MA

Addysg (Cymru): Ecwiti mewn Addysg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae llwybr Ecwiti mewn Addysg y rhaglen MA Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau eu gyrfa i uwch arweinwyr sydd â diddordeb mewn hyrwyddo tegwch ac edrych ar ffyrdd o gefnogi disgyblion a myfyrwyr os oes annhegwch o rhyw fath yn effeithio arnynt.

Bydd MA Addysg (Cymru): Ecwiti mewn Addysg yn dod ar adeg dyngedfennol o ran polisi ac ymarfer addysg yng Nghymru. Mae galwad y Gweinidog Addysg am weithredu radical i greu cyfundrefn addysg deg i bawb yn gofyn am gydweithio ar draws lleoliadau addysg Cymru i ystyried yr hyn sy'n gweithio, dysgu o weithredu ac ymarfer, o ddulliau sefydledig ac o syniadaeth a meddylfryd newydd.

Mae rhaglen MA Addysg (Cymru): Ecwiti mewn Addysg, a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, trwy gyswllt uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle safonol i ymwneud yn weithredol ag ymchwil gyfredol er mwyn gloywi eu dulliau gwaith ond hefyd i fyfyrio a herio eu syniadaeth a’u meddylfryd eu hunain, a gwella eu dulliau gwaith proffesiynol.

Yn y rhaglen, bydd myfyrwyr yn dewis modiwlau arbenigol ym maes Ecwiti mewn Addysg.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Candidates must

• hold qualified teacher status (QTS) and be registered with the EWC as a teacher in a school, an advisory teacher in a local authority or a teacher in a setting such as a pupil referral unit (QTS and EWC registration must be maintained throughout the course of the programme) OR be a college lecturer and be registered with the EWC (EWC registration must be maintained throughout the course);
• be employed by a maintained school in Wales / college in Wales / local authority in Wales as a teacher / lecturer / advisory teacher OR be employed by a registered independent school or specialist college.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Cwrs rhan-amser yw hwn sy’n para 3 blynedd. Nid oes modd ei astudio amser llawn. Os yw ymgeiswyr wedi cwblhau TAR (neu gyfwerth) a chael 60 credyd ar lefel 7 a/neu os oes ganddynt brofiad proffesiynol sylweddol, mae'n debygol y cânt eu heithrio o flwyddyn gyntaf yr astudio. I fod yn gymwys i'w hystyried am hyn, rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth academaidd a/neu broffesiynol addas wrth wneud cais trwy lenwi'r Ffurflen Cydnabod Dysgu Blaenorol (CDB). Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth am hyn.  

Mae'r rhaglen yn cynnwys 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd, a bydd 22 ohonynt yn oriau cyswllt.

Bydd y dysgu yn gyfuniad o astudio annibynnol ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn ymuno â myfyrwyr ar yr un cwrs mewn 6 sefydliad Addysg Uwch arall. Bydd hyn yn cynnwys ymuno am sesiynau wyneb yn wyneb ar-lein yn nigwyddiadau'r Sadyrnau Cenedlaethol.

Aseiniadau gwaith cwrs fydd yr holl asesiadau a byddant yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl. Lle bynnag y bo modd, mae aseiniadau wedi'u cynllunio i gyd-daro â chyd-destun gwaith ac amserlenni athrawon amser llawn. Mae mwy o wybodaeth am asesu i'w gweld ar dudalennau'r modiwl penodol. Bydd y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar gwblhau traethawd hir.

Gellir astudio'r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Ysgol Addysg wedi bod yn cynnig rhaglenni astudio ysgogol ac arloesol ers dros 100 mlynedd.

Mae gan staff yr Ysgol Addysg naill ai Ddoethuriaeth neu brofiad helaeth yn eu maes.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd y Cwrs

Gradd Meistr rhan-amser yw rhaglen MA Addysg (Cymru) sy’n cael ei hastudio dros dair blynedd, ond gall ymgeiswyr gael eu heithrio o'r flwyddyn gyntaf trwy lenwi Ffurflen Cydnabod Dysgu Blenorol.

Gwybodaeth gyffredinol am y cwrs:

Mae manylion modiwlau a fframwaith y cwrs i’w gweld yn yr adrannau 'Modiwlau' a 'Dysgu ac Addysgu'.

Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â Dr Megan Hicks, Cyfarwyddwr y Rhaglen MA (meh19@aber.ac.uk) i gael mwy o wybodaeth am y cwrs. Cewch gyfle i ofyn cwestiynau a chofrestru ar un o'n nosweithiau agored ar-lein (cynhelir y rhain ym misoedd Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf).

I gael rhagor o wybodaeth am bolisïau neu fanylion am yr MA, ewch i we-ddalen benodol MA Addysg (Cymru) a gwe-ddalen MA Addysg (Cymru) yr Ysgol Addysg.

Gwybodaeth am wneud cais:

Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn tan 31ain Awst, ond anogir ymgeiswyr i’w cyflwyno cyn gynted â phosibl. Caiff y ceisiadau eu hystyried gan banel adrannol a phanel cyllido cenedlaethol sy’n cael eu cynnal rhwng mis Mai a mis Medi.

I ddechrau'r broses o wneud cais, mae angen:

  • Llenwi’r ffurflen gais gyffredinol trwy glicio ar yr eicon 'Apply Now'
  • Lawrlwytho a llenwi’r ffurflenni cais ychwanegol: y ffurflen 'Cais Atodol' a’r ffurflen 'Cydnabod Dysgu Blaenorol'.
  • Dylech wedyn lwytho'r ffurflenni ychwanegol hyn i'ch cais.
  • Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i siarad â Chyfarwyddwr y Rhaglen cyn llenwi'r ffurflenni hyn.

Ffioedd y cwrs a chyllid:

Mae cyllid i’w gael i ymgeiswyr cymwys gan Lywodraeth Cymru. I gael gwybodaeth am hyn ac i weld amodau/cymhwysedd y meini prawf cyllid am y flwyddyn academaidd hon, cliciwch ar y ddolen - Meini prawf cyllido.

Os hoffech drafod pa mor gymwys yr ydych i gael cyllid, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

Ar ben hyn, mae croeso i ymgeiswyr sy'n cyflawni'r gofynion mynediad wneud cais i astudio’r MA trwy dalu eu ffordd eu hunain.

Costau Ychwanegol

Yn ystod eich cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth bydd yn hanfodol eich bod yn gallu defnyddio eich dyfais ddigidol eich hun/pecyn TG priodol.

Efallai y bydd costau ychwanegol yn eich wynebu tra byddwch yn y Brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio nôl ag ymlaen i'r campws
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu, ac offer (e.e. ffyn cof bach)
  • Prynu llyfrau neu destunau
  • Gŵn, i’r seremoni raddio.

Manylion cyswllt:

Dr Megan Hicks (meh19@aber.ac.uk) Cyfarwyddwr Rhaglen MA Addysg (Cymru)

Mae rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol i’w gweld ar wefan y cwrs MA Cenedlaethol Addysg (Cymru).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol ADM2220 20
Ymarfer wedi'i Lywio gan Dystiolaeth ADM2120 20
Addysgeg ac Ymarfer ADM2020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch ADM3120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Emotional Health, Mental Health and Wellbeing EDM2320 20
Equity and Diversity EDM2720 20
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles ADM2320 20
Responding to the effects of poverty and disadvantage in education EDM3820 20
Tegwch ac Amrywiaeth ADM2720 20
Ymateb i effeithiau tlodi ac anfantais mewn addysg ADM3820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Hir ADM3260 60

Dysgu ac Addysgu

Beth yw fframwaith y cwrs?

Bydd holl fyfyrwyr y cwrs MA Addysg Genedlaethol (Cymru) yn dilyn y fframwaith isod (oni bai eich bod yn gwneud cais CDB ym Mlwyddyn 1):

Blwyddyn 1

  • Ymarfer Cydweithrediadol a Phroffesiynol
  • Ymarfer wedi’i Lywio gan Dystiolaeth
  • Addysgeg ac Ymarfer.

Blwyddyn 2

  • Dau o blith tri modiwl arbenigol
  • Sgiliau Uwch ar gyfer Ymchwil ac Ymholi.

Blwyddyn 3

  • Traethawd Hir.

Bydd tiwtoriaid modiwl a thiwtoriaid personol yn cael eu rhoi i fyfyrwyr yr MA Addysg (Cymru).

|