Darganfyddwch fwy am yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei feddwl am eu cwrs:
Bryan Harte
"Ar ôl cwblhau gradd israddedig mewn Gwyddor Anifeiliaid, dychwelais i'r Ynys Werdd a dechrau gweithio gyda Grassland Agro. Cwmni gwrtaith yw Grassland Agro yn bennaf oll, ond mae ganddo hefyd ystod o atchwanegion mwynau ar gyfer anifeiliaid cnoi cil. Roeddwn yn y swydd hon am ychydig llai na blwyddyn, ac ar y cam hwn roeddwn wedi siarad â nifer o uwch reolwyr yn Grassland Agro a hefyd mewn gwahanol gwmnïau am ddilyniant gyrfa. Roedd gan bob un ohonynt farn wahanol, fodd bynnag, yr un peth yr oeddent i gyd yn cytuno arno oedd y byddai MSc yn hanfodol yn y dyfodol agos.
Ar y cam hwn dechreuais edrych ar y gwahanol opsiynau MSc. Gan fod gen i ddiddordeb brwd mewn swyddogaeth a maeth da byw, roedd yr MSc mewn Gwyddor Da Byw ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu popeth roeddwn i'n chwilio amdano! Roedd y cwrs yn ddigon eang fel bod llawer o wahanol agweddau ar wyddor da byw yn cael eu cynnwys, wrth hefyd ganiatáu i chi ganolbwyntio ar yr hyn sydd o ddiddordeb mawr i chi, trwy ganiatáu i chi ddewis teitlau eich aseiniadau a'ch traethawd hir. Efallai bod bywyd nos gwych a rygbi hefyd wedi cyfrannu at y penderfyniad i ddod i Aber. . . . .
Ar gyfer fy nhraethawd hir gweithiais gyda'r Athro Jamie Newbold yn ymchwilio i effeithiau echdyniadau o blanhigion (saponinauar y protosoaid yn y rwmen. Ar ôl cwblhau'r gwaith yn y labordy, symudais adref i Iwerddon i ysgrifennu'r traethawd hir. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus bod Grassland Agro wedi cadw fy swydd, felly roeddwn i'n gallu dechrau gweithio yn syth pan symudais adref. Ar ddiwrnod arferol, rwy'n cwrdd ag ychydig o fasnachwyr sy'n gwerthu ein stoc a hefyd yn gwirio’r cnydau tatws, gwenith a silwair a gafodd eu trin â'n gwrtaith. Pwrpas cerdded trwy gnydau o’r fath yw dangos i’r ffermwyr y manteision o ddefnyddio ein cynnyrch, fel y byddant yn parhau i brynu’r cynnyrch.
Mae'r wybodaeth a'r profiad a gefais o gwblhau MSc mewn Gwyddor Da Byw yn hanfodol mewn diwydiant sy'n dod yn fwyfwy technegol a chymhleth. Ar ôl cwblhau'r MSc rwyf yn hyderus iawn bod gen i lawer o'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu fy ngyrfa yn y diwydiant amaeth."
Xenofon Dimitrakopoulos
"Roeddwn i'n gweithio fel Milfeddyg yn y diwydiant da byw yng Ngroeg am dair blynedd pan deimlais yr angen i wella fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth ym maes maeth da byw. Mae nifer sylweddol o broblemau iechyd ymhlith da byw yn deillio o beidio â rheoli maeth yn briodol, ac roeddwn yn chwilio am gwrs a allai gyfoethogi fy ngwybodaeth a chynnig y potensial i mi roi strategaethau maeth ar waith ar y fferm. Yr MSc Gwyddor Da Byw ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd yr un mwyaf addas ar gyfer fy anghenion. IBERS yw'r sefydliad mwyaf adnabyddus ym maes maeth da byw, gan gyfuno nifer o agweddau ar wyddor anifeiliaid. Mae ymchwil helaeth ar gynhyrchiant da byw, microbioleg, gwelliant genetig mewn da byw a phlanhigion yn rhai o'r meysydd gwyddonol a gwmpesir yn IBERS.
Felly dyma fi’n penderfynu dod i Aberystwyth. Tref fach, ond 'mawr', ar yr un pryd. Atgofion braf gyda fy nghyd-fyfyrwyr a’r athrawon, ond yn bwysicaf oll, ehangu fy ngwybodaeth wyddonol. Yn ystod y cwrs cefais gyfle i astudio’r cysylltiadau rhwng maeth da byw, cynhyrchiant a datblygiad clefydau yn fanwl. Fe wnaeth labordai o'r radd flaenaf gyda'r offer diweddaraf, llyfrgell gydag adnoddau helaeth a phersonél addysgu a oedd bob amser yn barod i helpu, droi'r cwrs yn daith at wybodaeth.
Y llynedd, o safbwynt gwyddonol, roeddwn yn fwy parod i ddarparu atebion i ffermwyr a'r diwydiant bwydo. Gyda fy nhraethawd hir fe wnes fy nghyfraniad i'r ymchwil ar gloffni mewn gwartheg gan ymchwilio i'r effaith ar gynhyrchiant. Fodd bynnag, fe wnaeth yr MSc ddatblygu fy mhersonoliaeth yn ogystal â’m gwybodaeth wyddonol. Cydweithio â myfyrwyr o bob cwr o'r byd, gwaith tîm ac yn anad dim cael mwynhau golygfeydd Cymru a chael cwrdd â'r Cymry croesawgar.
Ar ôl fy siwrnai yng Nghymru, dychwelais i Wlad Groeg a chymhwyso fy ngwybodaeth i'm cleientiaid. Mae rhedeg practis milfeddygol anifeiliaid cymysg yn dasg anodd yn ei hun, fodd bynnag fe wnaeth fy mhrofiad yn IBERS fy nghynorthwyo i ddarparu'r gwasanaethau maeth gorau posibl, sy'n ychwanegu gwerth ychwanegol at fy ymarfer.
Os mai gwelliant proffesiynol a chyfoethogi eich gwybodaeth wyddonol ym maes maeth da byw yw eich nod, peidiwch â meddwl ddwywaith cyn dod yn aelod o deulu helaeth IBERS. Pob lwc"