Drama (Cyfrwng Cymraeg)
Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2023
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs 3DGY-
Cymhwyster
PGCE
-
Hyd y cwrs
1 flwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Mae Drama yn mynegi profiadau pobl drwy ganolbwyntio ar rôl, digwyddiadau a thensiwn, a chyflwyno hynny mewn amser a lle. Fel athro Drama, eich swyddogaeth chi yw dysgu myfyrwyr i strwythuro'r elfennau hyn a defnyddio confensiynau, technegau a thechnolegau dramatig i greu bydoedd dychmygol. Gan weithio o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, byddwch yn cael eich hyfforddi i ddysgu myfyrwyr uchelgeisiol, galluog a chreadigol sy'n barod i ddysgu a defnyddio’r wybodaeth y byddant wedi ei magu i fyw bywydau llawn boddhad.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Ffioedd a Chyllid
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2023
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Addysgeg Effeithiol | AD31630 | 30 |
Astudiaethau Proffesiynol | ADM1330 | 30 |
Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm | AD31530 | 30 |
Sgiliau Gwerthuso a Dysgu | ADM1430 | 30 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
|