wedi'u cynllunio i ddarparu sylfaen i ddeall a chyfrannu'n ystyrlon at ymchwil yn y gwyddorau biolegol. Mae’r cymhwyster hwn yn cyfuno elfennau a ddysgir sy’n canolbwyntio yn bennaf ar sut i ymgymryd ag ymchwil rhagorol a sut y gall ymchwil fynd i’r afael â heriau mawr ym maes bioleg y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu.

Mae'r hyfforddiant ymchwil rhyngddisgyblaethol hwn yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich traethawd ymchwil unigol.  Nodwedd allweddol y cwrs yw eich bod yn gallu craffu ar faes o fewn bioleg sy'n eich diddori ac ymgymryd â darn estynedig o ymchwil ar lefel uwch gyda chefnogaeth arolygydd.

Gan ddibynnu ar y dewis o fodiwlau, bydd y modiwlau a ddysgir yn cael eu hasesu trwy aseiniadau ysgrifenedig gwyddonol (megis adroddiadau, adolygiadau beirniadol, traethodau ac erthyglau newyddiadurol), cyflwyniadau, cyfraniadau i drafodaethau grŵp mewn seminarau ac arholiadau. 

Dyfernir gradd MRes wedi i chi gyflwyno eich traethawd hir yn llwyddiannus. 

|