Addysg (Cymru): Cwricwlwm
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs X3PG4-
Cymhwyster
MA
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Mae llwybr Cwricwlwm y rhaglen MA Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau eu gyrfa i uwch arweinwyr sydd â diddordeb mewn cynllunio maes llafur, dyfeisgarwch ac arweinyddiaeth. Bydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ddatblygu dealltwriaeth o ddamcaniaethau ynglŷn a chwricwlwm gan ganolbwyntio’n benodol ar y Cwricwlwm i Gymru. Mae llwybr Cwricwlwm y rhaglen MA yn dod ar adeg dyngedfennol o ran polisi ac ymarfer addysg yng Nghymru. Wrth roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith, bydd angen i bob gweithiwr addysg proffesiynol ddyfnhau eu dealltwriaeth o weithio o fewn ac ar draws y cwricwlwm. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd pellach i fyfyrio ac asesu eu harferion eu hunain o safbwynt trafod damcaniaethau a dulliau ymarfer allweddol ynghylch cynllunio a gweithredu’r cwricwlwm, a modelau newydd o arweinyddiaeth mewn cyd-destunau a lleoliadau addysgol.
Bydd MA Addysg (Cymru): Cwricwlwm, a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, trwy gyswllt uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle safonol i wella eu dealltwriaeth o ddamcaniaeth, cynllun, a dulliau gweithredu’r cwricwlwm, ac arweinyddiaeth ymhob rhan o’r gyfundrefn addysg, gwneud gwaith ymchwil, a gloywi eu harferion proffesiynol.
Yn y rhaglen, bydd myfyrwyr yn dewis modiwlau arbenigol ym maes y Cwricwlwm.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol | ADM2220 | 20 |
Ymarfer wedi'i Lywio gan Dystiolaeth | ADM2120 | 20 |
Addysgeg ac Ymarfer | ADM2020 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch | ADM3320 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Archwilio Addysgeg | ADM2420 | 20 |
Arloesi ac Arweinyddiaeth Cwricwlwm | ADM3620 | 20 |
Curriculum Design and Realisation | EDM2820 | 20 |
Curriculum Leadership and Innovation | EDM3620 | 20 |
Cynllunio a Gwireddu Cwricwlwm | ADM2820 | 20 |
Exploring Pedagogies | EDM2420 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Traethawd Hir | ADM3260 | 60 |
Dysgu ac Addysgu
|