MA

Astudiaethau Llenyddol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r radd hon yn cynnig profiad ysgogol o lenyddiaeth Saesneg yn ei dyfnder a'i hamrywiaeth gyfoethog, gyda'r cyfle i ddatblygu arbenigedd mewn meysydd arbenigol o'ch dewis eich hun. Trwy astudio'r datblygiadau diweddaraf ym maes damcaniaeth feirniadol a methodoleg ymchwil, byddwch yn meithrin y sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'ch traethawd hir MA 15,000 o eiriau, sy’n ddarn helaeth o ymchwil feirniadol yn eich dewis faes. Byddwch hefyd yn datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy i'w defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau academaidd neu swyddi eraill.

Fel myfyriwr MA Astudiaethau Llenyddol yn Aberystwyth, byddwch yn elwa o lyfrgell ac adnoddau technoleg gwybodaeth gwych y Brifysgol ac yn cael defnyddio casgliadau heb eu hail Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o’r pum llyfrgell ymchwil elît yn y DU.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Hons) degree in a relevant subject together with submission of a satisfactory writing portfolio. These are minimum requirements for entry. A transcript of marks demonstrating consistent performance at 2:1 level should also be provided.

Non-graduates and non-subject specialists will be considered individually based on relevant experience and submission of a satisfactory writing portfolio.

The writing portfolio should consist of 4000-5000 words of critical and/or creative prose. In cases where portfolios comprise or include poetry, 100 lines of poetry is considered equivalent to 1000 words of prose.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 7.0 in each component, or equivalent

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y radd hon yn addas i chi: 

  • Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygiadau penodol mewn Llenyddiaeth Saesneg ac eisiau dyfnhau eich gwybodaeth.
  • Os ydych am wella eich dealltwriaeth o bynciau neu gyfnodau penodol mewn hanes llenyddol.
  • Os ydych yn dymuno meithrin eich sgiliau presennol fel darllenydd ac awdur.
  • Os ydych am ddatblygu eich sgiliau ymchwil a dadansoddi ar gyfer gwaith yn y byd academaidd yn y dyfodol.

Mae'r MA mewn Astudiaethau Llenyddol yn darparu nifer o fodiwlau ar bynciau a chyfnodau diddorol o hanes llenyddol, gan gynnwys Bywydau Canoloesol, Ffuglen Cwiar, Diwylliannau Radicalaidd Rhamantiaeth, Ffuglen Boblogaidd Fictoraidd, Genres Ôl-fodern, a llawer mwy. Rhan bwysig o'r cwrs yw ysgrifennu traethawd hir 15,000 o eiriau ar bwnc arbenigol a ddewisir gennych chi mewn ymgynghoriad ag arolygydd arbenigol. Gwnawn bob ymdrech i benodi arolygydd i'ch tywys sydd â diddordebau mor debyg â phosibl i'ch rhai chi. 

Ein staff

Mae ein hymchwil, sydd o arwyddocâd cenedlaethol, yn sail i'n haddysgu a thrwy gydol eich astudiaethau cewch eich dysgu gan rai o ysgolheigion mwyaf blaenllaw'r DU mewn Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Llenyddol.  Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol cymesur. Mae ein darlithwyr naill ai'n meddu ar gymhwyster addysgu Addysg Uwch neu'n gweithio tuag ato, ac mae'r rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd yn meddu ar Gymrodoriaethau gyda Advance HE.  Mae diddordebau ymchwil staff mor eang ac mor ddeinamig â'n cwricwlwm, ac yn ddiweddar barnwyd y rhan fwyaf o'n gweithgarwch ymchwil naill ai'n rhagorol yn rhyngwladol neu gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd (REF 2021). 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

1 flwyddyn amser llawn; 2-3 blynedd rhan-amser. Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Master's Dissertation ENM0560 60
Research and Project Planning ENM3020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
21st-Century Medievalisms ENM0920 20
Late Modernist Poetry ENM0020 20
Postwar American Fiction ENM1220 20
Queer and Now: 100 years of Queer Writing ENM0220 20
Reading Ulysses ENM3120 20
Romantic Radical Cultures ENM1520 20
Sensational Sales: Victorian Popular Literature 1848-1894 ENM1720 20
Women, Fiction and Female Community, 1660-1792 ENM1620 20

