Cyfrifiadureg
Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024
Mae'r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn adran gyfrifiadurol flaenllaw yng Nghymru ac yn un o’r prif adrannau ymchwil ac addysgu yn y DU.
Rydym yn adran gyfrifiadureg sy'n cael ei gyrru gan ymchwil, gyda grwpiau ymchwil ym meysydd Roboteg Ddeallusol; Gweld, Graffeg a Delweddu; Ymresymu Datblygedig; a Biowybodeg a Gwybodeg Iechyd. Mae’r holl grwpiau yn ymchwilio ac yn datblygu technegau a ffyrdd o gymhwyso systemau deallus lle’r ydym yn mynd ati i annog cydweithio’n agos rhwng grwpiau, fel bod ymchwil yr Adran yn cael ei gydlynu’n agos iawn.
Mae gradd PhD mewn Cyfrifiadureg yn gyfle i ymdrin â maes ymchwil yn fanwl, gyda chefnogaeth goruchwylwyr o'n grwpiau ymchwil arbenigol. Mae tua 20 o fyfyrwyr yn dilyn rhaglenni ymchwil uwchraddedig yn yr Adran ar hyn o bryd, yn gweithio ochr yn ochr â darlithwyr a chymdeithion ymchwil mewn cymuned ymchwil fywiog ac integredig.
Gall grantiau gan Gynghorau Ymchwil a ffynonellau eraill fod ar gael drwy'r Adran.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Ffioedd a Chyllid
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
|