Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth
Prif Ffeithiau
Cod Cwrs X3PG3-
Cymhwyster
MA
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
100%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Mae llwybr Arweinyddiaeth y rhaglen MA Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau eu gyrfa i uwch arweinwyr sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth. Mae’r tirwedd addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym. Yn ogystal â meistroli cyfres gymhleth o alluoedd er mwyn tywys, ysgogi, a hwyluso gwaith dysgu disgyblion, mae addysgu hefyd yn gofyn am y gallu i gwestiynu ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella.
Bydd MA Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, trwy gyswllt uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle safonol i wella eu dulliau arwain a’u gwybodaeth broffesiynol, gwneud gwaith ymchwil, a gloywi eu harferion proffesiynol.
Yn y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn dewis modiwlau arbenigol ym maes Arweinyddiaeth.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Trosolwg o'r Cwrs
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol | ADM2220 | 20 |
Ymarfer wedi'i Lywio gan Dystiolaeth | ADM2120 | 20 |
Addysgeg ac Ymarfer | ADM2020 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch | ADM3320 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Arwain Newid Sefydliadol | ADM3020 | 20 |
Arwain a Rheoli gweithwyr addysg proffesiynol | ADM2620 | 20 |
Arwain o Fewn ac Ar Draws Systemau Addysg | ADM3720 | 20 |
Leading Organisational Change | EDM3020 | 20 |
Leading Within and Across Education Systems | EDM3720 | 20 |
Leading and Managing Education Professionals | EDM2620 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Traethawd Hir | ADM3260 | 60 |
Dysgu ac Addysgu
|