PhD

Cyfrifiadureg

Mae'r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn adran gyfrifiadurol flaenllaw yng Nghymru ac yn un o’r prif adrannau ymchwil ac addysgu yn y DU.

Rydym yn adran gyfrifiadureg sy'n cael ei gyrru gan ymchwil, gyda grwpiau ymchwil ym meysydd Roboteg Ddeallusol; Gweld, Graffeg a Delweddu; Ymresymu Datblygedig; a Biowybodeg a Gwybodeg Iechyd. Mae’r holl grwpiau yn ymchwilio ac yn datblygu technegau a ffyrdd o gymhwyso systemau deallus lle’r ydym yn mynd ati i annog cydweithio’n agos rhwng grwpiau, fel bod ymchwil yr Adran yn cael ei gydlynu’n agos iawn. 

Mae gradd PhD mewn Cyfrifiadureg yn gyfle i ymdrin â maes ymchwil yn fanwl, gyda chefnogaeth goruchwylwyr o'n grwpiau ymchwil arbenigol. Mae tua 20 o fyfyrwyr yn dilyn rhaglenni ymchwil uwchraddedig yn yr Adran ar hyn o bryd, yn gweithio ochr yn ochr â darlithwyr a chymdeithion ymchwil mewn cymuned ymchwil fywiog ac integredig.

Gall grantiau gan Gynghorau Ymchwil a ffynonellau eraill fod ar gael drwy'r Adran.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants should submit a full research proposal at the point of application

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunities may be available; please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae aelodau o staff bob amser yn hapus i drafod rhaglenni ymchwil PhD posibl gyda graddedigion cymwys.

Fel arfer cynigir goruchwyliaeth PhD mewn meysydd sy'n cyd-fynd â'n grwpiau ymchwil:

Mae gennym hefyd arbenigedd sylweddol a gydnabyddir yn eang mewn Peirianneg Meddalwedd a Thechnoleg Rhwydweithiau. Mae ein cydweithredwyr diwydiannol yn cynnwys Ford, Jaguar Cars, Unilever, Daimler Benz, Integral Solutions Ltd., Costain a Glaxo.

Mae gennym lyfrgell Gwyddorau Ffisegol pwrpasol ar y campws sy'n gartref i ddeunydd ymchwil rhagorol ar gyfer astudio mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg.

Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr

Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu lefel addas o hyfforddiant i'w holl fyfyrwyr uwchraddedig. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn mae’r Brifysgol wedi sefydlu rhaglen gyda’r nod o helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gwblhau eu graddau ymchwil yn llwyddiannus yn ogystal â gwella eu cyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol. O'r herwydd, bydd yr holl fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig yn ymgymryd â rhai modiwlau hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Anogir y rhai sydd â diddordeb mewn astudio PhD i gysylltu â'r adran fel y gellir datblygu pwnc ymchwil hyfyw trwy drafod gydag aelodau staff sydd â diddordebau ymchwil perthnasol. Mae aelodau'r adran bob amser yn hapus i ystyried cynigion ymchwil sy'n ymwneud â'u diddordebau ymchwil. 

I wneud cais am le ar y rhaglen PhD, bydd angen i chi baratoi cynnig ymchwil, datganiad personol, llenwi ffurflen gais a darparu dau eirda. Gweler y tudalennau Gwneud Cais am ragor o fanylion.

Cyswllt:

I drafod prosiectau ymchwil posibl, cysylltwch â'r Adran ar cs-office@aber.ac.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Graddedigion ar derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk neu +44 (0) 1970 622270.

|