MA

Creu Ffilm Ddogfen: Tirwedd ac Ecoleg

Mae'r radd Meistr unigryw hon yn manteisio ar leoliad Aberystwyth rhwng y mynyddoedd a'r môr, sy'n caniatáu i chi ddatblygu arfer gwneud ffilmiau dogfen sydd wedi'i lywio gan natur, tirlun a gwleidyddiaeth amgylcheddol.

Mae Aberystwyth wedi'i hamgylchynu gan natur ac yn agos at nifer o sefydliadau amgylcheddol allweddol (Canolfan y Dechnoleg Amgen, Biosffer Dyfi, Coetir Anian Cambrian), ynghyd â'r Archif Sgrin a Sain Genedlaethol, ac felly mae'n lleoliad perffaith i ddarparu profiad trochol ym maes creu ffilmiau dogfen.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience/professional practice.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio MA Creu Ffilm Ddogfen: Tirlun ac Ecoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae'r radd MA Creu Ffilm Ddogfen yn Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol fel gwneuthurwr ffilmiau dogfen mewn cyd-destun a arweinir gan ymchwil.

Fe gewch y cyfle i ymchwilio i ystod o dechnegau, arbrofi gyda dulliau newydd a chymryd risgiau wrth ichi ddatblygu'ch llais creadigol eich hun yn ystod cyfnod o fyfyrio a fydd yn arwain at brosiect ymarferol terfynol. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i roi arbenigedd dechnegol i chi, wedi'i chefnogi gan sylfaen gref ym mhrif drafodaethau beirniadol y maes ffilmiau dogfen. Byddwch yn cael eich annog i arbrofi gyda gwahanol gyfryngau a dulliau, ac i feddwl am ffilmiau dogfen fel ffurf ar fynegiant

personol ac ymyrraeth wleidyddol, gan ysgogi ffyrdd newydd o weld ac ymgysylltu â'r byd. Byddwch yn manteisio ar ddiddordebau adrannol ym maes hanes a damcaniaeth dogfennu, gofod, lleoliad a thirlun, ymgyrchu, ecofeirniadaeth a pherfformiadau safle-benodol.

Ymhlith y cyfleoedd arbenigol sydd ar gael i fyfyrwyr Ffilm Ddogfen yn Aberystwyth mae:

  • manteisio'n uniongyrchol ar gryfderau'r Adran ym maes arferion safle-benodol
  • defnyddio cyfleusterau i weithio ar draws ffilm ddigidol, 8mm ac 16mm, gan gynnwys labordy ymchwil digidol ac ystafelloedd tywyll ar gyfer ffilmiau analog a ffotograffiaeth
  • mynediad at yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • cymryd rhan mewn gweithdai a dosbarthiadau meistr gydag artistiaid gwadd
  • gwaith maes a theithiau addysgiadol.


Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

1 flwyddyn (amser llawn) neu 2 flynedd (rhan-amser). Rhennir y flwyddyn academaidd rhwng tri semester: mis Medi i fis Ionawr; mis Ionawr i fis Mehefin; mis Mehefin i fis Medi.

Amser cyswllt:

Tua 10-14 awr yr wythnos yn ystod y ddau semester cyntaf. Yn y trydydd semester byddwch yn trefnu hyd a lled yr amser cyswllt gyda'ch goruchwyliwr penodedig a fydd yn eich cefnogi gyda'r prosiect ymarferol terfynol. Yn ogystal ag oriau dysgu wedi'u trefnu, fe gewch fynediad at lefydd gwaith sy'n dechnegol arbenigol er mwyn astudio'n annibynnol ac ymarfer yn greadigol drwy gydol y cwrs. 

Gofynion Iaith Saesneg:

Os oes gennych radd Faglor o brifysgol yn y DU, does dim angen ichi gymryd prawf hyfedredd Saesneg. Rhaid i siaradwyr Saesneg anfrodorol nad ydynt yn cwrdd â'r gofyniad hwn gymryd prawf hyfedredd iaith Saesneg academaidd a gydnabyddir gan brifysgolion. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r English Language requirements page

Ffioedd y cwrs:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Sylwch: Mae'r holl ffioedd yn gallu cynyddu'n flynyddol.

