MA

Hanes Cymru

Ar y radd hon, cewch gyfle i astudio hanes Cymru o amryw o wahanol safbwyntiau thematig a chronolegol, i ddatblygu eich sgiliau ymchwilio i hanes Cymru, gan gynnwys gwersi Cymraeg, ac i weithio ar eich prosiect ymchwil eich hun ar unrhyw agwedd ar hanes Cymru, o dan oruchwyliaeth arbenigwr yn y maes.

Mae'r cwrs hwn yn manteisio ar arbenigedd heb ei ail ein tîm o haneswyr Cymru yn yr Adran er mwyn cynnig cynllun gradd sy'n addas i'r rheiny sydd wedi astudio hanes Cymru yn y gorffennol neu'r rheiny y mae'r maes hwn yn newydd iddynt.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area, or equivalent. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunities may be available; please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio MA Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Gallwch astudio dim ond bum munud i ffwrdd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o bum llyfrgell hawlfraint yn y DU, sy’n gartref i lu o ffynonellau ar hanes Cymru, o’r cyfnod canoloesol ymlaen, gan gynnwys cofnodion ystadau, llysoedd ac eglwysi, mapiau, ffotograffau, papurau newydd, archifau preifat llawer o ffigurau blaenllaw yn hanes Cymru, yr Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. 
  • Mae gennym gysylltiadau cryf â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy Ceredigion a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ac maen nhw i gyd wedi'u lleoli yn Aberystwyth.
  • Mae hanes wedi cael ei addysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r un hynaf yng Nghymru ac un o'r rhai mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.
  • Mae ein darlithwyr yn weithgar ym maes ymchwil ac yn cael eu cydnabod fel awdurdodau blaenllaw yn eu priod feysydd.
  • Byddwch yn elwa o gael eich addysgu mewn grwpiau bach.
  • Efallai y byddwch hefyd yn gallu ymgymryd â lleoliad gwaith fel rhan o'r cwrs hwn gyda sefydliad sy'n ymdrin â hanes bob dydd. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd: 1 flwyddyn (amser llawn) neu 2 flynedd (rhan-amser).

Amser cyswllt: Tua 6 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf, yna bydd y myfyriwr a’r tiwtor yn cytuno rhyngddynt ar gyfnodau’r amser cyswllt.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae gan ein graddedigion yrfaoedd cynhwysfawr ac amrywiol mewn amgueddfeydd, gweinyddu ym maes treftadaeth, twristiaeth, gweinyddiaeth gyhoeddus, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, dysgu, newyddiaduraeth, darlledu a chyhoeddi.

Sgiliau

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • Meithrin eich doniau beirniadol.
  • Datblygu sgiliau astudio ac ymchwil.
  • Datblygu sgiliau ysgrifennu a dadansoddi cryf yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol.
  • Datblygu eich galluoedd i strwythuro a chyfleu syniadau cymhleth yn glir, yn gywir, ac yn awdurdodol.
  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch profiad pwnc-benodol.
  • Ystyried arferion hanesyddol ar lefel uwch.
  • Datblygu sgiliau ymarferol a phrofiad ymarferol wrth ymchwilio i hanes.
  • Datblygu a chynnal rhaglen waith o’ch pen a’ch pastwn eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Sut fydda i’n ei ddysgu? 

Cyflwynir y cwrs trwy gyfuniad o seminarau, tiwtorialau, gweithdai, a lleoliad gwaith gydag asiantaeth dreftadaeth. Efallai y byddwch hefyd yn gallu ymgymryd â lleoliad gwaith ar gyfer credyd academaidd trwy'r modiwl ‘Working with History’.

Bydd y modiwl craidd, 'Dulliau Ymchwil a Sgiliau Proffesiynol mewn Hanes', hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi fynychu seminarau ymchwil adrannol, lle byddwch yn ymdrwytho yn niwylliant ymchwil yr adran.

Trwy gydol y flwyddyn bydd gweithdai i helpu i ymchwilio ac ysgrifennu eich traethawd hir, ac yn ystod y semester olaf, byddwch yn trefnu lefel addas o amser cyswllt gydag arolygydd eich traethawd hir.

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Os byddwch chi'n astudio'n llawn amser, mae'r ddau semester cyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd. Mae modiwlau dewisol yn ymdrin â phynciau yn hanes Cymru o'r cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern. Er bod y modiwlau yn cael eu haddysgu yn Saesneg, bydd cyfleoedd i ddilyn dosbarthiadau Cymraeg, a fydd o fudd arbennig i'r rhai sy'n dymuno ymdrin â ffynonellau cyfrwng Cymraeg. 

Yn y semester olaf, byddwch yn cwblhau eich traethawd ymchwil MA, prosiect ymchwil gwreiddiol (15,000 o eiriau) a fydd yn cael ei wneud o dan arolygiaeth agos arbenigwr yn yr adran.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu trwy gyfuniad o draethodau, adroddiadau, prosiectau, ymarferion ymarferol, asesiadau llafar ac arholiadau ysgrifenedig.

Os cyflwynir traethawd hir MA llwyddiannus yn y semester olaf, dyfernir gradd MA. 

|