PGCE

Hanes

Mae Hanes yn bwnc sy'n cyflwyno dysgwyr ifanc i ddigwyddiadau a datblygiadau mawr y gorffennol. Fel athro, eich swyddogaeth chi yw eu cynorthwyo i feddwl yn feirniadol, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o'n cymdeithas a'r bobl sy’n rhan ohoni. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd ein gradd TAR Hanes yn rhoi'r sgiliau proffesiynol i athrawon y dyfodol ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o Hanes a sut y’i defnyddir. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cael eu hyfforddi i ddysgu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n llawn gwybodaeth ac yn hyderus am y byd y tu hwnt i'r ysgol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Gradd Baglor y DU (Anrhydedd), neu gyfwerth rhyngwladol, mewn pwnc perthnasol. Dylai lleiafswm o 50% o gynnwys y radd Baglor hon fod yn berthnasol i'r pwnc rydych chi am ei ddysgu (h.y. Hanes).

Gofynion Iaith Saesneg Sylwch fod hwn yn gwrs cant y cant trwy gyfrwng y Gymraeg

Gofynion Eraill TGAU Gradd C naill ai am Gymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith (Iaith Gyntaf). Mae hefyd angen Gradd C am TGAU Mathemateg neu Fathemateg Rhifedd. Mae cymwysterau eraill sy’n dangos cyflawniad ar yr un lefel yn dderbyniol. Cysylltwch â staff Derbyn TAR am fanylion: ellstaff@aber.ac.uk. Mae profiad neu gyfnod arsylwi mewn ysgol yn fantais. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad yn rhan o’r drefn o ddethol.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Tuition fees: Tuition fees for PGCE courses are regulated by Welsh Government and are set in line with undergraduate tuition fees.  

Financial support: Welsh Government offers incentives for students training to teach certain priority subjects. In addition, Student Finance Wales offers help with the cost of your teacher education if you’re studying one of our full-time PGCE programmes. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae'r rhaglen hon yn un arloesol ac integredig sy’n ymateb i anghenion addysg athrawon yn yr 21ain ganrif, ac yn hyfforddi darpar athrawon a fydd yn gallu addysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae'r pwyslais hwn ar addysgu ar draws cyfnodau yn cyd-daro â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a Chwricwlwm Cymru, yn ogystal â'r cynnydd a welir yn nifer yr ysgolion Pob Oed. Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn, sy'n cynnwys, yn fras, darpariaeth o tua 12 wythnos mewn prifysgolion, ac o leiaf 24 wythnos yn yr ysgol.  

Ynghyd â'ch cyd-fyfyrwyr ar y rhaglenni cynradd ac uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion effeithiol addysgeg, asesu, a chynllunio gwersi a maes llafur. Byddwch yn cymryd rhan weithredol trwy addysgu, cyfrannu at seminarau, rhoi cyflwyniadau, ac ymchwilio'n feirniadol. Yn ystod sesiynau'r Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno mân-wersi i baratoi am elfen ymarferol y cwrs.  

Mae’r cwrs TAR Hanes yn ymwneud dulliau damcaniaethol ac ymarferol o ddysgu Hanes i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys TGAU ac UG/ Safon Uwch. Mae hyn yn cynnwys astudio amrediad o strategaethau dysgu ac addysgu mewn amrywiaeth o’r sefyllfaoedd dosbarth rydych yn debygol o ddod ar eu traws. Trwy gydweithio . myfyrwyr mewn meysydd pynciol eraill ar draws y cwricwlwm, byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o bryd a ble mae gweithgareddau arbennig yn addas er mwyn sicrhau dysgu effeithiol. 

Cynhelir y lleoliadau mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle mae gan ysgolion gysylltiadau agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Yn y lleoliad, byddwch yn cydweithio'n agos â'ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu.  

Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, byddwch yn cael cyfnod byr ar leoliad mewn ysgol gynradd ac yn cydweithio ag athrawon cynradd medrus. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil gweithredol i ddatblygu agwedd ar eich ymarfer a dechrau eich gyrfa fel athro sy'n seilio ymarfer ar ymchwil.  

Modiwlau Dechrau Medi - 2023

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Addysgeg Effeithiol AD31630 30
Astudiaethau Proffesiynol ADM1330 30
Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm AD31530 30
Sgiliau Gwerthuso a Dysgu ADM1430 30

Gyrfaoedd

Mae cwblhau TAR yn un ffordd o ddod yn athro cymwysedig llawn. Argymhellir y math hwn o hyfforddiant athrawon i unrhyw un sydd â gradd israddedig ac sy'n dymuno ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC).  

Mae angen SAC arnoch i addysgu yn ysgolion y wladwriaeth neu mewn ysgolion arbennig yng Nghymru a Lloegr. Er bod llwybrau eraill i ennill SAC, nid yw pob un yn arwain at gymhwyster ôl-raddedig TAR. Mae TAR o Brifysgol Aberystwyth yn gymhwyster gwerthfawr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  

Pan fyddwch yn astudio cwrs TAR gyda ni, rydym yn eich cynorthwyo i baratoi am yrfa lwyddiannus mewn addysg. Fe gewch gyfeiriad clir, cyngor a chymorth wrth wneud ceisiadau am swyddi ac mae cyfraddau ein myfyrwyr sy’n mynd ymlaen i swydd yn gyson uchel. 

Cymorth gyda gyrfa  

Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig gwasanaeth gydol oes i'r holl raddedigion, a gall y tîm ymroddedig o ymgynghorwyr Gyrfaoedd sydd gennym barhau i'ch cefnogi ble bynnag y byddwch ar ôl i chi orffen eich astudiaethau yn Aberystwyth.   

Dysgu ac Addysgu

Asesiad

Bydd sawl ffurf o asesu myfyrwyr, gan gynnwys traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, a phroject ymchwil gweithredol. Nid oes arholiadau ffurfiol. Mae asesiad o’r ymarfer dysgu yn digwydd trwy gydol y tri lleoliad ac yn barhaus.

Themâu traws-gwricwlaidd

Mae pob athro/athrawes yn gyfrifol am addysgu tair thema draws-gwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd, a chymhwysedd digidol yng nghyd-destun eu pwnc eu hunain.

|