Strwythur y rhaglen MBA
Rhan Un (Medi 2018 - Mehefin 2019)
Semester Un
People and Organizations
Managing Marketing
Business Economics
Semester Dau
Corporate Governance and Sustainability
Financial Analysis and Decision Making
+ un ai
International Strategy and Operations
neu
Global Marketing
Rhan Dau (Mehefin 2019 - Medi 2019)
Strategic Report
Management Research Project
Modiwlau Rhan Un
People and Organisations
Mae'r modiwl hwn yn ymchwilio i'r ffyrdd y mae datblygiad sefydliad yn cael ei yrru gan ei bobl. Ystyrir egwyddorion damcaniaethol perthnasol a modelau rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol ac arweinyddiaeth. Mae pynciau penodol yn cynnwys denu a dethol staff, cymhelliant a thâl gweithwyr, diwylliant sefydliadol a rheoli newid, ac amrywioldeb mewn cyflogaeth. Mae pwyslais ar gymhwyso trwy ddefnyddio enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos.
Managing Marketing
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin ag adnabod marchnadoedd, cychwyn mewn marchnadoedd a'u datblygu. Mae'n rhoi sylfaen trylwyr yn y damcaniaethau, cysyniadau a thechnegau marchnata, trwy archwilio cysyniadau a modelau marchnata strategol. Mae'r modiwl yn cloriannu rhan marchnata mewn amgylcheddau sefydliadol cyfoes. Defnyddir dull rheoli cyffredinol gan gydnabod bod cycsylltiadau a chyfeiriadedd y farchnad yn gynseiliau allweddol ar gyfer rheoli busnes a marchnata.
Business Economics
Mae'r modiwl hwn yn ymwneud ag egwyddorion, cysyniadau a dulliau dadansoddi micro economeg a macro economeg, ac yn dadansoddi ymddygiad micro economaidd unigolion, aelwydydd, cwmnïau, a'u hymwneud a'i gilydd. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin ag ymddygiad macro economaidd agregau economaidd, gan gynnwys cynnyrch domestig gros, treuliant, buddsoddiad, chwyddiant, diweithdra a chydbwysedd taliadau. Mae pwyslais ar y rhan sydd i bolisi'r llywodraeth a rheoleiddio o safbwynt micro economaidd a macro economaidd.
Corporate Governance and Sustainability
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, ymchwil ac arferion allweddol llywodraethu corfforaethol mewn cyd-destun sy'n dod mwyfwy yn un byd-eang. Archwilir codau llywodraethu corfforaethol cyfoes, gofynion datgelu gwybodaeth, rheoli risg a systemau moesegol, gyda phwyslais ar natur gyfannol systemau a phrosesau o'r fath. Edrychir ar faterion polisi archwilio a chyfrifeg, gan gyfeirio at gydgyfeiriant rhyngwladol y safonau proffesiynol a'r ymatebion rheoleiddiol i faterion cyfredol. Rhoddir sylw arbennig i gynaliadwyedd a moeseg busnes.
Financial Analysis and Decision Making
Mae'r modiwl hwn yn datblygu gafael ymarferol ar gyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaethol, dadansoddi ariannol a’r broses o wneud penderfyniadau ariannol, sy'n berthnasol i'r darpar reolwr cyffredinol. Mae'r pynciau'n cynnwys paratoi a dehongli'r prif ddatganiadau ariannol; gofynion ac arferion cyfrifyddu ar gyfer y gwaith o gynllunio, monitro, rheoli a rheoleiddio busnes yn fewnol; a chyllid busnes, gan gynnwys ffynonellau cyllid, rheolaeth ariannol, a dadansoddiad y farchnad stoc o berfformiad.
International Strategy and Operations (opsiwn)
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar strategaeth ryngwladol a rheoli gweithrediadau, gan gynnwys y gadwyn gyflenwi ryngwladol, agwedd ar gyfleoedd busnes sy'n dod yn fwyfwy pwysig ledled y byd. Mae'r modiwl yn archwilio'r technegau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio, gweithredu a rheoli prosesau busnes ac ymgynghori, gan gynnwys dulliau o leihau risg y gadwyn gyflenwi. Pwysleisia'r modiwl bwysigrwydd y berthynas rhwng cwsmeriaid a chyflenwyr, yn ogystal â'r risgiau sy'n gysylltiedig â rheoli'r gadwyn gyflenwi.
Global Marketing (opsiwn)
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin ag adnabod marchnadoedd rhyngwladol/byd-eang, mentro i mewn iddynt a’u datblygu. Rhoddir dealltwriaeth drylwyr o ddamcaniaethau, cysyniadau a thechnegau marchnata byd-eang a rhyngwladol, gan gynnwys cymhellion ar gyfer ehangu rhyngwladol, dewis marchnad a chychwyn ynddi, rheoli cyfathrebu a chysylltiadau â chwsmeriaid mewn marchnadoedd rhyngwladol, a brandio rhyngwladol.