Cyllido:

Gall cyfleoedd cyllido fod ar gael. Gweler y manylion ar y funding calculator.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
16mm Filmmaking TFM0720 20
Documentary Practices TFM0840 40
Ecocriticism and Ecocinema TFM0920 20
Space, Place and Visual Culture TFM0420 20
Practice Research Project TFM1060 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour Change in a Changing Environment EAM4420 20
Engaging Publics TPM1820 20
Indigenous Politics IPM0620 20

Gyrfaoedd

Byddwch yn meithrin y sgiliau creadigol a beirniadol sydd eu hangen er mwyn dilyn gyrfa fel gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol, artistiaid neu weithwyr ar y cyd mewn sefydliadau proffesiynol. Byddant yn datblygu gwybodaeth dechnegol ar lefel uwch yn yr arbenigedd o’ch dewis, gan gynnwys gwaith camera, sain a golygu.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae modiwlau y byddwch o bosibl yn eu hastudio ar y cwrs hwn yn cynnwys y canlynol: 

  • arferion creu rhaglenni dogfen
  • creu ffilmiau 16mm
  • y cysyniadau a’r dadleuon allweddol ym maes daearyddiaeth ddynol
  • risg, gwytnwch ac ymddygiad mewn amgylchedd sy’n newid
  • ecofeirniadu ac ecosinema
  • daearyddiaeth ddynol: damcaniaeth a dull
  • arddangos ffilmiau
  • ymgysylltu â’r cyhoedd
  • prosiect ymarfer ymchwil.

Arferion rhaglenni dogfen

Gan gyfunno ymchwiliad beirniadol ag ymarfer creadigol, mae’r modiwl hwn yn eich annog i ddatblygu’ch llais eich hun ac i ymchwilio i’r posibiliadau gyda’r ffurf ddogfen. Drwy hynny, cewch fynd y tu hwnt i’r technegau traddodiadol i ddod o hyd i ieithoedd newydd, arloesol.

Creu ffilmiau 16mm

Mae’r modiwl hwn yn cynnig cyfle prin i ymchwilio i bosibiliadau materol ffilm 16mm. Gan ddefnyddio ein labordai arbenigol lle cewch eich dysgu gan arbenigwyr ym maes ffilmiau ffotogemegol, cewch archwilio ffilmio Bolex, prosesu â llaw, argraffu optegol, arlliwio a lefelu, yn ogystal â thafluniad a gosodiad.

Ecofeirniadu ac Ecosinema

Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r maes ecofeirniadu sy’n ehangu’n gynyddol. Mae’n ffordd o astudio cynyrchiadau diwylliannol mewn modd sy’n ystyried yr amgylchedd, ac mae’n ddull sydd wedi cael cryn ddylanwad ar ddamcaniaeth ac ymarfer ffilm.

Prosiect Ymarfer Ymchwil

Gyda chefnogaeth eich goruchwyliwr, fe gewch y cyfle i greu ffilm ddogfen sylweddol (ar ffilm, yn ddigidol neu drwy gyfuniad o’r ddau) ac o dan ddylanwad ymchwil yn eich dewis faes. Fe’ch annogir i gydweithio â phartneriaid wrth ddatblygu’ch prosiect.

I gael rhagor o fanylion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ein modiwlau, ewch i’r tab ‘modiwlau’.

Sut bydda i’n dysgu?

Caiff y rhan o’r cwrs a addysgir ei chyflwyno ar ffurf darlithoedd, seminarau, gweithdai ymarferol a chwarae ffilmiau. Yn ystod y trydydd semester (mis Mehefin-mis Medi), byddwch yn trefnu manylion eich amser cyswllt gyda’ch goruchwyliwr penodedig. Yn ychwanegol at oriau addysgu wedi'u rhaglennu, cewch fynediad at ofod gwaith technegol er mwyn astudio'n annibynnol ac ymarfer yn greadigol drwy gydol y cwrs.

Sut bydda i’n cael fy asesu?

Mae’r asesu wedi’i gynllunio mewn modd sy’n ymestyn eich gallu beirniadol a chreadigol. Byddwch yn cymryd rhan mewn lleiafrif o bum prosiect ffilm ymarferol, yn ysgrifennu nifer o draethodau, sawl cyfnodolyn myfyriol, yn myfyrio’n feirniadol, ac yn llunio prosiect curadurol yn gysylltiedig â ffilmiau dogfen. Yn y trydydd semester, byddwch yn cwblhau prosiect ffilm 15-20 munud o hyd a arweinir gan ymchwil (gyda thraethawd 5,000 o eiriau) - prosiect a gaiff ei drafod a’i lunio gyda’r goruchwyliwr perthnasol. Byddwch yn cyflwyno’ch gwaith ffilm i wyliau ffilm a digwyddiadau dangos ffilmiau ac fe gewch eich cefnogi gyda hyn gan aelod o staff profiadol.

|