PGCE

Ieithoedd Modern (Ffrangeg)

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2023

Mae’r cwrs Ieithoedd Tramor Modern yn anelu at alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ymarferwyr egnïol, creadigol, a brwdfrydig er mwyn datblygu meistrolaeth dysgwyr i ddefnyddio’r iaith dramor maent yn ei hastudio. Trwy weithio ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, byddwch yn hyfforddi i addysgu pobl ifanc i ddod yn bobl greadigol, uchelgeisiol, egwyddorol a hyderus wrth ddarganfod mwy am y gymdeithas a’r byd ac yn arbennig y wlad y maent yn ei hastudio.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor y DU (Anrhydedd), neu gyfwerth rhyngwladol, mewn pwnc perthnasol. Rhaid i o leiaf 50% o gynnwys y radd Baglor fod yn gysylltiedig ag Ieithoedd Tramor. Gellir hefyd ystyried ymgeiswyr sy'n meddu ar radd Baglor (Anrhydedd) mewn pwnc arall, ond sy'n siarad Ffrangeg yn rhugl.

Gofynion Iaith Saesneg Sylwch fod hwn yn gwrs cant y cant trwy gyfrwng y Gymraeg

Gofynion Eraill TGAU Gradd C naill ai am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith (Iaith Gyntaf). Mae hefyd angen Gradd C am TGAU Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd. Mae cymwysterau eraill sy’n dangos cyflawniad ar yr un lefel yn dderbyniol. Cysylltwch â staff Derbyn TAR am fanylion: ellstaff@aber.ac.uk. Mae profiad neu gyfnod arsylwi mewn ysgol yn fantais. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad yn rhan o’r drefn o ddethol.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Anghenion mynediad

Gradd sy’n cynnwys o leiaf 50% o bwnc perthynol i Ieithoedd Tramor Modern. Rydym yn ystyried myfyrwyr â graddau mewn pynciau eraill ac sy’n rhugl mewn iaith arall berthnasol yn ogystal â myfyrwyr o dramor. Ni fydd gwybodaeth unrhyw fyfyriwr yn gyflawn, a chadwyd hyn mewn cof wrth gynllunio’r cwrs.

Er mwyn cefnogi fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llywodraeth Cymru mae’n rhaid bod myfyrwyr wedi cyrraedd safon sy’n gyfatebol i Radd B yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol:

  • Saesneg Iaith
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Cymraeg (Iaith gyntaf)
  • Llenyddiaeth Gymraeg

Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf). Rhaid cael hefyd radd B yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg- Rhifedd.

Mae’r Brifysgol yn cynnig profion yn y pynciau yma os and oes gennych y cymwysterau angenrheidiol.

  • Mae cael profiad o arsylwi mewn ysgol yn fanteisiol.
  • Bydd profion llythrennedd a rhifedd yn rhan o’r broses dewis a dethol ar ddiwrnod y cyfweliad.

Llety

Mae’r brifysgol yn cynnig llety am ddim i ymgeiswyr sydd wedi derbyn lle i astudio ar gwrs TAR ym mis Medi 2019 (yn dderbyniol ar lwyddo'r gofynion mynediad) yn dilyn y broses dewis AGA. Mae’r cynnig am lety am ddim i fyfyrwyr y cwrs am yr 8 wythnos tra yn y Brifysgol yn Aberystwyth. 

Llety 

Mae’r brifysgol yn cynnig llety am ddim i ymgeiswyr sydd wedi derbyn lle i astudio ar gwrs TAR cychwyn mis Medi 2019 (yn dderbyniol ar lwyddo'r gofynion mynediad) yn dilyn y proses dewis AGA. Mae’r cynnig am lety am ddim ar gael i fyfyrwyr y cwrs am yr 8 wythnos yn Aberystwyth, pryd bydd myfyrwyr ar gampws ar gyfer y cwrs.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Cynnwys y cwrs  

Ar y cyd â’ch cyd-fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs cynradd a chyrsiau uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion addysgeg effeithiol, asesu, cynllunio gwersi a chynllunio cwricwlwm. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn dysgu, cyfrannu at seminarau, cyflwyniadau ac yn rhoi ystyriaeth feirniadol i ymchwil. Yn ystod y cyfnodau yn y Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno micro-wersi er mwyn paratoi at elfen ymarferol y cwrs. Byddwch yn astudio’r cwricwlwm Ieithoedd Tramor Modern o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Dysgu a Chyfathrebu a byddwch yn cydweithio gyda myfyrwyr o feysydd pynciol eraill i ddatblygu eich arferion tra’n gweithio ar draws y cwricwlwm. 

Mae cwrs TAR Ieithoedd Tramor Modern yn ymwneud â dulliau damcaniaethol ac ymarferol o ddysgu Ieithoedd Tramor Modern i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys TGAU Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg ac UG/U Ieithoedd Tramor Modern. Bydd lleoliadau'n digwydd mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle bydd gan ysgolion gysylltiad agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. 

Yn ystod y cyfnod ar leoliad, byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu. Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, cewch brofiad o leoliad byr mewn ysgol gynradd gydag athrawon cynradd sydd â sgiliau arbennig. Byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil gweithredol er mwyn datblygu elfen ar eich ymarfer a chychwyn eich gyrfa fel athro/athrawes sy’n hyddysg mewn ymchwil.

Modiwlau Dechrau Medi - 2023

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Addysgeg Effeithiol AD31630 30
Astudiaethau Proffesiynol ADM1330 30
Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm AD31530 30
Sgiliau Gwerthuso a Dysgu ADM1430 30

Dysgu ac Addysgu

Asesiad

Bydd sawl ffurf o asesu myfyrwyr, gan gynnwys traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, a phroject ymchwil gweithredol. Nid oes arholiadau ffurfiol. Mae asesiad o’r ymarfer dysgu yn digwydd trwy gydol y tri lleoliad ac yn barhaus.

Themâu traws-gwricwlaidd

Mae pob athro/athrawes yn gyfrifol am addysgu tair thema draws-gwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd, a chymhwysedd digidol yng nghyd-destun eu pwnc eu hunain.

|