PGCE

Daearyddiaeth

Mae’r cwrs Daearyddiaeth yn anelu at alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ymarferwyr egnïol, creadigol, a brwdfrydig er mwyn cymell dysgwyr i ddarganfod mwy am y gymdeithas a’r byd. Trwy ddatblygu dealltwriaeth o’r Dyniaethau, bydd gennych y sgiliau i greu amgylchedd dysgu ysgogol a fydd yn galluogi pobl ifanc i ddod yn bobl greadigol, uchelgeisiol, egwyddorol a hyderus.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor y DU (Anrhydedd), neu gyfwerth rhyngwladol, mewn maes pwnc perthnasol. Dylai lleiafswm o 50% o gynnwys y radd Baglor hon fod yn berthnasol i'r pwnc rydych chi am ei ddysgu (hy Daearyddiaeth).

English Language Requirements IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Arall TGAU Gradd B naill ai am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Gymraeg Llenyddiaeth, Saesneg Iaith neu Saesneg Llenyddiaeth. Os enillir gradd B am Gymraeg Llenyddiaeth neu Saesneg Llenyddiaeth rhaid cael o leiaf gradd C am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith. Mae hefyd angen Gradd B am TGAU Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd. Gall y Brifysgol gynnig Profion Cyfwerthedd TGAU yn y pynciau hyn i ymgeiswyr sydd heb y cymwysterau/graddau. Mae profiad neu gyfnod arsylwi mewn ysgol yn fantais. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad yn rhan o’r drefn o ddethol.

Yn ôl i'r brig

Prif Ffeithiau

Anghenion mynediad

Gradd sydd o leiaf 50% yn berthnasol i Ddaearyddiaeth. Rydym yn ystyried graddau mewn pynciau perthynol, er enghraifft, astudiaethau y Ddaear, Daeareg, Gwyddoniaeth Amgylcheddol. Ni fydd gwybodaeth unrhyw fyfyriwr yn gyflawn, a chadwyd hyn mewn cof wrth gynllunio’r cwrs.

Er mwyn cefnogi fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llywodraeth Cymru mae’n rhaid bod myfyrwyr wedi cyrraedd safon sy’n gyfatebol i Radd B yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol:

  • Saesneg Iaith
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Cymraeg (Iaith gyntaf)
  • Llenyddiaeth Gymraeg

Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).

Rhaid cael hefyd radd B yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg- Rhifedd.

Mae’r Brifysgol yn cynnig profion yn y pynciau yma os and oes gennych y cymwysterau angenrheidiol.

  • Mae cael profiad o arsylwi mewn ysgol yn fanteisiol.
  • Bydd profion llythrennedd a rhifedd yn rhan o’r broses dewis a dethol ar ddiwrnod y cyfweliad.

Llety 

Mae’r brifysgol yn cynnig llety am ddim i ymgeiswyr sydd wedi derbyn lle i astudio ar gwrs TAR cychwyn mis Medi 2019 (yn dderbyniol ar lwyddo'r gofynion mynediad) yn dilyn y proses dewis AGA. Mae’r cynnig am lety am ddim ar gael i fyfyrwyr y cwrs am yr 8 wythnos yn Aberystwyth, pryd bydd myfyrwyr ar gampws ar gyfer y cwrs.

Manylion Cwrs

Cynnwys y cwrs 

Ar y cyd â’ch cyd-fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs cynradd a chyrsiau uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion addysgeg effeithiol, asesu, cynllunio gwersi a chynllunio cwricwlwm. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn dysgu, cyfrannu at seminarau, cyflwyniadau ac yn rhoi ystyriaeth feirniadol i ymchwil. Yn ystod y cyfnodau yn y Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno micro-wersi er mwyn paratoi at elfen ymarferol y cwrs. 

Mae’r cwrs TAR Daearyddiaeth yn ymwneud â dulliau damcaniaethol ac ymarferol o ddysgu Daearyddiaeth i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys TGAU ac UG/U. Mae hyn yn cynnwys astudio amrediad o strategaethau dysgu ac addysgu mewn amrywiaeth o’r sefyllfaoedd dosbarth rydych yn debygol o ddod ar eu traws. Trwy gydweithio â myfyrwyr mewn meysydd pynciol eraill ar draws y cwricwlwm, byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o bryd a ble mae gweithgareddau arbennig yn addas er mwyn sicrhau dysgu effeithiol. Bydd lleoliadau'n digwydd mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle bydd gan ysgolion gysylltiad agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. 

Yn ystod y cyfnod ar leoliad, byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu. Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, cewch brofiad o leoliad byr mewn ysgol gynradd gydag athrawon cynradd sydd â sgiliau arbennig. Byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil gweithredol er mwyn datblygu elfen ar eich ymarfer a chychwyn eich gyrfa fel athro/athrawes sy’n hyddysg mewn ymchwil.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Addysgeg Effeithiol AD31630 30
Astudiaethau Proffesiynol ADM1330 30
Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm AD31530 30
Sgiliau Gwerthuso a Dysgu ADM1430 30

Dysgu ac Addysgu

Asesiad

Bydd sawl ffurf o asesu myfyrwyr, gan gynnwys traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, a phroject ymchwil gweithredol. Nid oes arholiadau ffurfiol. Mae asesiad o’r ymarfer dysgu yn digwydd trwy gydol y tri lleoliad ac yn barhaus.

Themâu traws-gwricwlaidd

Mae pob athro/athrawes yn gyfrifol am addysgu tair thema draws-gwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd, a chymhwysedd digidol yng nghyd-destun eu pwnc eu hunain.

|