MA

Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol yr MA Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau eu gyrfa i uwch arweinwyr sydd â diddordeb mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’r dirwedd addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym iawn. Yn ogystal â meistroli cyfres gymhleth o alluoedd er mwyn tywys, ysgogi, a hwyluso gwaith dysgu disgyblion, mae addysgu hefyd yn gofyn am y gallu i gwestiynu ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella.

Bydd MA Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol, a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, trwy gyswllt uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle safonol i wella eu gwybodaeth broffesiynol, gwneud gwaith ymchwil, a gloywi eu harferion proffesiynol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Yn y rhaglen, bydd myfyrwyr yn dewis modiwlau arbenigol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Candidates must

• hold qualified teacher status (QTS) and be registered with the EWC as a teacher in a school, an advisory teacher in a local authority or a teacher in a setting such as a pupil referral unit (QTS and EWC registration must be maintained throughout the course of the programme) OR be a college lecturer and be registered with the EWC (EWC registration must be maintained throughout the course);
• be employed by a maintained school in Wales / college in Wales / local authority in Wales as a teacher / lecturer / advisory teacher OR be employed by a registered independent school or specialist college.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Cwrs rhan-amser yw hwn sy’n para 3 blynedd. Nid oes modd ei astudio amser llawn. Os yw ymgeiswyr wedi cwblhau TAR (neu gyfwerth) a chael 60 credyd ar lefel 7 a/neu os oes ganddynt brofiad proffesiynol sylweddol, mae'n debygol y cânt eu heithrio o flwyddyn gyntaf yr astudio. I fod yn gymwys i'w hystyried am hyn, rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth academaidd a/neu broffesiynol addas wrth wneud cais trwy lenwi'r Ffurflen Cydnabod Dysgu Blaenorol (CDB). Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth am hyn.  

Mae'r rhaglen yn cynnwys 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd, a bydd 22 ohonynt yn oriau cyswllt.

Bydd y dysgu yn gyfuniad o astudio annibynnol ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn ymuno â myfyrwyr ar yr un cwrs mewn 6 sefydliad Addysg Uwch arall. Bydd hyn yn cynnwys ymuno am sesiynau wyneb yn wyneb ar-lein yn nigwyddiadau'r Sadyrnau Cenedlaethol.

Aseiniadau gwaith cwrs fydd yr holl asesiadau a byddant yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl. Lle bynnag y bo modd, mae aseiniadau wedi'u cynllunio i gyd-daro â chyd-destun gwaith ac amserlenni athrawon amser llawn. Mae mwy o wybodaeth am asesu i'w gweld ar dudalennau'r modiwl penodol. Bydd y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar gwblhau traethawd hir.

Gellir astudio'r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Ysgol Addysg wedi bod yn cynnig rhaglenni astudio ysgogol ac arloesol ers dros 100 mlynedd.

Mae gan staff yr Ysgol Addysg naill ai Ddoethuriaeth neu brofiad helaeth yn eu maes.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd y Cwrs

Gradd Meistr rhan-amser yw rhaglen MA Addysg (Cymru) sy’n cael ei hastudio dros dair blynedd, ond gall ymgeiswyr gael eu heithrio o'r flwyddyn gyntaf trwy lenwi Ffurflen Cydnabod Dysgu Blenorol.

Gwybodaeth gyffredinol am y cwrs:

Mae manylion modiwlau a fframwaith y cwrs i’w gweld yn yr adrannau 'Modiwlau' a 'Dysgu ac Addysgu'.

Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â Dr Megan Hicks, Cyfarwyddwr y Rhaglen MA (meh19@aber.ac.uk) i gael mwy o wybodaeth am y cwrs. Cewch gyfle i ofyn cwestiynau a chofrestru ar un o'n nosweithiau agored ar-lein (cynhelir y rhain ym misoedd Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf).

I gael rhagor o wybodaeth am bolisïau neu fanylion am yr MA, ewch i we-ddalen benodol MA Addysg (Cymru) a gwe-ddalen MA Addysg (Cymru) yr Ysgol Addysg.

