MSc

Synhwyro o Bell a SGDd

Cynlluniwyd MSc Synhwyro o Bell a Systemau Gwybodaeth Daearyddol (SGD) i arfogi myfyrwyr â'r sgiliau diweddaraf ar gyfer prosesu a dadansoddi data daearyddol. Elfen allweddol o'r cwrs yw dysgu sgiliau rhaglennu craidd i chi (e.e. Python, R a Google Earth Engine) er mwyn i chi allu cynnal gwaith dadansoddi uchelgeisiol â'r offer diweddaraf. Rydym yn canolbwyntio ar ddefnyddio meddalwedd sydd ar gael yn ddigyfyngiad i brosesu amrywiaeth eang o ffynonellau data, a gafwyd o synwyryddion optegol, radar, lidar a thermol, a hynny o loerenni ac o'r awyr (gan gynnwys o ddronau). Gan adeiladu ar ein hymchwil o safon fyd eang, byddwch yn dysgu'r sgiliau hyn trwy eu cymhwyso i feysydd megis mapio risg clefydau, biomas coedwigoedd a charbon, newid gorchudd tir ac ystod o  heriau amgylcheddol eraill.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 6.0 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Synhwyro o Bell a Systemau Gwybodaeth Daearyddol (SGD) ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cyfle i gyfrannu i brosiectau cyfredol yn y grŵp ymchwil blaenllaw ‘Arsylwi ar y Ddaear a Deinameg Ecosystemau’, gan gynnwys mesur stociau carbon fforestydd yn fyd-eang, mapio mangrofau’r ddaear, darparu gwybodaeth ofodol ar gyfer y frwydr yn erbyn malaria.
  • Dysgu'r technegau a'r cysyniadau diweddaraf ym meysydd synhwyro o bell a systemau gwybodaeth ddaearyddol trwy eu cymhwyso i astudiaethau achos o'rbyd go iawn.
  • Cael defnyddio labordai cyfrifiadurol pwrpasol ar gyfer gwaith ymchwil systemau gwybodaeth ddaearyddol a synhwyro o bell sy’n cynnwys y llwyfannau meddalwedd diweddaraf.
  • Rhoi eich sgiliau ar waith trwy gydweithio’n uniongyrchol â phartneriaid o gwmnïau a phartneriaid academaidd i ddatrys problemau gwirioneddol.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Cafodd graddedigion y cwrs hwn lwyddiant mawr yn sicrhau swyddi mewn sefydliadau diwydiannol ac academaidd amlwg iawn. Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi cael gwaith mewn cyrff llywodraethol ym Mhrydain a thramor, mewn mentrau preifat a sefydliadau ymchwil arweiniol. Trwy astudio’r cwrs, byddwch yn gyfrannwr hynod gymwys mewn unrhyw waith yn gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd, effeithiau'r ddynoliaeth ar ecosystemau tirol, rhewlifeg, hydroleg, coedwigaeth, newid arfordirol, gwyddor cylched carbon, bioamrywiaeth, a gwaith ymgynghori amgylcheddol.

Dysgu ac Addysgu

|