MA

Hanes a Threftadaeth

Mae astudio sut yr ymdrinnir â hanes y tu allan i'r byd academaidd yn faes ymchwil sydd wedi gweld twf mawr. Datblygwyd y radd Meistr hon i’r rhai hynny a chanddynt ddiddordeb mewn astudiaeth academaidd o hanes, a’r rhai hynny a chanddynt ddiddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant treftadaeth.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi archwilio cysyniadau a dadleuon allweddol ym maes astudiaethau treftadaeth, i ddysgu sgiliau busnes ym maes treftadaeth, ac i ennill credydau academaidd drwy wneud lleoliad gwaith neu interniaeth mewn sefydliad treftadaeth blaenllaw, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a fydd yn ffordd o ddatblygu eich profiad ymarferol yn y maes hwn.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunities may be available, please check our funding calculator for details. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Hanes a Threftadaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Gallwch astudio dim ond bum munud i ffwrdd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o bum llyfrgell hawlfraint yn y DU, sy’n gartref i lu o ffynonellau ar hanes Cymru, o’r cyfnod canoloesol ymlaen, gan gynnwys cofnodion ystadau, llysoedd ac eglwysi, mapiau, ffotograffau, papurau newydd, archifau preifat llawer o ffigurau blaenllaw yn hanes Cymru, yr Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. 
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith fel rhan o'r cwrs hwn gyda sefydliad sy'n ymdrin â hanes bob dydd. 
  • Mae gennym gysylltiadau cryf â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy Ceredigion a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ac maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn Aberystwyth.
  • Mae hanes wedi cael ei addysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r un hynaf yng Nghymru ac un o'r rhai mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
  • Mae ein darlithwyr yn weithgar ym maes ymchwil ac yn cael eu cydnabod fel awdurdodau blaenllaw yn eu priod feysydd.
  • Byddwch yn elwa o gael eich addysgu mewn grwpiau bach.
  • Byddwch yn elwa o arbenigedd ar draws y brifysgol wrth ymdrin â chysyniadau treftadaeth a hanes cyhoeddus.
  • Byddwch yn ymwneud ag ymchwil mewn maes sydd wedi gweld twf sylweddol ac yn ennill profiad ymarferol mewn materion treftadaeth.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd: 1 flwyddyn (amser llawn) neu 2 flynedd (rhan-amser).

Amser cyswllt: Tua 6 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf, yna bydd y myfyriwr a’r tiwtor yn cytuno rhyngddynt ar gyfnodau’r amser cyswllt.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae gan ein graddedigion yrfaoedd cynhwysfawr ac amrywiol mewn amgueddfeydd ac archifau, maes gweinyddu treftadaeth, twristiaeth, gweinyddiaeth gyhoeddus, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, dysgu, newyddiaduraeth, darlledu a chyhoeddi.

Sgiliau

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • Meithrin eich doniau beirniadol.
  • Datblygu sgiliau astudio ac ymchwil.
  • Ennill arbenigedd academaidd ac ymarferol o brosesau treftadaeth a hanesyddol.
  • Datblygu sgiliau ysgrifennu a dadansoddi cryf yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol.
  • Datblygu eich galluoedd i strwythuro a chyfleu syniadau cymhleth yn glir, yn gywir, ac yn awdurdodol.

Dysgu ac Addysgu

Sut fydda i’n ei ddysgu? 

Cyflwynir y cwrs trwy gyfuniad o seminarau, tiwtorialau, gweithdai, a lleoliad gwaith gydag asiantaeth dreftadaeth.

Bydd y modiwl craidd, 'Dulliau Ymchwil a Sgiliau Proffesiynol mewn Hanes', hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi fynychu seminarau ymchwil adrannol, lle byddwch yn ymdrwytho yn niwylliant ymchwil yr adran.

Trwy gydol y flwyddyn bydd gweithdai i helpu i ymchwilio ac ysgrifennu eich traethawd hir, ac yn ystod y semester olaf, byddwch yn trefnu lefel addas o amser cyswllt gydag arolygydd eich traethawd hir.

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Os byddwch chi'n astudio'n llawn amser, mae'r ddau semester cyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gan gynnwys modiwl lleoliad gwaith, lle byddwch chi'n chwarae rhan lawn yng ngwaith asiantaeth dreftadaeth fawr.

Mae modiwlau dewisol yn amrywiol ac yn eich galluogi i deilwra'r cwrs i weddu i'ch diddordebau.

Yn y semester olaf, byddwch yn cwblhau eich traethawd ymchwil MA, prosiect ymchwil gwreiddiol (15,000 o eiriau) a fydd yn cael ei wneud o dan arolygiaeth agos arbenigwr yn yr adran.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu trwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, prosiectau, ymarferion ymarferol, asesiadau llafar ac arholiadau ysgrifenedig.

Os cyflwynir traethawd hir MA llwyddiannus yn y semester olaf, dyfernir gradd MA. 

|