UCert

Gwyddor Ceffylau

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Mai 2024

Bydd y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Gwyddor Ceffylau yn rhoi i chi brofiad o addysg ôl-raddedig a arweinir gan ymchwil ac wedi’i seilio ar wybodaeth drylwyr ym meysydd ymddygiad ac anatomeg ceffylau, maeth ceffylau, atgenhedlu a bridio ceffylau, yn ogystal â gwyddor glaswelltir.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi hen ymsefydlu fel darparwr cyrsiau ar geffylau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Drwy astudio gyda ni fe gewch ddysgu’r wybodaeth uwch am y pwnc a'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i gael swydd yn y gyrfaoedd gorau yn y diwydiant ceffylau a’r proffesiynau cysylltiedig.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad BSc honours degree (2:2) in a related subject at undergraduate level OR 2 years relevant experience working in the sector

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Dysgir y cwrs dysgu-o-bell hwn gan wyddonwyr blaenllaw yn eu meysydd a byddwch yn dysgu am y datblygiadau gwyddonol diweddaraf ym mhrif feysydd ymchwil i geffylau. Mae’r lefel uwch o wybodaeth am y pwnc a’r cymhwyster ei hun wedi’u cydnabod yn eang gan y diwydiant ceffylau a’r proffesiynau cysylltiedig.

Mae'r rhaglen ar-lein hon wedi'i chynllunio i gyd-fynd yn gyfleus â'ch gofynion chi o ran eich gwaith a’ch bywyd. Mae wedi'i hanelu at weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes ceffylau a hoffai ddiweddaru eu gwybodaeth ac ennill cymwysterau yn ogystal â graddedigion newydd, a graddedigion sy'n gobeithio symud i’r maes hwn.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

2 blynedd o ddysgu o bell

Dyddiad cychwyn:

Medi, Ionawr neu Mai

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Mai - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equine Nutrition BDM5320 20
Equine Reproductive Physiology and Breeding Technology BDM5220 20
Grassland Systems BDM5120 20
Understanding Equine Action: from Anatomy to Behaviour BDM6620 20

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Grassland Systems BDM5120 20

Modiwlau Dechrau Ionawr - 2025

Modiwlau Dechrau Mai - 2025

Gyrfaoedd

Ar ôl graddio byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i yrfaoedd blaenllaw yn y diwydiant ceffylau neu broffesiynau cysylltiedig ym meysydd ymchwil ceffylau ac anifeiliaid, datblygu, y byd academaidd, hyfforddi, mentrau masnachol cyhoeddus a phreifat, gwaith ymgynghorol, a sefydliadau'r llywodraeth ym Mhrydain a ledled y byd.

Dysgu ac Addysgu

Sut byddaf i'n dysgu?

Mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i fod mor hygyrch a hyblyg â phosib, yn enwedig i'r rhai sydd mewn gwaith llawn-amser neu sy'n byw y tu allan i Brydain. Os oes gennych gyswllt â'r rhyngrwyd gallwch astudio lle bynnag a phryd bynnag sy'n gyfleus i chi, sy’n golygu y gallwch ddiweddaru’ch gwybodaeth a datblygu’ch sgiliau beirniadol.

Derbynnir myfyrwyr dair gwaith y flwyddyn, sy’n golygu y cewch ddechrau yn Ionawr, Mai neu Fedi. Mae pob modiwl 14-wythnos yn cynnwys darlithoedd wedi'u recordio gan academyddion ac arbenigwyr yn y diwydiant (lle bo'n bosib), ynghyd â darlleniadau dan arweiniad, fforymau trafod ac aseiniadau ysgrifenedig.

Byddwch yn dewis tri modiwl 20-credyd o blith y pedwar sydd ar gael, fel y gallwch ganolbwyntio ar y themâu sydd fwyaf perthnasol i chi.

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu?

Byddwch yn dewis detholiad o fodiwlau sy'n ymdrin â maeth ceffylau, anatomeg ac ymddygiad ceffylau, ffisioleg atgenhedlu ceffylau a bridio, a gwyddor glaswelltir.

Sut y caf fy asesu?

Nid oes arholiadau yn y rhaglen hon. Asesir y modiwlau a ddysgir drwy waith cwrs (sef adroddiadau a thraethodau, ond hefyd adolygiadau o destunau perthnasol, astudiaethau achos, cynlluniau busnes a thasgau dadansoddi data), cyflwyniadau a seiadau trafod.

|