Cymraeg
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs 3DHH-
Cymhwyster
PGCE
-
Hyd y cwrs
1 flwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Mae cwrs y Gymraeg yn anelu at alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ymarferwyr egnïol, creadigol, a brwdfrydig er mwyn cymell dysgwyr i ymateb yn feirniadol ac yn greadigol i iaith a llenyddiaeth. Anelir at feithrin disgyblion i ddod yn siaradwyr hyderus mewn amrywiol gyweiriau, yn ddarllenwyr brwd ac yn ysgrifennwyr hyderus fydd yn mynegi eu hunain yn glir a chroyw. Trwy weithio ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, byddwch yn hyfforddi i addysgu pobl ifanc i ddod yn bobl greadigol, uchelgeisiol, egwyddorol a hyderus wrth ddarganfod mwy am y gymdeithas a’r byd.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Ffioedd a Chyllid
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2023
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Addysgeg Effeithiol | AD31630 | 30 |
Astudiaethau Proffesiynol | ADM1330 | 30 |
Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm | AD31530 | 30 |
Sgiliau Gwerthuso a Dysgu | ADM1430 | 30 |
Dysgu ac Addysgu
|