Gyrfaoedd

Mae pob cwrs MA ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i gynllunio'n benodol i wella eich cyflogadwyedd. Yn ogystal â datblygu eich sgiliau ysgrifennu ac ymchwil, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feistroli’r sgiliau allweddol sydd eu hangen mewn amrywiaeth eang o weithleoedd. Byddwch yn cael eich gwthio i wella'ch dulliau o gynllunio, dadansoddi a chyflwyno fel y gallwch fynd i'r afael â phrosiectau cymhleth yn drylwyr a chydag annibyniaeth broffesiynol, a bod yn hyderus wrth gyflwyno prosiectau cadarn i sylw manwl grŵp. Bydd eich MA mewn Astudiaethau Llenyddol yn eich gosod yn y farchnad swyddi fel awdur proffesiynol sydd â sgiliau dymunol iawn ac yn addas ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau, llenyddiaeth, newyddiaduraeth neu lawer o feysydd eraill.

Sgiliau a Chymwyseddau Allweddol

Byddwch yn dysgu sut i adnabod ac arholi’r deunyddiau a'r llenyddiaeth fwyaf perthnasol yn eich maes. Byddwch yn cael eich dysgu i feistroli amrywiaeth o fethodolegau ymchwil ac, yn bwysig, byddwch yn dysgu cyfiawnhau eich dull methodolegol dewisol o ymdrin â'ch pwnc. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio eich ymchwil a'ch dadansoddi mewn trafodaeth feirniadol ac adeiladu dadleuon academaidd soffistigedig. Byddwch yn dysgu cydosod, cymhathu, dehongli a chyflwyno ystod eang o wybodaeth am eich arbenigedd, sgiliau y mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdanynt ym meysydd y gwasanaeth sifil a newyddiaduraeth i'r cyfryngau a masnach.

Hunan-gymhelliant a Disgyblaeth

Mae astudio ar lefel MA yn gofyn am lefelau uchel o ddisgyblaeth a hunan gymhelliant gan bob ymgeisydd. Er y bydd arbenigedd ac arweiniad defnyddiol y staff Adrannol ar gael i chi, yn y pen draw chi sydd yn gyfrifol am ddyfeisio a chwblhau rhaglen barhaus o ymchwil ysgolheigaidd wrth i chi anelu at eich gradd MA.  Bydd y broses hon yn cryfhau eich sgiliau wrth gynllunio, gweithredu a dadansoddi prosiectau gwaith mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu’r arfer safonol ym myd gwaith cyflogedig.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Mae'r radd MA wedi'i chynllunio i roi ichi ystod o sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu defnyddio mewn amrywiaeth o ddiddordebau ymchwil a chyd-destunau cyflogaeth.  Ar ôl graddio, byddwch wedi profi eich galluoedd wrth strwythuro a chyfathrebu syniadau'n effeithlon, ysgrifennu ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd a siarad â hwy, cloriannu a threfnu gwybodaeth, gweithio'n effeithiol gydag eraill a gweithio i derfynau amser penodol.

Dysgu ac Addysgu

Mae rhan sylweddol o'r cwrs wedi'i neilltuo i sgiliau ymchwil, gan gynnwys manteisio ar adnoddau llyfrgell; defnyddio cyfnodolion electronig a chronfeydd data; creu llyfryddiaeth feirniadol; ymchwilio ac ysgrifennu cynnig; a hogi eich sgiliau cyflwyno llafar. Byddwch hefyd yn cael eich dysgu i arholi gwahanol fathau o destun, neu agweddau ar y testun llenyddol, y mae angen eu hystyried wrth astudio llenyddiaeth ar lefel ôl-raddedig a thu hwnt.

Asesu

Mae’r asesu ar ffurf cynnig ymchwil, gan gynnwys llyfryddiaeth feirniadol; cyflwyniadau llafar a arholir; a thraethodau o 3,000-5,000 o eiriau. Yn y trydydd semester, byddwch yn cwblhau traethawd hir MA o 15,000 o eiriau ar bwnc arbenigol o'ch dewis.

|