Gwybodaeth am wneud cais:

Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn tan 31ain Awst, ond anogir ymgeiswyr i’w cyflwyno cyn gynted â phosibl. Caiff y ceisiadau eu hystyried gan banel adrannol a phanel cyllido cenedlaethol sy’n cael eu cynnal rhwng mis Mai a mis Medi.

I ddechrau'r broses o wneud cais, mae angen:

  • Llenwi’r ffurflen gais gyffredinol trwy glicio ar yr eicon 'Apply Now'
  • Lawrlwytho a llenwi’r ffurflenni cais ychwanegol: y ffurflen 'Cais Atodol' a’r ffurflen 'Cydnabod Dysgu Blaenorol'.
  • Dylech wedyn lwytho'r ffurflenni ychwanegol hyn i'ch cais.
  • Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i siarad â Chyfarwyddwr y Rhaglen cyn llenwi'r ffurflenni hyn.

Ffioedd y cwrs a chyllid:

Mae cyllid i’w gael i ymgeiswyr cymwys gan Lywodraeth Cymru. I gael gwybodaeth am hyn ac i weld amodau/cymhwysedd y meini prawf cyllid am y flwyddyn academaidd hon, cliciwch ar y ddolen - Meini prawf cyllido.

Os hoffech drafod pa mor gymwys yr ydych i gael cyllid, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

Ar ben hyn, mae croeso i ymgeiswyr sy'n cyflawni'r gofynion mynediad wneud cais i astudio’r MA trwy dalu eu ffordd eu hunain.

Costau Ychwanegol

Yn ystod eich cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth bydd yn hanfodol eich bod yn gallu defnyddio eich dyfais ddigidol eich hun/pecyn TG priodol.

Efallai y bydd costau ychwanegol yn eich wynebu tra byddwch yn y Brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio nôl ag ymlaen i'r campws
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu, ac offer (e.e. ffyn cof bach)
  • Prynu llyfrau neu destunau
  • Gŵn, i’r seremoni raddio.

Manylion cyswllt:

Dr Megan Hicks (meh19@aber.ac.uk) Cyfarwyddwr Rhaglen MA Addysg (Cymru)

Mae rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol i’w gweld ar wefan y cwrs MA Cenedlaethol Addysg (Cymru).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol ADM2220 20
Ymarfer wedi'i Lywio gan Dystiolaeth ADM2120 20
Addysgeg ac Ymarfer ADM2020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch ADM3120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Additional Learning Needs- Excellence in Practice EDM3520 20
Anghenion Dysgu Ychwanegol - Rhagoriaeth mewn Ymarfer ADM3520 20
Arwain a Rheoli ADY ADM2920 20
Inclusive Classroom Practice EDM2520 20
Leadership and Management of ALN EDM2920 20
Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth ADM2520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Hir ADM3260 60

Dysgu ac Addysgu

Beth yw fframwaith y cwrs?

Bydd holl fyfyrwyr y cwrs MA Addysg Genedlaethol (Cymru) yn dilyn y fframwaith isod (oni bai eich bod yn gwneud cais CDB ym Mlwyddyn 1):

Blwyddyn 1

  • Ymarfer Cydweithrediadol a Phroffesiynol
  • Ymarfer wedi’i Lywio gan Dystiolaeth
  • Addysgeg ac Ymarfer.

Blwyddyn 2

  • Dau o blith tri modiwl arbenigol (Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ADY, neu Anghenion Dysgu Ychwanegol – Rhagoriaeth mewn Ymarfer).
  • Sgiliau Uwch ar gyfer Ymchwil ac Ymholi.

Blwyddyn 3

  • Traethawd Hir.

Bydd tiwtoriaid modiwl a thiwtoriaid personol yn cael eu rhoi i fyfyrwyr yr MA Addysg (Cymru).

I'r rhai sy'n dymuno astudio'r MA Addysg (Cymru) gan ganolbwyntio ar lwybr penodol, bydd angen astudio modiwlau arbenigol. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar broffiliau perthnasol y cwrs.

|