Datblygwyd y Ddoethuriaeth Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) ddwyieithog yn rhan o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sefydlu proffesiwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwella cyfleoedd i addysgwyr yng Nghymru, gan adeiladu ar lwyddiant yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) a'r bartneriaeth gref bresennol rhwng prifysgolion yng Nghymru.
Mae’r radd Doethur mewn Addysg (Cymru) yn rhaglen ran-amser sydd ar gael i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau'r Cwrs Meistr Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) neu gwrs Meistr cyfatebol. Mae'r radd ddoethuriaeth broffesiynol hon yn cynnig llwybr dilyniant clir i'r rhai sy'n dymuno adeiladu ar y profiad dysgu ac ymchwil a gafwyd yn ystod eu gradd Meistr, trwy weithio gydag academyddion ac arbenigwyr ymchwil ar draws y Prifysgolion yng Nghymru sy'n cymryd rhan yn y cynllun, a chydag arbenigwyr yn rhyngwladol.
Mae'r rhaglen dysgu cyfunol hon yn cynnwys un modiwl a addysgir (60 credyd) i'ch paratoi ar gyfer ymgymryd ag ymchwil ar lefel doethuriaeth, a thraethawd ymchwil sy'n cynnwys ymchwil wreiddiol sydd ar flaen y gad o ran ymarfer ym maes Addysg.
Mae'n rhaid i chi basio'r arholiad viva voce i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Doethur mewn Addysg (Cymru).
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs dysgu cyfunol rhan-amser, wedi'i gefnogi gan dîm arolygu gwybodus a chymwys.